Roedd Meg - nid ei henw gwirioneddol - yn 14 oed pan ddigwyddodd y grŵmio honedig
Mae cyn-ddisgybl 17 oed o Ysgol Friars ym Mangor yn honni bod ganddi "hunllefau" ac "ôl-fflachiadau" o'r grŵmio a honnir gan Neil Foden, cyn-bennaeth yr ysgol, a oedd yn meithrin perthynas amhriodol gyda hi pan oedd hi'n 14 oed.
Yn ystod cyfres o "sesiynau therapi" un-i-un yn ei swyddfa, mae Meg yn dweud i Foden fod wedi grŵmio iddi, er nad oedd ymosodiad corfforol nac rhywiol yn digwydd. Fodd bynnag, mae hi'n nodi bod ei ymddygiad wedi cael effaith barhaus ar ei bywyd.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 am gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn merched ifanc.
"Dwi'n cael nightmares bob hyn a hyn. Dwi efo flashbacks o fo," meddai Meg.
"Dwi'n gwybod fydd hwn hefo fi am bywyd fi.
"Mae'r grooming ddim just twtchiad, mae'n controlio meddwl chdi. Oedd o'n controlio meddwl fi. Oedd o'n chwarae'r gema'."

'Ddim yn cyrraedd y trothwy cyfreithiol'
Mae Meg yn dweud ei bod yn gorfod "brwydro i brofi" pa effaith gafodd ymddygiad Foden ar ei bywyd, gan fod cwmni yswiriant sy'n gweithredu ar ran Cyngor Gwynedd wedi gofyn iddi dynnu ei chais am iawndal yn ôl. Roedd y cais wedi'i wneud i helpu i dalu am gostau therapi.
Newyddion S4C wedi gweld llythyr gan gyfreithwyr y cwmni yswiriant yn dadlau nad oes awgrym bod Foden "wedi cyffwrdd â hi" ac nad yw honiadau Meg yn "cyrraedd y trothwy cyfreithiol" ar gyfer ceisiadau sy'n cynnwys ymosodiad, aflonyddu neu achosi niwed bwriadol.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod yr holl achosion iawndal sy'n ymwneud â materion Foden yn dal i gael eu hystyried drwy brosesau cyfreithiol.

Y ferch newydd a'r sesiynau un-i-un
Credir mai Meg yw'r "ferch newydd" a gyfeirir ati yn adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol a gyhoeddwyd fis Tachwedd diwethaf, a oedd yn archwilio methiannau diogelu mewn cysylltiad â throseddau Foden.
Yn 2023, roedd Meg yn cael trafferthion gyda'i gwaith ysgol ac ar ôl trafod hyn gyda'i rhieni, cynigiodd Foden gefnogaeth un-i-un iddi. Pan glywodd am y trefniant, roedd hi'n synnu ac yn teimlo na allai wrthod.
"Oedd o wedi basically dweud oedd o isio one-to-one sessions efo fi, ac... roeddwn i'n teimlo o'n i ddim yn gallu dweud na."
Mae Meg yn dweud bod Foden wedi ei gynghori i beidio â dweud wrth ei rhieni am y cyfarfodydd, tra hefyd yn gofyn i'w rhieni beidio â thrafod y trefniant gyda hi, gan gredu bod hyn wedi atal trafodaethau agored yn y teulu.
Cafodd 17 sesiwn "cefnogi" ar ei phen ei hun gyda Foden, a dywedodd Meg ei bod yn dechrau rhoi mwy o ymddiriedaeth iddo.
"O'n i'n gweld o mwy a mwy," meddai Meg.
"Cause o'n i'n rhoi trust i mewn iddo fo a dwi'n meddwl o'n i 'di dechrau agor fyny iddo fo a dweud pethau ella faswn i ddim yn deud i pawb arall, cause o'n i yna i trustio fo, dyna be o'n i'n teimlo anyway."
"A wedyn ar ôl bach o amser, dwi'n meddwl oedd o wedi recognisio oedd o hefo trust i gyd fi i fewn.
"Dwi'n cofio fo'n gofyn i fi os o'n i'n scared o fo, ac o'n i 'di atab yn deud 'ia' o'n i. A dwi'n meddwl mae hwnna 'di confirmio efo fo - oedd o hefo'r authority a'r pŵer ato fi.
"O'n i'n teimlo'n sbesial, edrych yn ôl.
"A dwi'n meddwl, o'n i'n licio hwnna, cause o'n i'n 14, o'n i isio rhywun yna bob tro, a dwi'n meddwl mae o wedi sbïo ar hynna a 'di cymryd mantais o hwnna."
Pryderon heb eu hadrodd
Yn ystod y cyfnod pan oedd Meg yn cael y cymorth honedig gan Foden, nododd yr Adolygiad Ymarfer Plant fod uwch dîm rheoli Ysgol Friars yn poeni am ymddygiad Foden tuag at merched ifanc eraill.
Dywedodd yr adroddiad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i atal Foden rhag parhau gyda'i ymddygiad.
Er bod llawer o'r methiannau a nodwyd yn ymwneud â Chyngor Gwynedd ac asiantaethau eraill, roedd pryderon hefyd am weithredoedd tîm rheoli Ysgol Friars.
Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2023, trafododd y tîm uwch, gan gynnwys arweinydd diogelu dynodedig, ymddygiad Foden drwy negeseuon testun.
Un neges yn disgrifio Foden yn "treulio hanner ei amser yn yr ysgol bellach yn gafael llaw genethod bach" ac yn nodi ei arferiad o fynd â disgyblion adref fel "rhyfedd ar y gorau" ac "amheus".
Mae neges arall yn cyfeirio at swyddfa Foden gan ddweud fod "un arall mewn yna rŵan" a chyfeiriad at "eneth newydd" mewn neges nes ymlaen.
Mae Meg yn credu bod y sylwadau hyn yn cyfeirio ati hi.
Er nad yw'r BBC wedi gallu cadarnhau hyn gyda thîm yr adolygiad, mae teulu Meg wedi darparu negeseuon testun o'r un cyfnod lle mae Foden yn trafod "sesiynau therapi" un-i-un gyda Meg, gan eu lleoli yn ei swyddfa ar yr adeg roedd uwch staff yn codi pryderon.

Rhybudd am ffeiliau a chwynion o 2009
Er gwaethaf pryderon athrawon ar y pryd, ni wnaed cyfeiriad at Wasanaethau Plant Gwynedd, a daeth yr adolygiad i'r casgliad bod hyn yn "fethiant o ran dyletswydd broffesiynol i roi gwybod am bryderon diogelu".
Mae Cyngor Gwynedd yn pwysleisio bod systemau diogelu'r sir wedi'u cryfhau erbyn hyn.
Mae Meg yn dweud fod staff Ysgol Friars wedi gweld hi'n ymweld â swyddfa Foden yn rheolaidd, gan fynd trwy swyddfa arall lle roedd pobl eraill yn bresennol.
"I fynd i office fo 'oedd chdi angen mynd trwy office arall efo pobl yna, ac oedd yna meeting room oedd 'na bob tro pobl yna.
"So oedd pobl wedi gweld fi mynd yna - athrawon a senior management."
Yn dilyn yr Adolygiad Ymarfer Plant, mabwysiadodd Cyngor Gwynedd gynllun ymateb diwygiedig, gan addo cryfhau gweithdrefnau diogelu a chefnogi'r rhai a gafodd eu heffeithio gan droseddau Foden.
'Dwi wedi beio fy hun'
Mae Meg yn dweud iddi gael sioc pan gafodd Foden ei arestio, ond ar ôl clywed tystiolaeth merched eraill yn y llys, dechreuodd feddwl y gallai hi fod wedi bod y nesaf.
Dywedodd ei bod wedi cymryd misoedd i "roi popeth at ei gilydd" a sylweddoli ei bod wedi cael ei grŵmio gan Foden.
"Oedd o wedi cymryd misoedd iddo fi rhoi pob dim efo'i gilydd a realisio be exactly oedd 'di mynd ar."
Wrth ddisgrifio'r digwyddiadau, dywedodd:
"O'n i'n groomed."
Wrth ei holi a oedd hi'n cael ei grŵmio gan Foden, atebodd:
"O'n, heb bo' fi'n realisio fo, ond o'n i."
Wrth edrych yn ôl, mae'n dweud ei bod yn teimlo cywilydd ac wedi beio ei hun am beidio â sylwi ar y digwyddiadau.
"Dwi'n meddwl dwi 'di rhoi bai ar fi fy hun amser ar ôl amser.
"Pam o'n i heb 'di sbotio be' oedd yn mynd ymlaen?"
Cais am iawndal a gwrthwynebiad y cwmni yswiriant
Ar ôl i Foden gael ei garcharu, a gyda chymorth cyfreithiol, mae Meg wedi rhoi gwybod i Gyngor Gwynedd ei bod yn bwriadu gwneud cais am iawndal i helpu gyda therapi a chefnogaeth iechyd meddwl.
Mae llythyr gan gyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran cwmni yswiriant Cyngor Gwynedd yn dadlau nad oes "atebolrwydd cyfreithiol" ar y cyngor ac nad oes unrhyw awgrym bod Foden "wedi cyffwrdd â hi".
"O'dd o'n heartbreaking," meddai Meg.
"So mae'n cymryd rhywun i actually twtchiad fi i fi gael ei effeithio?"
Dywedodd fod hi'n byw gyda "depression, PTSD ac anxiety, so mae hwnna'n massive ar iechyd meddwl fi".
Ers gwneud y cais, mae wedi gorfod ailadrodd ei stori, ail-fyw atgofion, a mynd i asesiadau seiciatrig i brofi effaith y digwyddiadau.
Bron i dair blynedd ar ôl y sesiynau gyda Foden, mae hi'n dal i fyw gyda'r "trawma" ac yn dibynnu ar feddyginiaeth i'w helpu i ymdopi.

Ymateb Cyngor Gwynedd
Dywedodd Cyngor Gwynedd nad ydynt yn gallu rhoi sylw i achosion unigol ac mai cwmni allanol sy'n gyfrifol am ddelio gyda cheisiadau iawndal.
Maent yn cydnabod y methiannau a amlygwyd yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder 2024 ac yn ymddiheuro i'r holl ddioddefwyr.
Maent yn nodi bod ystod o gymorth ar gael i ddioddefwyr, gan gynnwys gwasanaeth cwnsela annibynnol, ac yn ceisio cytuno ar geisiadau iawndal mor gyflym â phosibl i osgoi prosesau cyfreithiol diangen.
Fodd bynnag, mae Meg yn teimlo bod Cyngor Gwynedd wedi troi cefn arni.
"Maen nhw 'di deud, ond mewn ffordd maen nhw heb 'di gwneud, o gwbl...
"Maen nhw 'di deud neith nhw ymddiheuro, neith nhw roi help iddyn ni mynd trwydda fo, ond wedyn dwi 'di rhoi case fi 'mlaen a maen nhw di troi rownd a d'eud dio'm yn hynna faint o effeithio fi."
'Effaith yn gallu para'n hir i ddioddefwr'
Mae Meg yn credu ei bod wedi cael ei grŵmio gan Foden ac mae'r achos yn codi cwestiynau am effaith grŵmio ar bobl ifanc.
I ddysgu mwy, siaradwyd â Dr Nia Williams, seicolegydd plant ym Mhrifysgol Bangor, sy'n astudio a gweithio gyda phobl ifanc sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.
Yn ôl Dr Williams, mae grŵmwyr yn aml yn targedu pobl ynysig neu sydd heb rwydweithiau cymorth cryf.
"Maen nhw'n targedu unigolion sy'n llai tebygol o godi llais, llai tebygol o ofyn cwestiynau, ac nad oes ganddynt gymorth cryf gan eu teulu neu eu cymuned," meddai.
Mae grŵmio yn cynnwys proses raddol i ennill ymddiriedaeth y dioddefwr, gan wneud iddynt deimlo'n bwysig ac yn unigryw.
"Maen nhw'n gwneud i'r unigolyn deimlo'n bwysig. Maen nhw'n dweud wrthyn nhw, 'fi ydi'r unig un sy'n poeni amdanat ti' neu 'fi ydi'r unig un sy'n gwrando arnat ti'.
Dros amser, gall y dioddefwr ddod yn ddibynnol iawn ar yr unigolyn hwnnw."
Rhybuddiodd Dr Williams fod effeithiau grŵmio yn gallu parhau hyd yn oed ar ôl i'r grŵmio ddod i ben, yn enwedig os nad yw'r dioddefwyr yn cael y gefnogaeth briodol.
"Gall gael effaith hirdymor ar ddioddefwyr a goroeswyr," meddai.
"Mae rhai pobl yn mynd yn ynysig, mae rhai'n ei chael yn anodd ymddiried mewn eraill, ac mae rhai'n cael trafferth ffurfio perthynas.
"I rai unigolion, gall y canlyniadau bara am oes."
Mae hi'n pwysleisio bod deall sut mae meithrin perthynas amhriodol yn digwydd yn hanfodol i helpu mwy o ddioddefwyr i gael eu hadnabod a'u cefnogi.
"Mae'r grŵmio yn digwydd yn raddol. Mae'r ysglyfaethwr yn ennill ymddiriedaeth gam wrth gam nes bod y dioddefwr yn teimlo'n gwbl ddibynnol arnynt.
Dyna sy'n gwneud meithrin perthynas amhriodol mor anodd ei adnabod ac mor niweidiol i'r rhai sy'n ei brofi."

'Neith hwn ddim stopio fi'
Mae Meg yn gobeithio y bydd ei stori yn helpu eraill i adnabod arwyddion grŵmio, yn enwedig mewn ysgolion lle nad yw pobl yn ymwybodol o'r arwyddion.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae pob cais am iawndal yn gysylltiedig â Foden yn dal i gael eu hystyried.
Mae Meg yn bwriadu parhau gyda'i chais er gwaethaf awgrymiadau gan gyfreithwyr yswiriant y cyngor i beidio â gwneud hynny.
"Pryd o'n i'n 14 o'n i heb wneud dim byd i deservio hyn. Dwi'n mynd i ffeitio am y bywyd innocent hwnna eto.
I proveio iddo fo a pawb arall 'neith hwn ddim stopio fi, dydi hwn ddim yn definio fi.
A fydda i'n gallu byw bywyd fi sut 'dwi isio eto."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







