Mae rhai o afonydd Cymru yn agosáu at eu lefelau isaf ar gofnod, ac mae disgwyl i rannau o'r wlad wynebu datganiad o sychder yn ddiweddarach ddydd Iau. Mae'r rhybudd yn dod wrth i Gymru weld oddeutu 5% o'r glaw arferol ar gyfer mis Gorffennaf hyd yma, ar ôl sawl ton o wres a chyfnod sychach na'r arfer ers mis Ebrill.
Mae mudiad Afonydd Cymru wedi rhybuddio bod llif isel sawl afon yn achosi "problemau sylweddol" i fywyd gwyllt, tra bod undebau amaeth yn dweud bod cnydau'n methu a da byw o dan straen. Mae disgwyl cyhoeddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) brynhawn Iau, ac mae'r corff amgylcheddol wedi dweud ei fod yn monitro'r sefyllfa'n agos.
Fe gyhoeddodd CNC fod gogledd a de ddwyrain Cymru yn symud i statws 'cyfnod hir o dywydd sych' yr wythnos diwethaf - sef y cam cyn datgan sychder swyddogol.
Mae hyn yn arwain at fwy o fonitro a phrofi afonydd ac ardaloedd o bwys i fywyd gwyllt, ynghyd â chyngor i ffermwyr a'r busnesau sy'n tynnu dŵr o afonydd.
Ymysg yr afonydd sydd â lefelau eithriadol o isel o ddŵr mae afonydd Clwyd, Alwen, Alun, Clywedog, Dyfi, Conwy a'r Gwy.
Mae dŵr ychwanegol yn cael ei ryddhau o gronfeydd i gynnal llif afonydd Clwyd a Gwy, yn ogystal ag afon Hafren ac afon Dyfrdwy.
Mae sychder amgylcheddol yn golygu prinder dŵr mewn afonydd ac yn y pridd, gan effeithio ar ecosystemau. 
Petai rhai o'r dalgylchoedd hyn yn symud i statws o sychder amgylcheddol, byddai hynny'n golygu prinder dŵr yn yr afonydd ac yn y tir, gyda phriddoedd sych hefyd yn cael effaith niweidiol ar ecosystemau.
Nid yw hyn yn golygu bod bygythiad i ddŵr yfed a chyflenwadau i gartrefi a busnesau ar hyn o bryd. Mae cyhoeddiadau o'r fath yn dod gan gwmnïau dŵr.
Ond bydd datganiad o sychder amgylcheddol yn golygu neges gryfach i'r cyhoedd ar arbed dŵr, er mwyn lleihau'r pwysau ar afonydd a chronfeydd sy'n cynnal bywyd gwyllt, cynefinoedd a'r pridd.
Caeau sych i'w gweld yn ardal Llangollen ddydd Mercher.

Dywedodd Gail Davies-Walsh, pennaeth Afonydd Cymru, fod nentydd ac afonydd y wlad o dan straen sylweddol yn barod oherwydd llygredd.
"Mae'r diffyg glaw a lleihad yn llif afonydd wir yn dechrau gwaethygu ansawdd dŵr," meddai.
"Ry'n ni'n barod wedi cael cwpwl o afonydd sydd wedi sychu'n llwyr a ry'n ni'n derbyn adroddiadau o bysgod sydd wedi marw oherwydd prinder dŵr."
Mae tymereddau'r dŵr hefyd yn arwain at bryderon am fywyd gwyllt, gyda thymereddau mor uchel â 28 gradd wedi'u cofnodi ar afonydd Gwy ac Wysg.
Deall y rhwystredigaeth yna
Dywedodd MS Davies-Walsh ei bod yn poeni bod rhwystredigaeth pobl gyda chwmnïau dŵr ynglŷn â charthffosiaeth a phibellau'n gollwng yn golygu eu bod nhw'n llai tebygol o wrando ar gyngor ynglŷn â bod yn ofalus a'u defnydd o ddŵr.
"Dwi'n edrych ar yr holl sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol a dwi'n deall y rhwystredigaeth yna," meddai.
"Ond mae wir angen i ni feddwl am y ffaith bod ein defnydd ni o ddŵr yn effeithio'n uniongyrchol ar y llif yna yn yr afonydd ac yn effeithio yn uniongyrchol ar bysgod a gallu bywyd gwyllt i oroesi.
"Mae angen i ni wneud be fedrwn ni i'w gwarchod nhw."
Dywedodd Gail Davies-Walsh fod nentydd ac afonydd y wlad o dan straen sylweddol yn barod oherwydd llygredd. 
Ym mhebyll garddwriaeth y Sioe Fawr yn Llanelwedd roedd ffermwyr a thyfwyr yn barod iawn i sôn am drafferthion y tywydd sych. Roedd cryn drafod y tywydd sych yn adran arddwriaeth y Sioe Fawr. 
Mae Nerys Jones yn tyfu blodau a llysiau yn Nolanog ger Llanfair Caereinion, ac mae'r dŵr i'w chartref yn dod o ffynnon 30 troedfedd o ddyfnder yn yr ardd.
"Mae'n ok, ar hyn o bryd, ond 'da ni'n dyfrio'n ofalus, a defnyddio ychydig yn y tŷ"
"Da ni'n gallu gweld lefel y dŵr yn newid, ac mae'n bell o fod yn normal, mae'n isel, isel iawn. 'Da ni bron ddim yn gallu gweld y dŵr ar hyn o bryd".
"Dwi'm 'di gweld hi mor sych â hyn, dwi'm 'di gweld hi mor isel â hyn - erioed dwi'm yn credu."
Fe wnaeth ei ffrind Elinor Edwards, Llangadfan, ymddeol y llynedd ac mae wedi cymryd y cyfle i ailddechrau tyfu llysiau.
"Mae pethe fel beetroot yn gwneud yn dda, ond dydy pethe fel cennin ddim yn tyfu bron dim o gwbl."
Mae Jack Bourke-Bennett yn athro o Dreuddyn, Sir Fflint, ac yn ymweld â'r sioe gyda'i bartner, Elen Hughes.
"Mae'r plant yn siarad amdano fo. Maen nhw'n dod o ar draws yr ardal, rhei yn dod lawr o agos at y môr a rhei yn dod o gefn gwlad, o ffermydd ac mae o'n effeithio pawb."
Dywedodd Elen fod y fferm deuluol wedi gorfod dechrau bwyd porthiant y gaeaf i'w gwartheg yn barod, am nad oedd y gwair yn tyfu.
"Mae 'di bod yn sych iawn, ond hefyd yn boeth ofnadwy ac mae hynny'n golygu bod da byw o dan straen," meddai Abi Reader, llywydd NFU Cymru.
"Mae'n rhaid i chi neud yn siŵr bod ganddyn nhw ddigon o ddŵr a chysgod a ry'n ni'n clywed am ffermydd lle mae'u ffynnon neu'u nentydd wedi sychu," meddai.
Roedd cnydau'n gorfod cael eu cynaeafu yn arbennig o gynnar hefyd eleni, meddai - gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un digynsail - fyddai'n effeithio'n ariannol ar ffermwyr.
Seiliedig ar y galw lleol am ddŵr
Pwysleisiodd Dŵr Cymru fod datganiadau sychder Cyfoeth Naturiol Cymru yn wahanol i'w cyhoeddiadau nhw am brinder dŵr.
Mae'r cwmni eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad ar ddefnyddio pibellau dŵr ar gyfer 33,000 o dai yng ngorllewin Cymru.
"Mae statws sychder CNC yn adlewyrchu amodau amgylcheddol, gan gynnwys ffactorau megis glawiad, llif afonydd a lefelau dŵr daear," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
"Mewn cyferbyniad, mae Gwaharddiad Defnydd Dros Dro Dŵr Cymru yn fesur gweithredol sy'n seiliedig ar y galw lleol am ddŵr a'n gallu i ailgyflenwi cronfeydd gwasanaeth â dŵr yfed ar yr un gyfradd, neu'n gyflymach nag y mae cwsmeriaid yn defnyddio'r dŵr.
"Caiff hyn ei yrru gan allu'r gweithfeydd trin dŵr lleol a'r rhwydwaith dosbarthu i ymdopi â'r galw parhaus.
"Mae hyn yn golygu y gall gwahanol rannau o Gymru wynebu pwysau gweithredol gwahanol, hyd yn oed os nad ydynt yn yr un categori sychder amgylcheddol sydd wedi ei ddatgan gan CNC."
Nid yw'r datganiad sydd ar y gweill yn newid y ffaith bod cyflenwadau dŵr yfed i gartrefi a busnesau yn cael eu rheoli ar wahân gan gwmnïau dŵr, ond mae'r sefyllfa bresennol yn parhau i roi pwysau sylweddol ar afonydd, cronfeydd a chynefinoedd bywyd gwyllt ledled Cymru.







