Gareth Evans-Jones o Ynys Môn yw enillydd Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae eisoes wedi ennill y gystadleuaeth ddwywaith o'r blaen, yn 2019 a 2021.
Roedd 28 o ymgeiswyr eleni mewn cystadleuaeth "o safon uchel iawn", ond dywedodd y beirniaid bod y gwaith yn haeddu ennill "am ei chynfas eang, ei chwareustra, a'i dyfeisgarwch".
Cafodd y fedal ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Mur' neu 'Muriau'. Y beirniaid oedd Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price.
Ewch yma am fwy o straeon o'r Eisteddfod
Dyfodol yn 'ddisglair iawn'
Roedd pedwar yn haeddu cyrraedd y dosbarth cyntaf o'r rhai a wnaeth ymgeisio, ac fe wnaeth y beirniaid longyfarch Cadno, Isha, O Bach a Pibydd.
"Llongyfarchiadau twymgalon i'r pedwar awdur: mae'n gysur i ni fel beirniaid, y gallwn edrych ymlaen yn awchus at weld gwaith pob un yn cael ei gyhoeddi, i bawb allu rhyfeddu at eich dawn."
Dywedodd hefyd bod "nifer fawr yn haeddu cael eu cyhoeddi", yn cynnwys Alba, Jo Bach, Morlo, Panad, Siriol ac Y Mynyddwr.
Dywedodd bod y gystadleuaeth eleni yn arwydd o ddyfodol "disglair iawn" rhyddiaith Gymraeg.
Ond ar ôl trafod yn frwd, dywedodd Meleri Wyn James bod gwaith Isha yn dod i'r brig.
Cafodd y gwaith ei ddisgrifio fel "campwaith" gan feirniad arall, Iwan Rhys.
Daw Gareth Evans Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn.
Mae'n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru.
Mae'n parhau i lenydda, wedi cyhoeddi dwy nofel i oedolion, Eira Llwyd ac Y Cylch, cyfrol o len micro a ffotograffau, Cylchu Cymru: Llun a Llen wrth Gerdded (a enillodd Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023), a chyfrol o straeon byrion i blant, Llanddafad (a enillodd wobr Dewis y Darllenwyr yng Ngwobrau Tir na-nOg 2025).
Mae hefyd wedi golygu a chyd-olygu cyfrolau academaidd a chreadigol, gan gynnwys Curiadau: Blodeugerdd LHDTC+ ac Ar Amrantiad.
Enillodd Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 2019 a 2021, gyda rhai o'r gweithiau iddo'u sgriptio gael eu cynhyrchu, gan gynnwys Adar Papur (cynhyrchiad digidol ar YouTube), Ynys Alys (Fran Wen), a Dilyn Sgwarnog (Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Ynys Mon eleni). Mae hefyd yn barddoni ac fe luniodd cerdd groeso Eisteddfod yr Urdd 2026.
Bydd y gyfrol ar werth ar ddiwedd y seremoni mewn siopau llyfrau ar y Maes ac ar draws Cymru.
Mae'r fedal eleni yn rhoddedig gan Hazel, Geralyn, ac Eirlys Non er cof am eu rhieni, Gwynfi a Megan Williams, Blaenmorw, Capel Newydd i ddiolch am fagwraeth hyfryd a'u trwytho yn y "pethe".
Mae'r wobr ariannol o £750 yn rhoddedig gan John a Bethan Davies, Cwmbetws - John Davies yw cadeirydd y pwyllgor gwaith.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
## Pynciau cysylltiedig
## Straeon perthnasol
Y diweddaraf ar ddiwrnod gwobrwyo y Prif Lenor Rhyddiaith
'Cywilyddus' defnyddio AI i ysgrifennu nofel yn yr Eisteddfod







