Taith Gyrfa Bethan Rhys Roberts
Mae Bethan Rhys Roberts wedi teithio ledled y byd gan weithio ar amrywiaeth o brosiectau mawr, gan gynnwys system cludo nwyddau porthladd Singapore a datblygu ynni gwyrdd gyda chwmni Shell.
Yn ogystal, bu'n rhan o dîm a oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw rheilffordd tanddaearol Llundain, ac mae wedi byw a gweithio mewn gwledydd fel Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a’r Iseldiroedd.
Pan ddechreuodd Bethan ei hastudiaethau peirianneg gemegol ym Mhrifysgol Leeds yn y 1980au, roedd hi un o ddim ond pedair merch ymysg 50 o fyfyrwyr yn y cwrs.
Singapore - Porthladd Mwyaf y Byd
Ar ôl cyfnod yn helpu cwmnïau i gynhyrchu tabledi asprin ac yn gweithio i Shell yn yr Iseldiroedd, symudodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, i weithio yn y porthladd mwyaf yn y byd ar y pryd, sef porthladd Singapore.
Roedd yn rhan o dîm oedd yn sicrhau bod nwyddau o bedwar ban byd yn cael eu cludo i'r llefydd cywir. Roedd systemau cyfrifiadurol yn cael eu datblygu i gadw trac ar yr holl gynnyrch oedd yn mynd a dod drwy'r porthladd mewn bocsys anferth wedi eu cludo ar longau.
"[Y gwaith oedd] trefnu sut mae bocs yn mynd o A i B. "Beth oeddech chi'n cael oedd container ships yn dod a rhaid i chi weithio allan pa focsys i roi ar ba gwch, pa focsys i dynnu i ffwrdd o'r cwch ac wedyn pwy oedd yn mynd i gasglu'r bocsys. "Mae'r bocsys yma'n mynd rownd y byd ac mae 'na gannoedd o filoedd ohonyn nhw so mae'n rhaid i chi weithio allan lle maen nhw i gyd yn mynd, o le maen nhw gyd yn dod ac wedyn y gwaith papur gan fod nhw'n dod trwy'r porthladd a mynd trwy'r taxes. "Mae lot o waith papur yn mynd efo bocs."

Yn ogystal â'i gwaith ym mhorthladd Singapore, bu hefyd yn gweithio ym mhorthladd Auckland, Seland Newydd, cyn symud i Lundain.
Gwaith ar y Rheilffordd Tanddaearol yn Llundain
Yn Llundain, roedd Bethan yn gweithio ar y system drenau tanddaearol hynaf yn y byd, y Tube. Roedd hi'n rhan o brosiect a oedd yn sicrhau bod ceblau yn cael eu gosod i roi mynediad i'r we i deithwyr o dan ddaear. Roedd y tîm hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw ar hyd 250 milltir o drac rheilffordd a 272 gorsaf sy'n rhan o'r system drafnidiaeth.
"Mae'r trenau'n mynd trwy'r dydd ac maen nhw'n gorffen yn y nos ac wedyn dyna pryd oedd swydd fi'n rili dechrau. "Roedd yn rhaid trefnu maintenance a llnau... a thrwsio pethau efo popeth yn digwydd yn nos. "Yn ystod y dydd ro'n i mewn swyddfa yn rhoi'r systemau i mewn i managio'r prosiect, i weithio allan y costau, i drefnu pwy i droi fyny yn ble. "Os oedden nhw'n adnewyddu gorsaf, mae'n rhaid iddyn nhw gael y teils arbennig sy'n y London Underground. "Mae'n rhaid i chi drefnu i gael y teils i gyrraedd ar yr adeg iawn a bod y gweithwyr i gyd yn troi fyny, a phawb yn gwisgo'r hetiau ac ati a gwneud yn siŵr bod yr electrics ar y rails yn cael eu troi i ffwrdd."
Datblygu Ynni Gwyrdd a Heriau Cyfredol
Yn ddiweddarach, daeth Bethan yn brif swyddog data gyda Shell, ac yn 2019 bu'n gweithio yn San Francisco ar ddatblygu ynni gwyrdd i'r cwmni. Fodd bynnag, colli ei swydd yn ddiweddar oedd un o ganlyniad i gynnydd mewn costau, megis pris haearn i godi ffermydd gwynt, a newid polisïau, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau o dan lywodraeth Donald Trump.
"Mae'r pwyslais wedi mynd o drio ynni gwyrdd a gwneud pethau i wneud ynni i ni fel consumers allan o ynni gwyrdd - mae o wedi mynd rhy gostus," meddai. "Mae pris olew wedi disgyn, mae jest yn haws cael olew a gas allan o'r ddaear. Dwi'n meddwl eith o fel arall pan mae costau olew yn mynd i fyny wedyn fydd ynni gwyrdd yn edrych yn fwy effeithiol. "Bydd olew yn gorffen ond 'dan ni ddim isio dibynnu ar gymaint o olew ac yn enwedig dibynnu ar olew mewn llefydd yn y byd sy'n mynd i fod efo problemau fel Iran ac Iraq."
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar 15 Mawrth ac ar .
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap i gael y newyddion diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







