Mae tân ar fynyddoedd y Rhinogydd wedi bod yn llosgi ers 10 diwrnod erbyn hyn. Yn ôl perchennog gwesty cyfagos, gallai'r difrod o dân mawr yn y gogledd fod wedi ei osgoi pe bai'r gwasanaeth tân wedi cael cymorth o'r awyr.
Mae'r gwasanaeth tân yn delio â'r tân ar fynyddoedd y Rhinogydd yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers 10 diwrnod erbyn hyn, ar ôl iddo aildanio ddydd Mercher. Dywed Caroline Mason, perchennog y Rhiw Goch Inn yn Nhrawsfynydd, y "gallai'r tân wedi cael ei ddiffodd cyn iddo ledaenu tuag at Fronaber pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt".
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi derbyn a chymeradwyo cais gan y gwasanaeth tân am gymorth o'r awyr, ond does dim hofrenyddion arbenigol ar gael oherwydd galw mawr am eu cymorth ar draws y DU.
Colli coedwig Geltaidd hynafol?
Dywedodd Caroline ei bod yn "teimlo'n ofnus" wrth wylio'r tân yn lledaenu dros y Rhinogydd tuag at ei gwesty.
"Pan es i i'r gwely nos Sul roedd y mynydd i gyd ar dân ac roedd y lleuad yn goch oherwydd y fflamau," meddai.
"Ro'n i'n poeni am ba fath o olygfa yr oeddwn i am ddeffro iddo ac yn y diwedd fe wnaeth sŵn y tân fy neffro a wnes i ffonio 999 achos o'n i'n teimlo mor ofnus."
"Gallai'r difrod mawr wedi cael ei osgoi pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n eu gofyn am," meddai Caroline Mason
"Gallai'r difrod mawr wedi cael ei osgoi pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n eu gofyn amdanynt"
Mae Caroline yn credu y byddai'r tân wedi'i ddiffodd erbyn hyn pe bai hofrennydd wedi bod ar gael i gynorthwyo diffoddwyr.
"Gallai'r difrod mawr wedi cael ei osgoi pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt," meddai.
"'Da ni wedi colli rhannau o goedwig Geltaidd hynafol yn ogystal â rhywogaethau a chynefinoedd o ganlyniad i'r tân.
"Doedd dim angen i hyn ddigwydd."
"Gallai'r difrod mawr wedi cael ei osgoi pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt"
"'Da ni wedi colli rhannau o goedwig Geltaidd hynafol yn ogystal â rhywogaethau a chynefinoedd o ganlyniad i'r tân."
"Doedd dim angen i hyn ddigwydd."
Mae ymdrechion y gwasanaeth tân ar draws Cymru yn parhau.
Yn ddiweddar, mae nifer o danau gwyllt wedi bod ar draws y wlad, yn enwedig ar fynyddoedd a thir uchel. Mewn diweddariad fore Mercher, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod hefyd yn parhau i ddelio â thân mawr yng Nghapelulo, ger Bwlch Sychnant, yn ogystal â sawl un arall ar draws y gogledd.
Mae deiseb yn galw am sicrhau cymorth hofrenyddion wedi cael 5,000 o lofnodion, gyda phobl yn ardal y Rhinogydd yn rhybuddio bod y tân yn lledaenu tuag at Goed y Brenin, sydd ond milltiroedd o ddwy orsaf bŵer.

How does the Blaenafon fire affect local communities?
Mae mwg o'r tân ym Mlaenafon yn dal i effeithio ar gymunedau'r ardal. Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De bod eu hymdrechion i ddiffodd tân ym Mlaenafon, Torfaen yn parhau a'u bod yn ymwybodol bod mwg o'r tân yn effeithio ar gymunedau lleol.
Mae disgwyl i'r tân, sy'n ymestyn dros 200 hectar gyda pherimedr o 5km, i barhau i losgi am sawl diwrnod.
Mae'r gwasanaeth tân yn annog y cyhoedd i osgoi'r ardal ac i gadw eu ffenestri a'u drysau ar gau oherwydd y mwg.

Why is there no suitable helicopter available?
Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi "adolygu" eu dull o sicrhau cymorth o'r awyr ar gyfer tanau gwyllt yn ddiweddar, gan "symud o drefniant hirsefydlog a oedd yn dibynnu ar un darparwr yn unig, i fframwaith sy'n rhoi mynediad at nifer o ddarparwyr".
"Yn dilyn ceisiadau gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, rydym wedi cysylltu â'r holl weithredwyr sydd ar gael o fewn ein fframwaith.
"Fodd bynnag, oherwydd y galw eithriadol sy'n deillio o danau gwyllt mewn rhannau eraill o'r DU, nid oes hofrennydd addas wedi dod ar gael eto."
Ychwanegodd eu bod yn parhau i geisio canfod hofrennydd addas.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian, bod ymateb diffoddwyr tân a'r gwasanaethau brys "wedi bod yn eithriadol ac yn dangos ymroddiad a phenderfyniad anhygoel mewn amodau gwirioneddol anodd, ac rwyf am dalu teyrnged i bob un ohonynt".
"Mae tanau gwyllt wedi bod yn risg ddifrifol mewn sawl rhan o Gymru am amser ac mae newid hinsawdd yn sicr o gynyddu'r risg honno, yn enwedig yn ystod tywydd gwres yr haf."
Ond ychwanegodd "nad oes unrhyw allu diffodd tân o'r awyr ar gael i'w ddefnyddio yn unman yn y DU ar hyn o bryd i gefnogi'r ymdrechion hyn".
"Gwnaeth Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru gais ffurfiol am gymorth cydfuddiannol ar ffurf staff ac offer tân, ac rwy'n falch bod hyn wedi'i gytuno a bod yr adnoddau hynny bellach ar lawr gwlad yn cefnogi criwiau."
Ychwanegodd bod criwiau'r dal i geisio mynd i'r afael â'r tân ym Mlaenafon, ble mae disgwyl iddo "barhau i losgi am sawl diwrnod".
"Mae diffoddwyr tân yn aros yn y fan i'w atal rhag lledaenu ymhellach a rhoi bywydau, bywyd gwyllt ac eiddo mewn perygl."


Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Dim hofrenyddion ar gael i ddiffodd tân mawr yng Ngwynedd
"Mae tân ar fynyddoedd y Rhinogydd wedi bod yn llosgi ers 10 diwrnod erbyn hyn"
"Mae mwg o'r tân ym Mlaenafon yn dal i effeithio ar gymunedau'r ardal"







