Digwyddiad yn y Trallwng
Cafodd heddlu a pharafeddygon eu galw i Stryd yr Eglwys yn gynnar fore Sul.
Mae dyn wedi marw yn Y Trallwng yn dilyn "argyfwng meddygol" ac mae dyn arall, 22 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi derbyn adroddiad am ddyn oedd wedi cael ei anafu ar Stryd yr Eglwys am 01:16 fore Sul.
Ond er gwaethaf ymdrechion swyddogion a'r gwasanaeth ambiwlans, bu farw'r dyn.
Bu ambiwlans awyr yn bresennol yno hefyd.
Mae'r dyn a gafodd ei arestio wedi cael ei gadw'n y ddalfa ac mae'r llu yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Ychwanegodd Heddlu Dyfed-Powys bod y ffyrdd wedi cau ar hyd Stryd yr Eglwys a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yno tra bod yr ymchwiliad yn parhau.







