Cwm Idwal yn Enwebu am Wobr Hoff Llwybr Gerdded y Deyrnas Unedig
Dywedodd Gwyn Williams fod Cwm Idwal yn "le sy'n denu" ac y "math o lwybr sy'n cynnig rhywbeth i chi o'r cychwyn cyntaf".
Mewn cystadleuaeth i geisio darganfod 'Hoff Lwybr y Deyrnas Unedig', mae llwybr gerdded yn Eryri wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 2026.
Elusen Ramblers a'r Postcode Lottery sydd yng ngofal y gystadleuaeth ac mae wyth llwybr wedi cyrraedd y rhestr - un o Gymru, un o'r Alban a chwech o Loegr.
Llwybr Cwm Idwal sy'n cynrychioli Cymru eleni.
Mae'r bleidlais gyhoeddus wedi agor ddydd Mercher, bydd yn parhau tan 23:00 ar 31 Gorffennaf a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghanol mis Awst.
Roedd yr arweinydd mynydd, Tim Jones a Gwyn Williams, sy'n rhyddhau fideos ar y cyfryngau cymdeithasol am gerdded mynyddoedd, yn siarad ar Dros Frecwast am y peth.
Pwysleisiodd y ddau fod y llwybr ger Llyn Idwal yn un "hamddenol" sy'n cynnig llawer i gerddwyr.
Mae'r llwybr ei hun yn mynd o amgylch Llyn Idwal

Esboniodd Gwyn fod Cwm Idwal yn "le sy'n denu" ymwelwyr.
"Mae o'r math o lwybr sy'n cynnig rhywbeth i chi o'r cychwyn cyntaf," ychwanegodd.
Esboniodd: "O fewn rhyw ddau, tri munud, wedi i chi adael y maes parcio - mae 'na gylch bach o lechi efo tyllau ynddyn nhw.
"Os edrychwch chi drwy'r tyllau, mae 'na arwydd yn dweud beth yw enw pob mynydd o'ch cwmpas chi."
Aeth ymlaen i ddweud "dychmygwch chi - os 'dych chi 'di dod o ddinas, 'dych chi'm yn mynd i weld afon fyrlymus yn ei llif fel 'na yn rhuthro oddi tannoch chi."
Roedd Tim yn cytuno ei fod yn le sy'n denu nifer.
"Mae'n daith fach weddol hawdd, sy'n dangos pob math o bethau.
Mae'n hamddenol, mae'n ddistaw, ond 'dych chi'n gallu gweld cymaint."
Er mwyn i lwybr Cwm Idwal gyrraedd y brig bydd rhaid curo sawl llwybr hardd arall. Dyma weddill y rhestr:
- East Loch Lomond, Stirling, Yr Alban
- Pinnacle Hill, ar y ffin rhwng Swydd Hertford a Swydd Gaerwrangon, Lloegr
- Holy Island Causeway, Northumberland, Lloegr
- Buttermere Circular, Cumbria, Lloegr
- Hangleton i Devil's Dyke, Sussex, Lloegr
- The Strawberry Line, Gwlad yr Haf, Lloegr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Lluniau: Harddwch Llwybr Arfordirol Ynys Môn
- 'Bydd pobl o gwmpas y byd yn dod i ddefnyddio Llwybr Dyffryn Tywi'
- Llwybr pererindod Cadfan yn ysgogi llenorion ac yn denu ymwelwyr




