Skip to main content
Advertisement

Local Volunteers Erect Preseli Bluestones Circle for Eisteddfod in Llantood

Local volunteers in Llantood assembled 12 Preseli blue stones and a Maen Llog to create a permanent Circle of the Orsedd for the National Eisteddfod, marking a lasting tribute near the festival site.

·6 min read
Y criw o wirfoddolwyr lleol fu'n gosod Cylch yr Orsedd Llantwd

Y criw o wirfoddolwyr lleol fu'n gosod Cylch yr Orsedd Llantwd

Mae trigolion lleol ardal Eisteddfod y Garreg Las wedi dod at ei gilydd i osod 12 o 'feini glas' a Maen Llog o erwau bro'r Preseli i greu Cylch yr Orsedd.

Yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, John Cwmbetws, mae'r cylch "dafliad carreg i ffwrdd" o lle bydd maes y brifwyl yn Llantwd, yng ngogledd Sir Benfro. Dywed y bydd yn "gofnod parhaol" o gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yno.

Ar ddydd Sadwrn 20 Mehefin, daeth 14 o wrifoddolwyr, o 12 oed i 87 mlwydd oed at ei gilydd ar un o gaeau'r tirfeddiannwr, Eirwyn Harries, er mwyn gosod y cylch.

Dwedodd John Cwmbetws wrth Cymru Fyw: "Dath yr argymhelliad oddi wrth pobl y fro, pobl wledig ardal Llantwd, amaethwyr y rhan fwya' ohonyn nhw, y byddai'n dda o beth ac yn destament parhaol gyda ni i'r Eisteddfod."

Mae'r cylch yn cynnwys 12 o feini glas bro'r Preseli

Mae'r cylch yn cynnwys 12 o feini glas bro'r Preseli
Disgrifiad o’r llun, Mae'r cylch yn cynnwys 12 o feini glas bro'r Preseli

Cerrig glas i Eisteddfod y Garreg Las

Ers Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau ym Mharc y Faenol yn 2005, mae Cylch yr Orsedd 'dros dro' yn cael ei gosod ar faes y brifwyl gan ddefnyddio meini plastig.

Bydd y seremonïau i groesawu aelodau newydd i'r Orsedd ar y dydd Llun a'r dydd Gwener yn parhau i gael eu cynnal yng Nghylch yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod, ond dywed John Cwmbetws bod "croeso cynnes" i unrhyw un ymweld â'r cylch o feini glas Y Preseli.

"Mae'r cylch ar batsyn glas o dir agored yn ffinio 'da'r hewl ar y ffordd i'r Maes felly mae cyfle i'r cyhoedd fynd i'w gweld nhw a'u hedmygu nhw," meddai.
"Mae'n gylch hardd a godidog, a beth sy'n gwneud y cylch hyd yn oed yn fwy arbennig yw perthnasedd y cerrig o ble maen nhw wedi dod gyda theitl yr Eisteddfod eleni, sef Y Garreg Las."

Roedd angen nerth bôn braich a nerth bôn peiriant i greu'r cylch

Ac mae John yn hynod ddiolchgar i Eirwyn Harries am roi darn o dir ar gyfer y cylch.

"Fe ddywedodd Eirwyn, sydd mor angerddol am y 'Steddfod, 'dwin rhoi'r tir achos dwi am fod yna testament parhaol i'r ardal hon, bod 'Steddfod Y Garreg Las wedi bod ar y tiroedd yma'.
Roedd angen nerth bôn braich a nerth bôn peiriant i greu'r cylch
Disgrifiad o’r llun, Roedd angen nerth bôn braich a nerth bôn peiriant i greu'r cylch

Mwy o waith caled a dilyn y mesuriadau cywir i greu Cylch yr Orsedd

Mae Sir Benfro yn enwog am ei meini gleision ac mae lle i gredu mai cerrig glas o ardal Carn Menyn ym mynyddoedd Y Preseli a gafodd eu defnyddio i ffurfio Côr y Cewri.

John fu'n egluro sut y cafodd cerrig glas bro'r Preseli eu defnyddio i adeiladu'r cylch yn Llantwd:

Advertisement
"Digwydd bod mae gen i deulu yn ffermio ar odrau'r Preselau ym Mynachlog-Ddu a thrwy eu caredigrwydd a'u haelioni nhw, fe aethon ni'n dair tractor a trailer i nôl rhyw 15 o feini glas o dir ffarm yn ardal Mynachlog-Ddu, sef Fferm-Y-Capel.
"Cludwyd nhw i fyny a dydd Sadwrn dwetha oedd y campwaith o'u rhoi nhw at ei gilydd i ffurfio cylch o 12 a Maen Llog.

Ynghanol y cylch mae'r Maen Llog gwastad sy'n gwasanaethu fel llwyfan ar gyfer yr Archdderwydd.

"Ni wedi creu Maen Llog i'r filimetr yn unol â chanllawiau'r orsedd, ac mae'r cylch hefyd yn wynefu'r dwyrain fel mae fod."
Mwy o waith caled a dilyn y mesuriadau cywir i greu'r cylch perffaith
Disgrifiad o’r llun, Mwy o waith caled a dilyn y mesuriadau cywir i greu Cylch yr Orsedd
Gosod y meini yn y tir
Disgrifiad o’r llun, Gosod y meini yn y tir

'Roedd y cymdeithasu mor bwysig â'r gweithredu a'r adeiladu'

Dechreuodd y criw o wirfoddolwyr ar y gwaith am 10 y bore a gorffennwyd y gwaith am dri yn y prynhawn.

"Roedd yn rhan fwyaf o wirfoddolwyr yn amaethwyr a gawson ni fenthyg dau beiriant gan gwmni Alan James a Gerallt Davies yn lleol am ddim.
"A dyna ni, maen nhw yna a byddan nhw 'na ar ôl ein hamser ni a bydd pobl yn gallu cerdded heibio a dweud 'Mae'n amlwg bod yna 'Steddfod wedi bod yn Llantwd'."

Fe ddaeth Arwyddfardd yr Orsedd, Y Parchedig Beti Wyn James draw i helpu a thorchi llawes

Roedd John a'r gwirfoddolwyr gweithgar yn falch o ymweliad a chwmni'r Parchedig Beti Wyn James sef Arwyddfardd yr Orsedd yn ystod y dydd hefyd.
"Gawson ni'r golau gwyrdd a llaw bendith yr Arwyddfardd wrth iddi ddod ar ei thro draw i weld y gwaith yn mynd yn ei flaen," eglurai John.
Gweithwyr balch ar y Maen Llog
Disgrifiad o’r llun, Gweithwyr balch ar y Maen Llog
Fe ddaeth Arwyddfardd yr Orsedd, Y Parchedig Beti Wyn James draw i helpu
Disgrifiad o’r llun, Fe ddaeth Arwyddfardd yr Orsedd, Y Parchedig Beti Wyn James draw i helpu a thorchi llawes

Ac i gloi diwrnod caled o waith roedd yn rhaid dathlu gyda phicnic yng Nghylch yr Orsedd.

"Aeth y bonheddwr Eirwyn Harries lawr i Aberteifi i archebu sglodion a selsig i ni gyd a'r Arwyddfardd.
"Roedd y cymdeithasu mor bwysig â'r gweithredu a'r adeiladu. Bydd yna nawr i aros ac yn goroesi ein hamser ni ar y ddaear hon."
Sglodion a selsig yng Nghylch yr Orsedd derfyn dydd
Disgrifiad o’r llun, Sglodion a selsig yng Nghylch yr Orsedd derfyn dydd
Sglodion i bob gwirfoddolwr yn cael ei weini oddi ar y Maen Llog ar ôl diwrnod caled o waith
Disgrifiad o’r llun, Sglodion i bob gwirfoddolwr yn cael ei weini oddi ar y Maen Llog ar ôl diwrnod caled o waith

Sglodion a selsig yng Nghylch yr Orsedd derfyn dydd

Gydag ychydig dros fis i fynd tan Eisteddfod y Garreg Las, sut mae John yn teimlo ac yntau'n Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith?

"Rwy'n edrych ymlaen i fwynhau, mae rhestr o dros 1000 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan wahanol bwyllgorau gweithgar," meddai.
"Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser arwain gyda chydweithwyr sydd wedi bod mor hawddgar a mor brysur ar draws tiroedd y dair sir.
"Tîm da sy'n gwneud y freuddwyd yn fyw."

Englyn gan Cerwyn Davies

O'r mawn a thir y mynydd - y cariwyd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

  • Canu'r piano mewn cartrefi gofal i godi arian at Eisteddfod y Garreg Las
  • Cyflwyno Coron a Chadair Eisteddfod y Garreg Las
  • A gafodd cylch cerrig ei symud o Benfro i Gôr y Cewri?

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News