Mae gwasanaethau brys wedi bod yn ceisio delio gyda nifer o danau gwyllt ar draws gogledd Cymru dros y dyddiau diwethaf, ac mae gwirfoddolwyr timau achub yn annog pobl i gadw ffwrdd o’r ardaloedd yr effeithir arnynt. Daw hyn ar ôl i ddau, oedd yn trio ffilmio gyda drôn, gael eu hachub ar ôl mynd yn sownd.
Dywedodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri fod y ddau wedi anwybyddu ffyrdd oedd ar gau a chyngor yr heddlu cyn mynd i ardal waharddedig, gan arwain at achubiaeth ar "wariant cyhoeddus sylweddol". Yn ôl y tîm achub, bu "cynnydd" yn y nifer o bobl oedd wedi ceisio ymweld â’r ardal, gan gynnwys achosion o wersylla gwyllt, er gwaethaf gofyn drosodd a throsodd i bobl gadw i ffwrdd.
Pam mae timau achub yn rhybuddio pobl i beidio â mynd i’r ardaloedd?
Mae timau achub yn rhybuddio oherwydd bod ceisio mynd i safleoedd y tanau gwyllt yn rhoi pobl mewn perygl ac yn tynnu adnoddau oddi ar ymatebwyr brys. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu’r Gogledd wedi gofyn i’r cyhoedd gadw draw oddi wrth yr ardaloedd sy’n cael eu heffeithio.
Beth ddigwyddodd yn achos y ddau oedd yn defnyddio drôn?
Ddydd Sadwrn, dywedodd Tîm Achub a Chwilio De Eryri fod dau berson wedi "mynd i ardal waharddedig (restricted) i gael deunydd drôn o'r tanau gwyllt", gan ychwanegu bod y sefyllfa’n "siomedig iawn" ac y byddai hi wedi bod yn bosib osgoi gorfod eu hachub.
"Bydd yr achubiaeth yma yn achosi costau cyhoeddus sylweddol oherwydd y defnydd o adnoddau arbenigol ar gyfer argyfyngau, gan gynnwys hofrennydd chwilio ac achub,"
Ychwanegodd y tîm fod hyn wedi rhoi pwysau ar offer ac adnoddau’r tîm hefyd, sydd i gyd yn cael eu hariannu trwy godi arian elusennol a chefnogaeth y cyhoedd.
Pa effaith mae’r tanau gwyllt yn ei chael ar wasanaethau brys?
Mae’r tanau gwyllt wedi rhoi pwysau ar wasanaethau brys ledled gogledd Cymru dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys ar fynyddoedd y Rhinogydd, lle’r oedd y mwg i’w weld o’r gofod. Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiadau tebyg, "lle mae pobl wedi teithio i leoliadau tanau gwyllt ac angen cymorth brys yn dilyn hynny".
"Y ffordd orau gall y cyhoedd gefnogi ymatebwyr brys ydy trwy gadw i ffwrdd o'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio, dilyn diweddariadau swyddogol a pharchu'r holl ffyrdd sydd wedi cau a mesurau diogelwch sydd mewn grym,"
Ddydd Sul, dywedodd y gwasanaeth fod y tân gwyllt ar fynyddoedd y Rhinogydd bellach yn cael ei fonitro yn dilyn glaw dros nos, heb unrhyw "arwyddion gweladwy" o’r tân yn cryfhau.
Ychwanegon nhw fod timau wedi gadael ardaloedd eraill oedd yn cael eu heffeithio, gan gynnwys Mynydd Conwy, Mynydd Bangor, coedwig Bronaber a Chwm Nantcol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







