Galw uchel am gyrsiau adeiladu mewn colegau addysg bellach
Mae cannoedd o bobl ifanc yn aros am leoedd mewn cyrsiau colegau addysg bellach oherwydd prinder cyllid i ateb y galw, yn ôl arweinwyr y sector.
Un o benaethiaid Coleg Cambria, sydd â safleoedd yn y gogledd-ddwyrain gan gynnwys Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, rhybuddiodd y gallai hyn olygu bod nifer o bobl heb "dim math o obaith" ac yn cael eu gadael heb addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.
Mae gan y coleg restrau aros ar gyfer 44 o gyrsiau, gyda'r pwysau mwyaf ar gyrsiau Mynediad a Lefel Un, sydd yn bennaf ar gyfer pobl ifanc 16 oed sydd heb gymwysterau ar ôl gadael yr ysgol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod yr heriau a bod Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, wedi "dyrannu £6.25 miliwn ychwanegol" i "gydnabod y niferoedd cynyddol o gyfranogwyr".
Ymddygiad mewn colegau wedi gwaethygu, medd Estyn
Pryder cyn-ddisgybl wrth i Goleg Llanymddyfri wynebu cyfnod anodd
Dim cyrsiau prifysgol i barafeddygon eleni yn sgil diffyg swyddi
Llinos Roberts o Goleg Cambria eglurodd sawl rheswm am y sefyllfa, gan gynnwys demograffeg a'r ffaith bod mwy o bobl ifanc 16 oed yn y boblogaeth. Hefyd, mae nifer o ddisgyblion yn gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau o gwbl.
Wrth i fwy o bobl ifanc ddod i'r coleg i wneud cyrsiau lefel is, maent yn tueddu i aros am fwy na dwy flynedd cyn symud i gyrsiau uwch, sy'n gostusach i'r coleg.
'Da ni rhyw 900 dros y niferoedd allan ni yn gyfforddus cael fewn atyn ni a mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn mynd i gael eu gwrthod rhag dod i'r coleg neu yn cael eu rhoi ar restr aros,' meddai.
'Dydy hyn ddim yn galonogol iawn i'n pobl ifanc ni sydd eisiau symud 'mlaen.
'Falle bod yr ysgol ddim wedi bod y lle gorau iddyn nhw.
'Falle bod yr ysgol ddim yn cynnig y sgiliau galwedigaethol yna mae nhw eu hangen ac mae hynny'n golygu mewn gwirionedd bod yna ddim math o obaith iddyn nhw a ddim math o ffordd iddyn nhw symud 'mlaen yn eu bywydau.'
Dywedodd Llinos Roberts fod cyrsiau Mynediad a Lefel Un y coleg bron yn llawn.

Mae sefyllfa debyg yn bodoli yng Ngholeg y Cymoedd, sy'n gwasanaethu Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Mae cyrsiau adeiladu, peirianneg, diwydiannau creadigol, digidol a thechnoleg gwybodaeth, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant yn cael eu hystyried o dan y pwysau mwyaf, yn ôl y coleg.
Lois Roberts o Goleg y Cymoedd dywedodd:
"Eleni ni wedi cael bron i 6000 o geisiadau ond dim ond wedi cael ein hariannu am ryw 4500 felly mae hwnna wedi rhoi pwysau ar y coleg i roi ryw 500 o fyfyrwyr ar restrau aros".
Mae'r coleg wedi ymestyn adnoddau cymaint â phosib, gan adeiladu ystafelloedd a gweithdai dros dro a chael staff ychwanegol, ond mae diffyg staff yn parhau i fod yn broblem.
Mae gan Goleg y Cymoedd 500 o bobl ifanc ar restrau aros ar gyfer mis Medi.

Persbectifau dysgwyr presennol
Deni-May a Carys, sy'n gwneud cyrsiau Safon Uwch yng Ngholeg Cambria, mynegodd eu cydymdeimlad gyda'r rhai ar restrau aros ac yn wynebu ansicrwydd am eu llefydd.
'Dydy o ddim yn deg bod rhai pobl yn gorfod methu allan,' meddai Deni-May.
'Dwi'n credu dyle pawb gael y cyfle i wneud be' bynnag maen nhw isio.'
Dywedodd Carys: 'Oedd aros yn yr ysgol ddim yn opsiwn i fi - oeddwn i isio amgylchedd newydd.'
Ychwanegodd y bydd cyfleoedd gwaith i bobl ifanc yn brin hefyd.
Annes, sydd â bwriad i ddechrau yn y coleg fis Medi, mynegodd ei phryderon dros y rheini sy'n ceisio cael lle mewn cyrsiau sydd eisoes yn llawn.
'Buasa fo'n rili stressful', meddai. 'Ar gyfer y dyfodol, buasa fo'n anodd ffeindio beth baset ti'n gallu gwneud.
'Mae (angen) chwarae teg i ni ac ein dyfodol,' ychwanegodd.

Her ariannol a phwysau ar y sector
Colegau Cymru, sy'n cynrychioli colegau addysg bellach, dywedodd bod y sector yn wynebu bwlch ariannol o £30 miliwn o fis Medi ymlaen, ynghyd â lefelau uchaf erioed o geisiadau am gyrsiau.
Gyda chyllid ar gael ar gyfer llai na 46,000 o ddysgwyr, maen nhw'n rhagweld y bydd mwy na 50,000 yn cofrestru ar gyrsiau, gan nodi bod cannoedd yn rhagor eisoes ar restrau aros.
Er bod £21m wedi ei roi i golegau ar gyfer myfyrwyr ychwanegol y llynedd, mae'r cyllid hwn wedi gostwng i £6.5m ar gyfer 2026-27, meddai Colegau Cymru.
Maent yn pryderu y gallai'r sefyllfa arwain at gynnydd yn nifer y bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (Neet).
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
'Rydym yn cydnabod bod colegau Addysg Bellach yn wynebu heriau oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr yn ystod y blynyddoedd diweddar.
'Mae Medr eisoes wedi dyrannu £6.25m ychwanegol ar gyfer 2026-27 i gydnabod y niferoedd cynyddol sy'n cymryd rhan.
'Mae Medr yn monitro'r sefyllfa'n agos, a byddwn yn ystyried cymorth pellach fel rhan o'n penderfyniadau ehangach ar y gyllideb.'
Ffigurau diweddar awgrymu bod 17% o bobl ifanc Cymru yn Neet, sy'n uwch na chyfraddau'r Deyrnas Unedig gyfan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






