Skip to main content
Advertisement

Plac Cofio Mabel Wulff am Wrthwynebiad i'r Gestapo yn Hamburg

Mabel Wulff, o Gasnewydd, a wrthwynebodd y Gestapo yn Hamburg yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi cael plac cofio am ei dewrder a'i gwaith cadw eglwys Anglicanaidd yn ddiogel.

·4 min read
Mabel Wulff

Plac i gofio ymdrech arwrol dynes o Gasnewydd yn erbyn y Gestapo

Mae dynes a wrthwynebodd y Gestapo yn Yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi derbyn plac i'w choffáu yn ei dinas enedigol, Casnewydd.

Roedd Mabel Wulff yn byw yn Hamburg gyda'i theulu am dros 40 mlynedd, ac mae nifer yn diolch iddi am ofalu am eglwys Anglicanaidd yn y ddinas yn ystod y rhyfel, 'na fyddai wedi goroesi' oni bai am ei gwaith caled.

O Gasnewydd i Hamburg

Cafodd Mabel Phillips ei geni yn ardal Pilgwenlli y ddinas yn 1887.

Yn 1909, priododd Max Wulff, Almaenwr a chyn-forwr, a bu'r ddau'n rhedeg caffi ar Heol Alexandra.

Max a Mabel Wulff ar ddiwrnod eu priodas - 7 Ionawr 1909
Disgrifiad o’r llun, Max a Mabel Wulff ar ddiwrnod eu priodas - 7 Ionawr 1909

Ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd Max ei garcharu, ac ar ôl ei ryddhau ar ddiwedd y rhyfel, cafodd ei anfon yn ôl i'r Almaen. Aeth Mabel a'u dau fab, Edward a Leonard, draw ato, ac ymgartrefodd y teulu yn ninas Hamburg.

Yn 1924, daeth Mabel yn ofalwr yn Eglwys Anglicanaidd Thomas à Becket – neu'r 'Eglwys Saesneg' – a gwneud hynny am 40 mlynedd.

Dyma swydd y cymerodd o ddifrif yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Amddiffyn yr eglwys

Roedd gan y Gestapo ddiddordeb mawr yn yr eglwys Anglicanaidd yma a oedd â gofalwr Prydeinig, felly byddan nhw'n ymweld yn aml.

Roedd un o faneri y Lleng Brydeinig yn cael ei gadw'n yr eglwys, ac roedd y Gestapo yn awyddus i gael gafael arno. Byddai Mabel yn cuddio'r faner drwy ei stwffio tu ôl i ris bren ar waelod yr allor, ac ni fuodd y faner byth yn nwylo'r Almaenwyr.

Sicrhaodd Mabel hefyd fod nifer o arteffactau'r eglwys allan o'u cyrraedd, yn ogystal â bod yn ddiogel rhag cael eu difrodi gan yr ymladd, fel ffynnon fedyddio marmor a darnau o gelf gain.

Doedd Mabel ddewr ddim ofn y Gestapo pan y byddan nhw'n dod i'w chwestiynu – ac yn aml, roedden nhw'n sefyll yn union uwchben ble'r oedd y creiriau hyn yn cael eu cuddio, heb yn wybod iddyn nhw.

Advertisement
Mabel
Disgrifiad o’r llun, Mabel gyda'r ffynnon farmor y diogelodd gan y Gestapo a bomiau'r Prydeinwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Agorodd Mabel ddrysau'r eglwys i fod yn lloches i bobl oedd wedi colli eu cartrefi i fomiau'r Prydeinwyr a oedd yn disgyn ar Hamburg, yn arbennig yn ystod ymosodiadau dwys ym mis Gorffennaf 1943.

Cafodd yr eglwys ei daro fwy nag unwaith, a byddai Mabel yn rhuthro draw i ddiffodd y tanau cyn iddyn nhw ledu, gan osgoi mwy o ddifrod.

Mae nifer yn credu na fyddai'r eglwys wedi goroesi heb ymdrech arwrol Mabel i'w gadw'n ddiogel.

Mabel yn dychwelyd y faner yn ôl i'r Lleng Brydeinig ar ddiwedd y rhyfel

Mabel gyda'r faner
Disgrifiad o’r llun, Mabel yn dychwelyd y faner yn ôl i'r Lleng Brydeinig ar ddiwedd y rhyfel

Ar ddiwedd y rhyfel, roedd Mabel wrth law i gynghori ac i helpu wrth i'r eglwys gael ei hail-adeiladu. Mae un o'r darluniau a gafodd ei amddiffyn ganddi nawr uwch ben yr allor, a'r faner dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Symudodd Mabel yn ôl i Gasnewydd yn yr 1960au ar ôl i Max farw, ac yno y bu farw yn 1978, yn 90 oed.

Anrhydeddu arwres

Mae Placiau Porffor yn cael eu gosod i anrhydeddu rhai o ferched hynod – ond yn aml, anghofiedig – Cymru.

Derbyniodd Mabel Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1956 am ei dewrder, ac roedd plac er cof am ei hymdrech yn yr Eglwys Saesneg yn Hamburg ers blynyddoedd, ond nawr mae'n cael ei chofio yn y ddinas lle y cafodd ei geni.

Eddie Wulff, gyda'i wyresau, ger y plac porffor i gofio am Mabel

Eddie gyda'i wyresau
Disgrifiad o’r llun, Eddie Wulff, gyda'i wyresau, ger y plac porffor i gofio am Mabel
"Roedd hi mor ddewr, yn byw fel Cymraes mewn gwlad anghyfeillgar yn ystod y Rhyfel, ond safodd ei thir, gan gynnig lloches i bobl oedd wedi colli eu cartrefi yn ystod erchyllterau'r ymladd.
Mae hi mor bwysig i mi ei bod hi'n cael ei anrhydeddu yn y lle roedd hi'n ei alw'n gartref."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

  • Plac porffor i Mollie Phillips, yr arloeswraig sglefrio iâ o Gaerfyrddin
  • Pwy oedd y seren snwcer, Agnes Davies?
  • Y Cymro a helpodd i dwyllo Hitler

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News