Datgymalu llong Resolute wedi'i gwblhau ar ôl misoedd
Mae gwaith o symud a datgymalu llong 24 metr o hyd a fu'n sownd ar greigiau oddi ar arfordir Sir Benfro wedi cael ei gwblhau dros y penwythnos.
Credir bod y llong 'Resolute' – a oedd yn gwasanaethu fel llong warchod ar gyfer fferm wynt yn y môr ger Iwerddon – wedi drifftio i'r creigiau yng ngorllewin Cymru yn ystod tywydd garw fis Rhagfyr y llynedd.
Daeth y llong yn sownd ger Abergwaun, gan arwain at achub pedwar aelod o'r criw.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y llong wedi aros yn sownd ar y creigiau ac mai cyfrifoldeb ei pherchennog oedd ei symud.
Dechreuodd y contractwyr morol arbenigol Jevington Logistics, o Ddoc Penfro, ar y gwaith datgymalu ar 29 Mehefin.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi defnyddio peiriant cloddio mawr gyda siswrn wedi'i atodi iddo i dorri'r llong yn ddarnau – roedd y peiriant yn arnofio ar bad enfawr 36 metr o hyd.
Yna, cafodd y darnau mawr o ddur eu torri i ddarnau llai gan staff yn defnyddio fflam-dorwyr nwy, cyn iddyn nhw gael eu hanfon at gwmni lleol i'w hailgylchu.

Steve Bradley oedd arweinydd y gwaith datgymalu.
Amcangyfrifodd Steve Bradley – cyfarwyddwr gweithrediadau Jevington Logistics – y byddai cyfanswm o 110 tunnell o ddur yn cael ei adfer o'r "llong a oedd wedi'i hadeiladu yn gadarn".
Siaradodd Mr Bradley â BBC Cymru o gwch tynnu tra oedd y gwaith datgymalu yn parhau gerllaw.
"Ar hyn o bryd dwi ar bont y 'Forth Trojan', ac union o fy mlaen mae'r bad lle mae'r cloddiwr yn gweithio. Mae'n cnoi darnau oddi ar strwythur metel y llong."
Ychwanegodd y byddai'r cwmni, ar ôl i'r prif waith datgymalu glirio'r llong, yn chwilio'r creigiau ger y man lle'r aeth y 'Resolute' yn sownd, yn ogystal â gwely'r môr oddi tano, i sicrhau na chafodd dim byd ei adael ar ôl.

Fe ddechreuodd y gwaith datgymalu a symud darnau tua diwedd mis Mehefin.
Ym mis Chwefror, dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y rhan fwyaf o danwydd y 'Resolute' wedi'i drosglwyddo i'r lan, ac nad oedd unrhyw adroddiadau o lygredd ar wahân i'r ychydig bach gafodd ei ganfod yn fuan wedi iddi daro'r creigiau.
Dywedodd Steve Bradley mai datgymalu'r llong oedd y ffordd orau o gael gwared arni, gan fod "tyllau eithaf mawr" yn ei gwaelod.
"Mae sianel 12 metr o led y gellir ei defnyddio i gyrraedd ochr dde'r llong. Felly wnaethon ni ddewis y bad ro'n ni am ei ddefnyddio – roedd angen iddo fod â spuds, sef coesau sy'n cael eu gyrru i wely'r môr i'w ddal yn ei le."
"Dw i'n credu mai dyma'r unig ffordd o wneud hyn – torri'r llong yn systematig yn bum rhan, eu codi ar y bad, ac yna datgymalu'r rhannau mawr hynny ar y bad ei hun."
Dywedodd Mr Bradley mai'r heriau mwyaf oedd cael y bad yn agos at y llong yn y lle cyntaf, a'r tywydd – bu'n rhaid iddyn nhw atal y gwaith am ddiwrnodau oherwydd bod tonnau'r môr yn rhy fawr.
Ychwanegodd fod yr Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi bod yn monitro'r mesurau atal llygredd.
"Fe wnaethom ni osod rhwystr amgylchynol o gwmpas y llongddrylliad, ac fe ddaeth yr MCA i'r safle a bodloni ar yr holl fesurau oedd ar waith ar gyfer arferion diogelu'r amgylchedd."
Dywedodd yr MCA nad oedd unrhyw adroddiadau o lygredd sylweddol, bod ymchwiliad troseddol wedi'i gynnal yn dilyn y digwyddiad ym mis Rhagfyr y llynedd a bod "troseddwr wedi cael rhybudd" gan yr MCA.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






