Skip to main content
Advertisement

Cyngor Gwynedd yn cefnogi canolfan arloesi ar safle hen orsaf bŵer niwclear

Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi cynllun gwerth £20m i droi safle hen orsaf bŵer niwclear Trawsfynydd yn ganolfan arloesi gyda swyddi a buddsoddiad sylweddol.

By The UK Pulse Editorial Team··3 min read·How we work
Trawsfynydd

Cyngor Gwynedd yn cefnogi canolfan arloesi ar safle hen orsaf bŵer niwclear

Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi cynllun i droi safle'r hen orsaf bŵer niwclear yn Nhrawsfynydd yn ganolfan arloesi newydd mewn prosiect gwerth tua £20 miliwn.

Cafodd y safle ei ddystyru i gael gorsaf niwclear newydd yn 2024 er i Lywodraeth y DU ddweud yn 2022 eu bod yn ystyried adeiladu adweithydd niwclear bychan (SMRs) yno.

Bellach mae'r cyngor yn awyddus i gefnogi prosiect sydd am ddatblygu Canolfan Arloesi, Busnes a Sgiliau arfaethedig.

Gweledigaeth y Cyngor Gwynedd ar gyfer y safle

Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Nia Jeffreys mae'n

"newyddion cadarnhaol a chyffrous i bobl yr ardal gyda photensial am gyfleon gwaith hirdymor o ansawdd uchel".

Mae Nia Jeffreys yn credu y gallai'r cynllun yma

"helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd ym Meirionnydd".

Y nod yw cael canolfan fydd yn cynnig swyddi a chyfleoedd mewn sectorau gwahanol.

Mae datganiad y cyngor yn nodi'r sector

"niwclear, ynni carbon isel, deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnoleg ddatblygol".

Nia Jeffreys
Mae Nia Jeffreys yn credu y gallai'r cynllun yma "helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd ym Meirionnydd"

Manylion y prosiect a'i effaith economaidd

Os yw'r cynllun, sy'n cael ei noddi gan Gyngor Gwynedd, yn llwyddiannus byddai'n cynnig:

  • 90 o swyddi llawn amser ychwanegol;
  • buddsoddiad £21.8 miliwn i economi gogledd Cymru;
  • 3,000+ metr sgwâr o ofod llawr masnachol ac ymchwil; a
  • chefnogaeth i 100 o fentrau gan gynnwys busnesau bach a newydd.

Dywedodd y cynghorydd Nia Jeffreys y bydd y cynlluniau'n

"helpu i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd ym Meirionnydd".

Advertisement

Mi fydd yn

"manteisio i'r eithaf ar werth economaidd hirdymor safle Trawsfynydd"
, ychwanegodd.

"Mae'n gyfle i ddatblygu sgiliau pobl i'r dyfodol ar safle o arwyddocâd cenedlaethol o fewn Gwynedd a gogledd Cymru."

Datblygiadau eraill a chefnogaeth y cyngor

Gwaith £70m i leihau tyrrau niwclear Trawsfynydd i ddechrau

Dim gorsaf niwclear newydd i Drawsfynydd

Yn natganiad y cyngor fe esbonion nhw y bydd y prosiect yn

"darparu cyfleusterau a datblygu sgiliau sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraethau Cymru a'r DU megis pontio sero-net, arloesi ac adfywio rhanbarthol".

Mae'r Cynghorydd Medwyn Hughes, yn credu bod y prosiect yn

"sbardun i gefnogi cyflogaeth gynaliadwy yn yr ardal, i gefnogi busnesau ac i groesawu busnesau ac arloesedd newydd i'r gadwyn gyflenwi yn lleol".

Dyma ydy'r cam cyntaf yn y broses, meddai'r cyngor, ac yn dilyn cyfarfod y Cabinet bydd achos busnes amlinellol yn cael ei gyflwyno i Uchelgais Gogledd Cymru am gyfraniad o gyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru.

Ffyrdd o ddilyn a chysylltu â Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News