Skip to main content
Advertisement

Griff Roberts Cycles 3,000km Through Spain Back to Anglesey

Griff Roberts shares his experience cycling 3,000km through Spain and France, camping and meeting locals, before returning home to Anglesey.

·7 min read
Griff Roberts

Beicio a champio

Beth mae myfyrwyr ledled Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a hithau'n wyliau haf?

Os ydyn nhw unrhywbeth fel Griff Roberts, yr ateb yw treulio mis yn beicio 3,000km drwy Sbaen ac yn ôl adref i Lanfairpwll...

Dyma Griff i ddweud hanes ei antur:

Pob haf, mae clwb triathlon Prifysgol Glasgow yn trefnu gwyliau i'r clwb. Eleni, Valencia oedd y dewis.

Awgrymodd ffrind y dylen ni bikepackio i gyfarfod ein ffrindiau o'r clwb yno; o Santander i Valencia, o'r arfordir gogleddol i arfordir dwyreiniol Sbaen.

Pobl ar feic
Disgrifiad o’r llun, Griff (dde) a rhai o'r criw o ffrindiau a feiciodd o Santander i Valencia

Doeddwn i erioed wedi beicio a gwersylla o'r blaen; roeddwn i wedi bod yn ddigon lwcus i feicio dramor ychydig o weithiau o'r blaen, ac roeddwn i'n gwybod fy mod i'n ei garu, ond roedd hyn yn wahanol.

Gwersyll
Disgrifiad o’r llun, Roedd y criw yn gwersylla mewn lleoliadau diddorol yn ystod eu taith ar draws Sbaen

Roedd yr 800km cyntaf yn mynd o'r porthladd yn Santander i lawr at Valencia. Cymerodd hynny chwe diwrnod.

O guddio rhag pryfed mewn bagiau bivi a defnyddio stôfs nwy bob nos, i olchi ein hunain mewn afonydd a chysgu ar draethau, roedd hyn yn brofiad hollol newydd.

Roeddwn i'n hynod o lwcus i gyrraedd Valencia mewn un darn, ac yn fwy lwcus fyth mod i wedi gallu rhoi fy hun mewn sefyllfa i wneud y daith yn y lle cyntaf.

Roedd llawer o'r cymhelliant yn dod o'r gred bod o'n fraint arbennig cael trio pethau sy'n heriol.

Dim ond pan gyrhaeddon ni'r Mediterranean wnes i benderfynu beicio adra i Ynys Môn...

Ar ôl gadael Valenica, pan trodd y lleill am adra, fe wnaeth Skye a finnau fynd o gwmpas y Pyreneau i weld ffrind o'r brifysgol.

Daeth Victor i'n cwrdd yn Sbaen a beicio o'n blaen ni am 40km yn ôl i'w dref arfordirol Ffrengig-Gatalanaidd ar y Côte Vermeille: Banyuls-sur-Mer.

Alla i'n hawdd alw'r dair noson yna'n baradwys go iawn. Snorclo am bysgod, bwyta croissants, tapas, gwylio Harry Potter, a nosweithiau allan dwi'n trio fy ngorau i gofio.

Dwi methu diolch digon i Victor a'i ffrindau am ei groeso. Doeddwn i ddim yn gwybod bryd hynny mai dyma oedd jest y cyntaf o'r gweithredoedd rhyfeddol o garedigrwydd fyddwn i'n eu profi.

Griff a ffrindiau ar feics
Disgrifiad o’r llun, Wedi cael cwmni am ran helaeth o'r daith, roedd Griff am fod yn teithio o dde Ffrainc yn ôl adref i Fôn ar ei ben ei hun

Caredigrwydd dieithriaid

Efo dim ond tua 1,700km ar ôl, a Skye yn dal trên o Banyuls i Toulouse, ro'n i ar ben fy hun.

Beicio ar hyd y Canal du Midi o'r Med i arfordir yr Iwerydd, gan aros dros nos ger Carcassonne, Toulouse, Bazens a Bordeaux.

Roeddwn i'n delio ag unigrwydd a charedigrwydd eithafol bob un diwrnod. Doedd dim un diwrnod yr un fath, ond roedden nhw i gyd yn cynnwys llawer iawn o fwyta, yfed a phedlo.

Croissants ar y beic
Disgrifiad o’r llun, Croissants... rhan hanfodol o unrhyw daith feics drwy Ffrainc

Y ddwy noson olaf ar hyd y gamlas, ro'n i'n aros mewn tai oddi ar Warmshowers – gwefan i feicwyr aros efo beicwyr eraill – ac roedd y ddau brofiad yn hollol wahanol i'w gilydd.

Yn y bryniau diarffordd uwchben Port-Sainte-Marie, roedd fy ngwesteiwr, Myriam, wedi paratoi lle i mi cyn gadael ar drip teulu, er mod i ond wedi cysylltu efo hi'r noson cynt.

Mi ges i gawod, berwi pasta, a chysgu mewn gwely. Doedd dim clo ar y sied, felly ro'n i'n pwyso'r beic yn erbyn y drws o'r tu mewn.

Tua 7pm y noson wedyn, wrth i mi nesáu at Bordeaux, ges i neges gan westeiwr arall, Arnaud. Dywedodd y dylwn i drio'i gyrraedd o fewn 45 munud, gan ei fod o'n mynd allan am sbel. Edrychais ar Google Maps; ro'n i 50 munud i ffwrdd.

Advertisement

Ro'n i hefyd yn llwglyd ac yn sychedig, felly rhoddais i'r ffôn yn fflat yn y bag ar y tiwb top a rhoi cyfeiriad Arnaud i mewn. Ro'n i'n gwybod y gallwn i dynnu pum munud oddi ar yr amser os oeddwn i'n 'locio mewn'. A hefyd, mae goleuadau coch mond ar gyfer ceir, reit?

Syrthiodd y ffôn allan ar y ffordd wrth i mi wibio drwy ganol y ddinas; yn ffodus, dangosodd y ffôn fwy o wydnwch na fi ac roedd o dal i weithio. Cyrhaeddais dŷ Arnaud heb funud i'w sbario.

Bwyteais i swper yn nhŷ ei ffrind y noson yna - fflan a salad o fresych coch - yn hawdd y bwyd gorau ro'n i wedi'i gael ers gadael Banyuls.

Y bore wedyn, roedd o wedi bod i'w hoff fecws cyn i fi godi i ôl ei hoff pâtisseries!

Arnaud a Griff
Disgrifiad o’r llun, Griff gydag Arnaud, a roddodd gymaint o groeso iddo yn Bordeaux

Gadewais letygarwch Arnaud i seiclo tuag at La Rochelle ac ar y ffordd i Nantes y diwrnod ar ôl hynny, ges i fy nal mewn mellt a tharannau, trysor yng nghanol y gwres!

Roedd hi dros 40°C ac ro'n i wedi bod yn beicio drwy be' oedd Arnaud yn ei alw'n 'unprecendeted heatwave', hyd yn oed i Ffrainc.

Ar ôl i ysgolion gau ar draws y rhanbarth, ges i fy mherswadio i ddal trên o Nantes i Rennes, i gael gwared ar 100km, ac wedyn beicio'r 80km i borthladd St Malo ar arfordir gogleddol Ffrainc.

Beics ar y fferi
Disgrifiad o’r llun, Degau ar ddegau o feics ar y fferi yn ôl o Ffrainc, a channoedd o straeon gan y beicwyr

Roedd yr amser ar y fferi'n braf iawn am fod cymaint o feicwyr yno; welais i tua 40 o feics wedi'u cloi dan y dec.

Ro'n i'n meddwl wrtha fy hun tybed sut 'nes i feicio cymaint heb ddod ar draws yr un ohonyn nhw, ac eto roedden ni i gyd wedi cyrraedd yr un lle efo straeon oedd yr un mor ysbrydoledig. Mae'n dweud lot am y byd bikepackio.

P'un ai oedden nhw'n reidio e-feics, beics mynydd, beics lôn, treisicl neu rywbeth yn y canol, roedd pob seiclwr ar y fferi yn dangos bod o'n beth da teithio ar feic, os oes digon o ewyllys.

Mae'r straeon rwyt ti'n eu rhannu yn anrhegion bendigedig.

Teg edrych tuag adref

Yng Nghaerdydd, arhosais i gyda theulu cefnder fy nhad; Emyr a Sioned a'r plant: Dewi, Gwyn a Carys. Y teulu cyntaf a'r pobl cyntaf oedd ddim yn ddiarth i mi.

Wrth i'r ton o wres fy nilyn i o Ffrainc, diolch iddyn nhw am roi fi mewn bath rhew – achubwyr bywyd!

Carys, Griff, Gwyn ac Emyr a beic Griff
Disgrifiad o’r llun, Carys, Griff, Gwyn ac Emyr - O wres Ffrainc i wres Cymru, roedd Griff yn ddiolchgar iawn am gael bath rhew yng Nghaerdydd!

Anfonais i neges fideo at fy nheulu wrth i mi groesi Pont Menai; ro'n i bum munud o fod adra. Yn ôl pob sôn, rhedon nhw allan i aros amdana i ar waelod y stryd.

Dwi'n siŵr eu bod nhw'n poeni pan nad oeddwn i wedi troi i fyny 15 munud yn ddiweddarach... o'n i wedi disgyn i ffwrdd?

Yn ôl yn Borth, roedd Nain a Taid wedi cael eu cyfarch gan deithiwr chwyslyd.

Roeddwn i'n lwcus iawn i allu siarad efo nhw ar sawl noson tra ro'n i'n teithio, fel ro'n i'n gwneud efo Mam a Dad a fy nau frawd, Seth ac Ifan.

Wrth i mi edrych yn ôl ac ail-fyw'r daith, dwi'n sylweddoli'n fwy nag erioed: hyd yn oed pan ro'n i filoedd o filltiroedd i ffwrdd, efo dim ond pain au chocolat fel cwmni, roedd eu cariad werth y pellter.

Fel myfyriwr, ro'n i'n hynod o lwcus i allu defnyddio'r bwlch bach yma o ddiweithdra i grwydro Gorllewin Ewrop ar fy meic, a dwi'n wirioneddol yn trio peidio cymryd y daith yma yn ganiataol.

Griff ar ei feic
Disgrifiad o’r llun, Adref o'r diwedd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb

  • 1,200 milltir, 15 teiar fflat, 1 her arbennig
  • Y bechgyn o Langollen sy'n beicio i Bangkok
  • Seiclwr o Bowys yn drydydd mewn ras feics ultra ar draws Ffrainc

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News