Paratoi Agor Tafarn Gyntaf Bragdy Cybi yng Nghaergybi
Mae Daniel a Bethan Jones yn paratoi i agor eu tafarn gyntaf ar stryd fawr Caergybi.
Cydweithio, cynnal digwyddiadau arbennig, a ffocysu ar gynnig bwyd o safon yw rhai o'r strategaethau y gall tafarndai Cymru eu defnyddio i oroesi, yn ôl rhai sy'n gweithio yn y diwydiant.
Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y tafarndai eleni, yn ôl ffigurau swyddogol gan Gymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (BBPA).
Mae nifer y tafarndai yng Nghymru wedi cynyddu o dri ers mis Ionawr, tra bod yr Alban wedi colli 41 a de-ddwyrain Lloegr 26 yn yr un cyfnod.
Mae costau uchel a newidiadau mewn cymdeithas yn golygu bod rhaid i dafarndai addasu i "gynnig llawer mwy na lle i yfed alcohol yn unig," meddai economegydd o Brifysgol Bangor.
Perchnogion Bragdy Cybi yng Nghaergybi, Ynys Môn, sy'n paratoi i agor eu tafarn gyntaf, yn nodi bod y "gefnogaeth ymysg cwmnïau bwyd a diod Cymreig" yn rhoi hyder iddyn nhw er gwaetha'r sialensiau sy'n wynebu'r sector.
Maen nhw hefyd yn cefnogi galwadau i dorri cyfradd treth ar werth o 20% i 10%.

'Pob Dim yn Ddrud'
Ers creu cwrw yn 2019 a rhedeg bar ar yr un safle ers 2021, mae Daniel a Bethan Jones yn ymwybodol o heriau'r sector lletygarwch.
"Naethon ni agor y drysau yma fel bar reit yng nghanol Covid, felly roedd o'n anodd efo'r holl reolau," meddai Daniel.
"Wedyn daeth yr argyfwng egni cynta' a doedd gynnom ni ddim contract trydan. Aeth y pris o 18c i bunt y KW. Ers hynny mae cost popeth ni'n prynu mewn, y cynnyrch wedi codi, felly mae bob dim yn ddrud."
Mae Daniel a Bethan yn cefnogi'r ymgyrch i dorri cyfradd treth ar werth i 10%.
Mae'r gŵr a gwraig wedi ceisio denu cwsmeriaid trwy gynnal digwyddiadau fel 'Cybi Fest' sy'n cynnwys cerddoriaeth byw a faniau bwyd lleol.
Fodd bynnag, mae cydweithio â busnesau Cymreig eraill o fewn y diwydiant wedi bod "yn fwy pwysig na dim" i lwyddiant y bragdy, yn ôl Bethan.
"Dwi'n meddwl bod 'na gefnogaeth anhygoel ar gael yng Nghymru," meddai.
"Mae cwmnïau bwyd a diod Cymru yn fodlon helpu ein gilydd, hyrwyddo ein gilydd, 'da ni'n prynu gan ein gilydd a mae hynny'n mynd yn bell iawn.
"Ma' 'na fwytai lleol yn gwerthu ein cwrw ni, maen nhw'n gwneud bwyd yn defnyddio ein cynnyrch ni."
"Wedyn mae 'na berchennog fan bwyd sydd wedi cael yr hyder i agor bwyty ei hun yng nghanol dre ar ôl i ni rhoid lle iddo fe ddod i fama fel man cychwyn."
Mae'r ddau nawr yn paratoi i ehangu drwy agor eu tafarn gyntaf ar stryd fawr Caergybi, er bod y diwydiant yn wynebu cyfnod heriol.
Mae'r BBPA wedi galw'r cynnydd yn nifer y tafarndai sydd ar agor yng Nghymru ers dechrau'r flwyddyn yn "ddiferyn o obaith," ond maen nhw'n pwysleisio'r angen am "gynllun hir dymor" i achub y diwydiant.
Mae data hir-dymor yn dangos bod y tueddiad yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gostyngiad cyson yn nifer y tafarndai yng Nghymru, gyda 30 yn cau yn 2023 ac 18 yn 2024 hyd yma.
Mae'r BBPA yn nodi bod y sefyllfa wedi arwain at golled o dros 2,400 o swyddi yn y diwydiant ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, gyda hanner y swyddi hyn wedi'u llenwi gan bobl ifanc.
'Falle Ein Bod Ni'n Fwy Mentrus'
Mae Daniel a Bethan yn gobeithio y bydd "gwneud rhywbeth gwahanol" drwy ffocysu ar eu cwrw lleol, cynnig bwyd o safon a hyrwyddo diwylliant Cymreig yn gwneud i'w tafarn sefyll allan, gan helpu'r busnes "ffynnu" er gwaetha'r heriau ehangach.
"Falle ein bod ni'n fwy mentrus neu'n fwy gwirion nag eraill," meddai Bethan, "ond i Dan a fi mae gennym ni'r hyder a'r cyfle gwych yma a'r gefnogaeth gan ein cwsmeriaid ac asiantaethau lleol."
"Ond 'da ni yn gobeithio bydd y VAT yn dod lawr i 10% i helpu pellach."
Mae tafarndai yn gorfod "gydweithio efo'r gymuned" i lwyddo, yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor.

Heriau Costau a Newid Cymdeithasol i Tafarndai Cymru
Mae costau uwch a newid mewn cymdeithas yn brif ffactorau sy'n achosi trafferthion i dafarndai Cymru, yn ôl Dr Edward Jones.
"Mae'r sefyllfa'n anodd i dafarndai yng Nghymru, maen nhw'n wynebu costau egni uwch, costau cyflogi uwch a chyfraniadau yswiriant gwladol uwch hefyd.
"Mae hynny ochr yn ochr efo newid mewn cymdeithas, tydi pobl ddim yn tueddu mynd allan i yfed cymaint ag oedden nhw, yn enwedig pobl ifanc."
O'i waith ymchwil, mae Dr Jones yn nodi bod tafarndai sy'n ffocysu ar wasanaethu'r gymuned mewn sawl ffordd wahanol yn tueddu i lwyddo.
"Un esiampl yw'r tafarndai yn Iwerddon, maen nhw'n dafarn traddodiadol ydyn, ond maen nhw hefyd yn aml yn cynnwys siop, swyddfa bost ac yn cynnig rhywle i bobl ddod at ei gilydd," meddai.
"Cydweithio efo'r gymuned i ateb eu hanghenion yw'r ffordd ymlaen."
Ail-lansio Tafarn Bryntirion yn Llandderfel
Dyma nod perchnogion newydd tafarn Bryntirion yn Llandderfel ger y Bala.
Wedi ei ail-lansio yn 2023 dan oruchwyliaeth y cogydd Luke Shelby, mae'r dafarn 300 oed wedi cael ei hadnewyddu a'i foderneiddio, gyda'r fwydlen wedi'i diweddaru i sicrhau dyfodol y dafarn a denu ymwelwyr o bellach i ffwrdd, yn ôl Luke.

Mae Gareth Jones yn un o 12 o staff sy'n gweithio yn y Bryntirion.

"Balans dwi'n meddwl ydy'r gair cywir, 'da ni'n gorfod cael pobl leol yma, heb y bobl leol byddwn ni'n cau lawr yn syth achos nhw sy'n cadw ni i fynd dros y gaeaf lle does n'am llawer o dwristiaid yn dod.
"Wedyn haf ydi'r amser i gael y twristiaid i mewn yn gwario arian yn aros, yfed a byta. Heb heini fysa fo ddim yn viable."
Mae'r dafarn yn cynnig "cynigion arbennig" i bobl leol drwy gydol y flwyddyn i sicrhau nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu targedu dim ond yn y gaeaf.
"Ces i fy magu mewn tafarn so dwi'n gwybod be mae'n cymryd i gadw tafarn i fynd," ychwanegodd Gareth.
"Mewn lle mor fach, cymuned fach, mae o'n andros o anodd i neud yn sicr bod y busnes yn gweithio.
"Mae'n rhaid cael sawl het os chi'n mynd i gadw pobl yn hapus."
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu diwygio trethi busnes i "wneud pethau'n fwy cyfartal" ar y stryd fawr.
"Yn ystod 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth, byddwn yn sefydlu tasglu Canol Tref a fydd yn mynd i'r afael â'r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu ar draws sectorau, yn enwedig mewn lletygarwch a manwerthu," meddai'r llefarydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




