Skip to main content
Advertisement

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Cyhoeddi 'Digwyddiad Difrifol' Oherwydd Tywydd Poeth

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi 'digwyddiad difrifol' oherwydd pwysau ychwanegol yn ystod y tywydd poeth, gan ganolbwyntio ar gleifion â chyflyrau difrifol a bygythiadau bywyd.

By The UK Pulse Editorial Team··2 min read·How we work
Gwasanaeth ambiwlans

Digwyddiad Difrifol wedi'i Gyhoeddi Gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyhoeddi "digwyddiad difrifol" oherwydd y pwysau ychwanegol a wynebwyd yn ystod y tywydd poeth diweddar. Yn ôl y gwasanaeth, mae nifer sylweddol o alwadau 999 yn aros am ambiwlans, gan gynnwys cleifion â chyflyrau difrifol a rhai sy'n peryglu bywyd.

Dywedodd y gwasanaeth eu bod wedi cyhoeddi'r statws hwn am 12:00 ddydd Gwener, gan nodi bod y sefyllfa'n golygu y byddant yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol a rhai sy'n bygwth bywyd yn unig.

Mae'r gwasanaeth wedi profi un o'u cyfnodau prysuraf o'r flwyddyn, gyda nifer y galwadau'r wythnos hon wedi cynyddu 31% o'i gymharu â chyfnodau blaenorol.

Advertisement

'Ffonio 999 Mewn Argyfwng Gwirioneddol Yn Unig'

Yn y datganiad, dywedodd Judith Bryce o Wasanaeth Ambiwlans Cymru:

"Drwy ddatgan digwyddiad difrifol, mae'n caniatáu i'n timau ganolbwyntio ein hymdrechion a'n hadnoddau ar gleifion sy'n profi'r argyfyngau mwyaf difrifol a bygythiadau i fywyd.
Mae pobl sy'n cysylltu â ni gyda chyflyrau llai difrifol yn debygol o orfod aros yn hirach.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd cleifion yn cael eu hasesu'n glinigol a'u cynghori i geisio gofal amgen, yn hytrach na bod ambiwlans yn cael ei anfon.
Rydym yn gofyn i'r cyhoedd ein cefnogi yn ystod y cyfnod yma drwy ffonio 999 mewn argyfwng gwirioneddol sy'n peryglu bywyd yn unig."

Gwybodaeth a Chysylltiadau

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y diweddaraf.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News