Skip to main content
Advertisement

Galw am gynnwys bro'r Eisteddfod mewn cynllun gwledig newydd

Galw am gynnwys gogledd Sir Benfro mewn cynllun gwledig newydd wrth i bryderon godi am swyddi, pobl ifanc a'r Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod.

·7 min read
Huw Murphy

Mae'r Cynghorydd Huw Murphy yn dweud bod heriau amlwg ym mro'r Eisteddfod o ran cyfleoedd i bobl ifanc. Mae'n galw am gynnwys yr ardal mewn unrhyw gynllun economaidd newydd ar gyfer y Gymru wledig fydd yn olynu Arfor.

Fe wnaeth y llywodraeth ddiwethaf glustnodi miliynau o bunnau ar gyfer siroedd gwledig i hybu twf busnesau a datblygiad economaidd mewn ardaloedd ble mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, ond doedd gogledd Sir Benfro ddim yn rhan o'r cynllun.

Yn ôl y Cynghorydd Huw Murphy,

"does dim digon o waith i'r iaith"
yn yr ardal ac mae hi'n hollbwysig bod yr ardal yn rhan o gynllun newydd i hybu'r economi wledig.

Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cyhoeddi ei chynlluniau newydd eto, ond mae'n dweud bod yna fwriad i ddatblygu

"strategaeth ddatblygu wledig wedi ei theilwra"
a bod
"cryfhau'r economi wledig yn flaenoriaeth"
.

"Mae'r cyfleoedd yn brin iawn" meddai Fflur James

Roedd Arfor yn fenter ar y cyd gan gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg dan nawdd Llywodraeth Cymru, a ddaeth i ben yn 2025. Ond doedd Sir Benfro ddim yn rhan o Arfor.

Mae Fflur James, 21, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi ei magu yn Llantwd. Mae hi'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y cyfryngau neu ym myd gwleidyddiaeth ac yn dweud nad oes cyfleoedd iddi ddychwelyd i'w milltir sgwâr.

"Mae'r cyfleoedd yn brin iawn. Mae'n fy nhristau i," meddai.
"Mae'n freuddwyd gen i ddychwelyd i'r ardal a phrynu tŷ ond breuddwyd yw nid realiti oherwydd mae'n amhosib, yn 21 oed, i ddechrau dychmygu darganfod tŷ yn ardal heb sôn am ffindio swydd sydd yn talu cyflog anrhydeddus i chi.
"Os chi eisiau dychwelyd i'r gorllewin, mae rhaid i chi fod yn ymwybodol falle na gewch chi'r swydd chi'n haeddu ond chi'n cael y swydd honno os chi'n aros yng Nghaerdydd neu yn Llundain. Mae rhan fwyaf o fy ffrindiau wedi gadael yr ardal."

O dan gynllun peilot Arfor 1, fe roddwyd £2m i brosiectau yn y pedair sir gyda'r nod o gadw pobl ifanc yn y bröydd hyn, a denu phobl yn ôl i'r ardaloedd. Rhoddwyd £11m ychwanegol i'r siroedd o dan gynllun Arfor 2 a ddaeth i ben yn Hydref 2025.

Dangosodd asesiad annibynnol bod Arfor 2 wedi creu rhwng 250 a 300 o swyddi newydd, ac roedd y cynlluniau yn rhan o gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Fel sawl ardal wledig arall, mae yna heriau demograffeg sylweddol i fro'r Eisteddfod. Roedd 18.9% yn llai o blant yn ysgolion cynradd ardal y Preselau rhwng 2014 a 2024, a 26% yn llai o ddisgyblion yn Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych yn ystod yr un cyfnod.

Mae'r boblogaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda hefyd yn heneiddio. Mae 27% dros 65 oed ond mae disgwyl i'r ganran gynyddu i 32% yn 2040, a'r ganran yn Sir Benfro yn 34%.

Penderfynodd Cyngor Sir Penfro i gau Ysgol Clydau yn ddiweddar ym mhentref Tegryn eleni oherwydd cwymp yn nifer y disgyblion.

'Poblogaeth yn heneiddio a phobl ifanc yn gadael'

Yn ôl Huw Murphy, sy'n cynrychioli ardal Trefdraeth a Dinas, mae'r heriau'n amlwg.

"Mae'r boblogaeth yn heneiddio, mae pobl ifanc yn ymadael ac mae llai o blant yn yr ysgolion," meddai.
"Fy nheimlad i yw s'dim digon o waith i'r iaith. Mae pobl ifanc yn gorfod gadael i gael gyrfa rhywle arall, ac mae'n ddiddorol i weld dinas Caerdydd yn dweud faint o Gymraeg sydd yn cael ei siarad yn y ddinas.
"Fydden ni yn tybied mai pobl o Sir Geredigion, gogledd Sir Benfro a Gwynedd sydd wedi symud i Gaerdydd ac sydd wedi codi cyfanswm y bobl sydd yn siarad Cymraeg. Mae swyddi yma ond dim gwaith da."

Mae'n dweud bod hi'n hanfodol bod unrhyw gynllun newydd i hybu'r economi mewn bröydd Cymraeg yn cynnwys gogledd Sir Benfro.

Advertisement
"Mae'n bwysig dros ben bod ardaloedd fel gogledd Sir Benfro yn y prosiect. Sai'n teimlo bod ni yn cael y chwarae teg mae ardaloedd eraill wedi cael.
"Mae mwy o pan-Wales approach gyda'r llywodraeth yma na'r Blaid Lafur. Mae'r llywodraeth yma yn fwy cefnogol.
"Dwi yn obeithiol y bydd rhywfaint o arian i ardaloedd fel gogledd Sir Benfro. Mae'n bwysig iawn bod Arfor 3 yn cynnwys gogledd Sir Benfro."

"Mae yna gyfle euraidd fan hyn i ehangu sgiliau pobl ifanc," meddai'r Cynghorydd Bryan Davies

Dyw'r llywodraeth newydd, dan arweiniad Plaid Cymru, ddim wedi cyhoeddi cynllun eto i olynu Arfor.

Dywedodd llefarydd bod

"cryfhau'r economi wledig yn flaenoriaeth"
a'i bod yn datblygu
"strategaeth ddatblygu wledig wedi ei theilwra"
i adeiladu ar gynllun Arfor, er mwyn
"taclo tlodi a chreu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol o fewn cymunedau gwledig"
.

Mae Cyngor Ceredigion wedi cael benthyciad o £1.85m gan Lywodraeth Cymru i brynu fferm ar gyrion Llanbedr Pont Steffan, gyda chanolfan hyfforddi galwedigaethol amaethyddol yn agor yn fferm Lletytwppa ym mis Medi.

Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion bod ceisio cadw pobl ifanc yn yr ardal yn rheswm pendant dros fentro, gyda chyrsiau amaeth yn cael eu cynnig yno ym mis Medi.

"Ni yn gweld y brain drain fel mae'r Saeson yn ei alw fe tuag at y dinasoedd mawr," meddai Bryan Davies.
"Roedd gofod o ran darpariaeth sgiliau o ni'n cynnig yn y sir. Os ti'n gallu cadw pobl ifanc yn yr ardal, neu denu nhw o ardaloedd eraill, a chynnig y cyrsiau 'ma iddyn nhw gobeithio byddan nhw yn rhan o'r economi a chyfrannu at economi'r ardal.
"I fi, y diwydiant pwysicaf sydd gyda ni yng Ngheredigion yw amaeth, ynghyd â thwristiaeth. Mae yna gyfle euraidd fan hyn i ehangu sgiliau pobl ifanc."

Cafodd sesiwn Cymru Wledig LPIP ei gynnal ar faes yr Eisteddfod ddydd Sul.

Dywedodd

"nad oedd am dorri adenydd"
unrhyw berson ifanc oedd am adael y sir i fynd i
"Gaerdydd neu Abertawe"
i weithio ond yn
"gobeithio cael nhw nôl i'r ardal"
wrth iddyn nhw ddechrau magu gwreiddiau.

Dywedodd bod cynlluniau Arfor 1 a 2 hefyd wedi bod yn

"hwb enfawr"
i bobl oedd am ddechrau busnesau yng Ngheredigion ac mae'n
"gobeithio yn fawr y bydd yna Arfor 3"
.

Ar faes y Steddfod dros y Sul, fe gynhaliwyd trafodaeth dan y teitl

'Pwy sydd yn poeni am gefn gwlad Cymru?'
dan nawdd Partneriaeth Polisi ac Arloesi Lleol Cymru Wledig, neu LPIP Cymru Wledig, sydd wedi ei leoli ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r sefydliad yn gwneud gwaith ymchwil ar y Gymru wledig er mwyn gwella'r broses o lunio polisi.

'Pwysig fod polisi yn seiliedig ar dystiolaeth'

Dywedodd Rhian Curtis o LPIP Cymru Wledig bod angen llunio atebion sydd yn addas i'r amrywiaeth o gymunedau yng nghefn gwlad.

"Does yna ddim un peth sydd yn effeithio pob cymuned a dyna rhywbeth arall sydd wedi dod mas o'r ymchwil yw mae pob cymuned yn wahanol," meddai.
"Mae rhai heriau sydd yn gyson i bawb fel diffyg tai fforddiadwy neu sut i gadw pobl ifanc yn y cymunedau neu eu denu nhw nôl.
"Mae'n bwysig fod polisi sydd yn cael ei wneud yn seiliedig ar dystiolaeth ac ar ddata.
"Dyna lle mae Arfor ac ein gwaith ymchwil ni mor ddefnyddiol. Mae rhai o'r heriau sydd yn gwynebu cefn gwlad Cymru ddim yr un peth ag sydd yn effeithio ar ein dinasoedd ni."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

## Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News