Skip to main content
Advertisement

'Tad ffyddlon a charedig' wedi marw ar ôl ymosodiad honedig yn Nhwrci

Bu farw Scot James, 34 oed o Faesteg, ar 26 Gorffennaf ar ôl cael ei gludo o Dwrci mewn ambiwlans awyr. Mae ei deulu’n dweud nad oes geiriau i fynegi eu poen.

By The UK Pulse Editorial Team··2 min read·How we work
Scot James

Mae teulu Cymro fu farw yn dilyn ymosodiad honedig yn Nhwrci yn dweud

"nad oes geiriau i fynegi'r boen"
maen nhw'n ei deimlo wedi'r golled. Bu farw Scot James, 34 oed o Faesteg, yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 26 Gorffennaf ar ôl cael ei gludo'n ôl o Dwrci mewn Ambiwlans Awyr yn dilyn yr ymosodiad honedig.

Mae'r awdurdodau yn Nhwrci bellach yn ymchwilio i'r ymosodiad honedig ar Mr James, gyda chefnogaeth gan y Swyddfa Dramor.

Gwagle enfawr yn ein bywydau?

Dywedodd teulu Mr James mewn datganiad mai ef oedd calon y teulu a bod pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu.

"Roedd yn fab, ŵyr, brawd, partner, tad, ewythr a ffrind ffyddlon ac fe gafodd ei garedigrwydd effaith ar fywydau cymaint o bobl.

"Roedd ganddo ddawn naturiol i ddod â phobl ynghyd a byddai'n creu argraff ar bawb oedd â'r fraint o'i adnabod.

Advertisement

"Mae'n calonnau wedi torri. Nid oes geiriau all fynegi'r boen rydyn ni'n ei deimlo na chwaith y gwagle enfawr yn ein bywydau.

"Byddwn yn trysori'r amser gawsom ni gyda Scot a bydd wastad yn agos at ein calonnau... 'nawn ni fyth ei anghofio."

Ychwanegodd y teulu eu bod yn ddiolchgar o'r holl garedigrwydd a chefnogaeth y maen nhw wedi ei dderbyn wedi'r digwyddiad a'u bod yn gofyn i bobl barchu eu preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News