Bagiau synhwyraidd i helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Eisteddfod yr Urdd
Mae mam o Borthmadog, Emma Wyn, sydd wedi bod yn trefnu bocsys synhwyraidd i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cynnig bagiau arbennig yn Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn eleni.
Mae Emma a'i mab Noa, 11 oed, wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers i Noa gael diagnosis chwe blynedd yn ôl.
Mae Emma wedi bod yn casglu arian i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers blynyddoedd drwy deithiau cerdded, raffl a digwyddiadau eraill, ac mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i greu bocsys synhwyraidd. Yn ogystal, mae Emma wedi cychwyn cynnig bagiau synhwyrol Noa ar gyfer plant sydd eu hangen i'w difyrru.
Bydd 100 o fagiau synhwyraidd Noa ar gael i deuluoedd ac ysgolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fydd yn mynychu Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn ym mis Mai.
Mae'r bagiau hyn wedi'u creu gan Emma i helpu'r plant i gadw'n brysur a mwynhau eu hamser ar y maes, ac maent ar gael am ddim.

"Mi fydd Noa yn cystadlu am y tro cyntaf gyda'r ysgol eleni yn yr Urdd ac o'n i'n meddwl fod hi'n syniad da i ddod â'r bagiau efo fi i'r maes."
Mae Emma yn annog unigolion, ysgolion neu gymdeithasau i gysylltu â hi er mwyn archebu'r bagiau i'w defnyddio ar faes Eisteddfod yr Urdd.
"Mae na gymaint o rieni wedi cysylltu yn dweud fod nhw'n helpu," meddai Emma.
"Doedd na ddim digon o adnoddau a gael pan oedd Noa yn ifanc felly isio helpu rhieni eraill dwi a gwneud bywyd yn haws i bawb, fel bod pawb yn gallu mwynhau ar y maes."

Casglu arian a cefnogaeth i ysgolion a chymunedau lleol
Mae cyfanswm o £35,000 wedi ei gasglu ar gyfer Apêl Noa ers 2017, gyda'r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ysgolion lleol, prynu defibrilwyr, tim awtistiaeth Gwynedd ac ymgyrch bocs sensori Noa.
Daeth y syniad o greu bocsys synhwyraidd i Emma ar ôl profiad anodd mewn apwyntiad yn Ysbyty Gwynedd gyda'i mab Noa, sydd yn awtistig.
"Roedd y cyfan yn heriol - doedd Noa ddim yn gallu aros yn llonydd, oedd o'n stryglo'n ofnadwy ac o'n i'n meddwl bydd rhaid i fi 'neud rhywbeth i 'neud bywyd yn haws i ni a theuluoedd eraill," ychwanegodd Emma.
Erbyn hyn, mae Emma yn anfon y bocsys ar draws Cymru ac at Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, meddygfeydd a deintyddfeydd lleol. Mae'r bocsys hefyd ar gael yng nghlwb pêl-droed Wrecsam, Venue Cymru a Stadiwm Principality, Caerdydd.
"Dwi'n trio cael cymaint o focsys allan yna â phosib," meddai Emma.

Profiad Emma a Noa gyda diagnosis awtistiaeth
Cafodd Noa, sy'n 11 oed, ddiagnosis o awtistiaeth yn 2020.
"Doedd Noa ddim yn deall bod o angen eistedd ac aros – bob tro 'da ni'n mynd i apwyntiad mae'n meddwl bod o'n cael mynd yn syth i fewn heb aros.
"Oedd Noa yn taflu ei hun ar lawr, oedd o'n trio dwyn ffon dyn bach oedd yn eistedd ar ymyl ni – oedd o jest yn wyllt, yn rhedeg rownd.
"O'n i jest yn teimlo pan o'n i yna bod pobl eraill yn edrych arnai a dwi'n cofio clywed dynes yn dweud, 'pam dy' hi ddim yn dweud wrth yr hogyn bach i eistedd lawr a bod yn ddistaw?'
"Dydy o ddim mor hawdd â hynna."
Bocsys synhwyraidd gyda theganau i gefnogi plant
Er mwyn helpu teuluoedd mewn sefyllfaoedd tebyg, mae Emma'n creu bocsys gyda theganau addas i bob oedran.
"Mae 'na stress balls, wynebau hapus, trist, blin a wyneb mewn poen fel bod plant dilafar yn gallu dangos i'r nyrs neu doctor sut maen nhw'n teimlo.
"Hefyd mae 'na fidget toys bach, pethau sy'n gwneud sŵn... maen nhw'n cadw'r plant yn brysur tra bod nhw yn aros."






