Skip to main content
Advertisement

Cwest hears two Welsh men died after Lanzarote balcony fall

Clywodd cwest fod Darren Silcox a Nicholas Thomas wedi marw ar ôl disgyn o falconi yng Ngaleon Playa Apartments, Lanzarote. Disgwylir cwest ar y cyd ym mis Ebrill 2027.

·2 min read
Galeon Playa Apartments

Bu farw dau ddyn o Gymru ar ôl disgyn o falconi tra ar wyliau yn Yr Ynysoedd Dedwydd, mae cwest wedi clywed. Ym mis Hydref 2025 fe wnaeth Darren Silcox, 56, a Nicholas Thomas, 54, ddisgyn tua 20 troedfedd tra'n aros yn Galeon Playa Apartments, Lanzarote ar ôl i reilen bren ddymchwel yn oriau mân y bore.

Bu farw Mr Silcox ddwy awr wedi'r digwyddiad, tra bod Mr Thomas wedi marw 10 mis yn ddiweddarach ar ôl cael ei gludo yn ôl i'r DU i dderbyn triniaeth.

Mae disgwyl i gwest llawn ar y cyd gael ei gynnal i farwolaethau'r ddau ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

What happened at the Galeon Playa Apartments?

Fe ddisgynnodd y ddau ddyn ar risiau yn y Galeon Playa Apartments, Costa Teguise ar ôl dychwelyd i'r gwesty yn dilyn noson allan.

Galeon Playa Apartments
Disgrifiad o’r llun, Fe ddisgynnodd y ddau ddyn ar risiau yn y Galeon Playa Apartments

Wrth agor cwest i farwolaeth Mr Thomas, dywedodd crwner Gwent, Rose Farmer ei fod wedi disgyn rhwng 15 a 22 troedfedd ar ôl i reilen bren ddymchwel ar falconi.

What did emergency crews and medics say?

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad tua 01:30 ac fe gadarnhaodd staff meddygol fod Mr Silcox wedi marw yn y fan a'r lle.

Clywodd cwest blaenorol i farwolaeth Mr Silcox ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i'w ymennydd a'i benglog.

Advertisement

What happened to Nicholas Thomas after the incident?

Cafodd Mr Thomas ei gludo at feddyg ar ynys Lanzarote am driniaeth wedi'r digwyddiad, cyn hedfan yn ôl i'r DU ym mis Tachwedd.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Llandochau ar 10 Gorffennaf, 10 mis wedi'r digwyddiad.

When will the joint inquest be held?

Cafodd y cwest ei ohirio tan 14 Ebrill 2027 - pan mae disgwyl i gwest ar y cyd gael ei gynnal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

## Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News