Skip to main content
Advertisement

Ailstrwythuro'n Hanfodol i Ddyfodol Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn wynebu gostyngiad sylweddol mewn haelodaeth ac yn ceisio ailstrwythuro fel mater o weithredu neu farw i sicrhau dyfodol cynaliadwy.

·4 min read
Nan Powell-Davies

Ailstrwythuro'n 'fater o weithredu neu farw' i Eglwys Bresbyteraidd Cymru

Y nod, medd Nan Powell-Davies, yw ceisio dychmygu eglwys ar ffurf wahanol yn yr oes sydd ohoni a gwneud y defnydd gorau o'i hadnoddau o fewn cymunedau.

Mae ailstrwythuro Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) "bellach yn fater o weithredu neu farw i ni fel enwad" yn ôl rhybudd ar drothwy ei chyfarfod blynyddol.

Dyna awgrymodd ysgrifennydd cyffredinol yr eglwys, Nan Powell-Davies, wrth drafod y strategaeth sy'n brif eitem agenda Cymanfa Gyffredinol yr eglwys ym Mhorthmadog ddydd Llun.

Mae'r eglwys yn disgrifio'r strategaeth fel un a allai "penderfynu ei thynged am y deng mlynedd nesaf" yn sgil dirwyiad blynyddol o 8% yn ei haelodaeth ers 2020.

Yn dilyn ei sefydlu yn yr 18ed Ganrif, roedd gan EBC, neu Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg, dros 250,000 o aelodau erbyn dechrau'r 1920au.

Ond mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod ganddi 11,430 o aelodau mewn 443 o eglwysi lleol, a dim ond 275 o'r rheiny sydd dan 25 oed.

Mae'r cynllun sydd dan ystyriaeth ddydd Llun yn ganlyniad 12 mis o ymgynghori ag aelodau a phob rhan o'r enwad ynghylch ei dyfodol.

'Diffyg syched am rywbeth ysbrydol'

"Dwi'm yn meddwl bod y gostyngiad oherwydd bod yna ddiffyg syched am rywbeth ysbrydol,"

dywedodd Nan Powell-Davies wrth raglen Dros Frecwast.

Un rheswm posib, awgrymodd, yw am fod glynu at drefn a phatrwm yr eglwys dros y ddau ganrif diwethaf "yn gallu bod yn amherthnasol i fywydau" ac yn arbennig felly yn achos pobl iau.

"Da' ni'n eglwys sy'n heneiddio... yn sicr, mae 'na ddirywiad difrifol ac mae'n dorcalonnus i bawb, ac yn arbennig felly i'n gweinidogion ni sydd wedi gweithio mor ddiflino ar hyd y blynyddoedd."

Ar yr ochr gadarnhaol, dywedodd, mae rhai o brojectau diweddar yr eglwys "wedi tyfu", gan greu cyfleoedd "o fynegiant newydd... sydd ddim o reidrwydd yn dilyn patrwm o fod yn gyfarfod Sul i Sul".

"Ma' rhai o'r projecta' arloesol yn fater o fod yn gweithio yn yr amgylchfyd, mewn gofodau diogel, mewn caffis ac yn y blaen.

Advertisement

"Mewn gwirionedd, offeryn ydi'r ailstrwythuro i ni, fel ein bod yn gallu symud yn hyderus, symud yn dryloyw."

'Calon yn ein cymunedau'

Un o brif argymhellion y cynllun ailstrwythuro yw "symleiddio llywodraethiant a lleihau biwrocratiaeth", gon fod teimlad bod "y system bresennol yn rhy drwm, ddim yn ddigon tryloyw ac yn brin o adnoddau ar gyfer yr Eglwys sydd gennym yn awr".

"Da' ni ddim yn cael ein galw yn drefnyddion Calfinaidd am ddim rheswm,"

meddai Nan Powell-Davies.

"Mae gennyn ni lot o drefn a rheola' - rheola' da' ni 'di gosod ein hunan... ein diben waith ni ydi adnewyddu yr eglwys leol a'i gosod hi fel calon yn ein cymunedau ni.

"Mae gennyn ni dal i fod tua 450 o eglwysi ar draws ein cymunedau ond 'da ni eisio eu grymuso nhw [a chreu trefn sy'n sicrhau] bod yr adnodda' yn cyrra'dd yn lleol yn haws, bod penderfyniada' yn ca'l eu 'neud yn llawer iawn cyflymach."

Mae angen hefyd, meddai, i ddefnyddio adeiladau "yn ddoeth - dydi cadw apêl yn agored er mwyn cyfarfod unwaint y mis am awr ar b'nawn Sul ddim yn hyfyw, 'di o ddim yn 'neud synnwyr cyffredin".

Mae'r holl broses, awgrymodd, wedi bod "yn gyfle i feddwl tu allan i'r bocsus hynny 'dan ni 'di bod yn 'neud yn y canrifoedd dwytha".

Ond mae hi'n cydnabod bod "sôn am newidada'n gallu bod yn anodd i rai" a bod angen symud ymlaen mewn ffordd sy'n "mynd â pawb efo ni."

Mae'r adroddiad i'r Gymanfa Gyffredinol hefyd yn amlinellu "arwyddion o obaith", gan gynnwys "cyfoeth cyfunol sylweddol o ychydig dros £21 miliwn, gan roi sail ariannol gadarn ar gyfer gwaith cenhadol yn y dyfodol".

Mae 110 o eglwysi'n "cynnal, yn helpu i gynnal, neu'n rhoi cartref i Fanciau Bwyd lleol, a 21 yn gweithredu fel Mannau Cynnes dynodedig".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News