Skip to main content
Advertisement

Ysgolion a Gwasanaethau'n Addasu Trefniadau wrth Baratoi am Wres Eithafol yng Nghymru

Mae ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn addasu trefniadau wrth i'r wlad baratoi am y rhybudd coch cyntaf am wres eithafol, gyda thymheredd yn rhagweld i gyrraedd 38-40C mewn rhannau o dde a chanolbarth Cymru ddydd Mercher a dydd Iau.

·4 min read
Rhybudd coch

Newidiadau mewn ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus wrth i Gymru baratoi am wres eithafol

Mae ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru yn gwneud newidiadau i'w trefniadau wrth i'r wlad baratoi ar gyfer y rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhagweld y gallai tymheredd cyrraedd rhwng 38C a 40C mewn rhai rhannau o dde a chanolbarth Cymru ddydd Mercher a dydd Iau.

Mae ysgolion yn cael eu hannog i asesu'r risgiau i ddisgyblion ac ystyried gohirio neu addasu gweithgareddau awyr agored yn ystod y cyfnod poethaf.

Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, fod y rhybudd yn un "difrifol i fywyd" a'i bod yn bwysig bod pobl yn ei gymryd o ddifrif.

Mae'r rhybudd coch yn weithredol rhwng 09:00 ddydd Mercher a 21:00 ddydd Iau ar gyfer nifer o siroedd yn ne a chanolbarth Cymru.

Rhybudd coch am wres eithafol i rannau o Gymru am y tro cyntaf

Mae rhybuddion oren hefyd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer rhannau helaeth o Gymru.

Mae rhai ysgolion cynradd yng Nghaerffili a Chaerdydd wedi cadarnhau y byddan nhw'n cau oherwydd y tywydd eithafol.

Mae nifer o gynghorau'n monitro'r sefyllfa ac yn cydweithio ag ysgolion i asesu'r risgiau.

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod diwrnodau chwaraeon a theithiau ysgol yn cael eu gohirio neu eu canslo lle bo modd, gyda llai o weithgarwch corfforol a mwy o egwyliau dŵr yn cael eu trefnu.

Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i ysgolion ystyried lleihau'r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr haul a darparu prydau ysgafnach yn ystod y cyfnod poeth.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud y dylai ysgolion roi "ystyriaeth ddifrifol" i addasu, gohirio neu ganslo digwyddiadau os nad oes modd lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwres.

Advertisement

Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg mai penderfyniad pob ysgol unigol fydd trefnu unrhyw newidiadau i weithgareddau neu oriau agor.

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai Rhun ap Iorwerth

Dyn yn yfed dŵr yn yr haul
Disgrifiad o’r llun, "Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai Rhun ap Iorwerth

Mae nifer o gynghorau hefyd wedi newid trefniadau gwasanaethau er mwyn diogelu staff sy'n gweithio yn yr awyr agored.

Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn dechrau'n gynharach na'r arfer yng Nghaerdydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn ystod y cyfnod o wres eithafol.

Mae Cyngor Casnewydd wedi cyhoeddi y bydd Amgueddfa Casnewydd, yr Oriel Gelf a'r Llyfrgell Ganolog yn cau ddydd Mercher a dydd Iau oherwydd y tymheredd uchel a ragwelir.

Mae'r diwydiant rheilffyrdd hefyd yn paratoi ar gyfer problemau posibl oherwydd y gwres, gan gynnwys gwifrau trydan yn sagio, traciau'n ystumio a thanau ar ochr y rheilffordd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio am darfu ar rai gwasanaethau yn ne Cymru, gan gynnwys rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd a rhwng Coryton a Phenarth.

Mae Great Western Railway wedi dweud y bydd yn rhedeg amserlen ddiwygiedig yn ystod y cyfnod o wres eithafol, gan annog pobl i deithio dim ond os yw'n hanfodol ddydd Mercher ac Iau oherwydd y risg y gallai'r gwres effeithio ar y traciau a rhai trenau.

'Cadw llygad ar ein gilydd'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu grŵp lefel uchel sy'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau eraill i gydlynu'r ymateb.

Ychwanegodd fod llythyr wedi'i anfon at gyfarwyddwyr addysg ledled Cymru yn pwysleisio bod plant ymhlith y rhai a all fod yn fregus yn ystod y gwres eithafol.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod cymunedau'n chwarae rhan bwysig wrth edrych ar ôl pobl fregus, gan annog pobl i

"gadw llygad ar ein gilydd" yn ystod y cyfnod poeth.

"Mae 'na gamau sy'n gallu cael eu cymryd er mwyn ein diogelu ni gyd - mae hwn yn rybudd difrifol i fywyd," meddai.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News