Skip to main content
Advertisement

Rhybudd am beryglon cetamin ar ôl effaith barhaol ar fywyd dyn ifanc

Mae Oliver, 26, o Ystrad yn Rhondda Cynon Taf, yn dweud bod cetamin wedi newid ei fywyd am byth ar ôl niwed parhaol i'w bledren. Mae ymgyrch newydd yn rhybuddio pobl ifanc am beryglon y cyffur.

·5 min read
ketamine

Mae dyn ifanc o Ystrad yn Rhondda Cynon Taf yn dweud bod ei fywyd wedi newid am byth ar ôl blynyddoedd o ddefnyddio cetamin. Yn ôl Oliver, 26, mae angen mwy o gymorth a gwybodaeth ar bobl ifanc cyn iddyn nhw arbrofi gyda'r cyffur, ac mae'n croesawu ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth a allai atal eraill rhag mynd drwy'r un profiad.

Ar ôl bod yn gaeth i getamin am wyth mlynedd, roedd yn rhaid i Oliver gael llawdriniaeth i osod bag stoma oherwydd y niwed a achosodd y cyffur i'w bledren.

"Pan ddechreuais i ddefnyddio cetamin, doedd gen i ddim syniad y gallai orffen fel hyn," meddai.

Dywedodd iddo ddechrau defnyddio'r cyffur yn gymdeithasol cyn iddo ddod yn rhan o'i fywyd bob dydd.

"Ar y dechrau roedd e'n teimlo fel rhywbeth oedd pawb rownd fi yn gwneud. O'n i methu imagino diwrnod hebddo fe, dyna odd yr unig peth ar meddwl fi," meddai.

Wrth i'w ddefnydd gynyddu, dechreuodd ddioddef o'r hyn sy'n cael ei alw'n ketamine cramps – poen difrifol sy'n gysylltiedig â defnyddio'r cyffur.

"Roedd y boen yn anodd i'w disgrifio. Roedd e'n stopio fi in my tracks ac yn fy ngadael yn methu gwneud dim.
"Yn eironig yr unig beth oedd yn delio efo'r boen oedd defnyddio mwy o getamin so odd e jyst yn endless cycle."

Yn y pen draw, achosodd y cyffur niwed parhaol i'w bledren, dechreuodd basio gwaed, ac yna darnau o leinin y bledren hefyd.

"Ma bywyd fi wedi newid am byth, os gall rhywun weld beth sydd wedi digwydd i mi a phenderfynu peidio â rhoi cynnig ar getamin, byddaf mor falch."
ketamine

Mwy na dyblu ymhlith pobl ifanc

Daw ei sylwadau wrth i sefydliadau ar draws gogledd Cymru gynnal ymgyrch newydd, 'I Wish Someone Had Told Me', gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o beryglon cetamin ymhlith pobl ifanc.

Mae'r ymgyrch yn cynnwys ffilm ddogfen fer am Bradley o'r Rhyl, cyn-ddefnyddiwr cetamin sy'n sôn am ei brofiadau, yn ogystal â negeseuon gan bobl ifanc a theuluoedd sydd wedi gweld effaith y cyffur.

Yn ôl ymgyrchwyr mae nifer yr achosion sy'n gysylltiedig â chetamin ac sy'n cael triniaeth yn adrannau brys ysbytai'r gogledd wedi cynyddu o 241 yn 2023 i 372 yn 2024, ac yna i 412 yn 2025.

Mae defnydd y cyffur sy'n Nosbarth B hefyd wedi mwy na dyblu ymhlith pobl ifanc dros y degawd diwethaf, yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU.

Mae cetamin yn gyffur Dosbarth B, ac mae ei ddefnydd ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf
Disgrifiad o’r llun, Mae cetamin yn gyffur Dosbarth B, ac mae ei ddefnydd ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf

'Teimlo fel rhywbeth o'dd pawb yn 'neud'

Mae Lowri, 22, o Gaerdydd, yn dweud ei bod yn defnyddio cetamin yn achlysurol ac nad oedd hi'n sylweddoli'r risgiau pan ddechreuodd.

Advertisement
"Roedd e'n teimlo fel rhywbeth roedd pawb yn gwneud mewn partïon, ac oherwydd hynny doedd e ddim yn edrych yn beryglus," meddai.
"Doedd neb wedi egluro i mi beth allai ddigwydd yn gorfforol nac yn feddyliol. Os o'n i'n gwybod mwy am yr effeithiau hirdymor, fi ddim yn siŵr byse fi wedi trio fe."

Mae Jac, 21 oed o Fangor, yn dweud iddo ddefnyddio cetamin yn gymdeithasol yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol.

"Mae'n hawdd meddwl na fydd dim byd drwg yn digwydd i ti oherwydd rwyt ti'n gweld pobl eraill yn ei ddefnyddio," meddai.
"Roedd pawb o'm cwmpas yn dweud mai dim ond ffordd o ymlacio oedd e, felly doeddwn i ddim yn gweld y perygl," meddai.
"Dros amser, dechreuais sylwi fy mod i'n dibynnu arno'n fwy nag oeddwn i eisiau cyfaddef. Roedd e'n effeithio ar fy iechyd, doedd dim arian 'da fi i brynu bwyd - oedd e'n gyfnod rili scary."

Mae cetamin yn gyffur Dosbarth B, ac mae ei ddefnydd ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf.

Mae'r ymgyrch yn bartneriaeth rhwng nifer o sefydliadau yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru, Adferiad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, House of the Vivienne, Flintshire Sorted, In2change, Barnardo's, Be' Di'r Sgôr a The Wallich.

Dywedodd Gareth Evans, Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, fod swyddogion yn gweld effaith y cyffur ar bobl ifanc ledled y rhanbarth.

"Mae camddefnyddio cetamin yn cael effaith ddinistriol ar bobl ifanc ledled Gogledd Cymru.
"Trwy rannu profiadau go iawn a darparu gwybodaeth glir, rydyn ni'n gobeithio annog sgyrsiau cynnar ac atal mwy o fywydau rhag cael eu niweidio," meddai.

Zahra Errami: 'Cyffuriau wedi bod o amgylch fi ers fy arddegau'

Nifer uchaf erioed o farwolaethau camddefnydd cyffuriau yng Nghymru

Dywedodd Dr Jane Moore, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fod clinigwyr wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy'n dioddef cyflyrau sy'n gysylltiedig â chetamin.

"Mae'n hanfodol bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn gallu cael gwybodaeth glir a gonest am y niwed y gall y cyffur ei achosi, ac mae'r ymgyrch hon yn rhan bwysig o'r gwaith hwnnw."

Os yw'r stori hon wedi effeithio arnoch mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News