Roedd cael plant wastad yn rhywbeth roedd Shosh Stokes yn ei gymryd yn ganiataol fyddai'n digwydd. Felly ar ôl i'w thrydydd cylch o IVF fethu yn 2024, roedd rhaid iddi feddwl eto. Ond er fod ei bywyd yn wahanol i'r hyn roedd hi wedi ei ddychmygu, mae'n llawn profiadau anhygoel, meddai.
Yn wreiddiol o Aberdâr, a'i gŵr, Carwyn, o Fethesda, mae'r pâr yn byw yn Leamington Spa ers dros ddegawd.
Ar ôl methu â beichiogi, ac wedyn amryw o apwyntiadau meddygol, dechreuodd y cwpl driniaeth IVF ym mis Medi 2023. Ac yn ôl Shosh, aeth hi mewn i hyn "yn ddall".
"Roedden ni'n ddiniwed yn meddwl y bydden ni'n feichiog ar y tro cyntaf; byddai popeth yn iawn.
"Ond doedden nhw ddim wedi dangos yr ystadegau i ni sy'n dangos ei bod hi'n annhebygol iawn i IVF weithio y tro cyntaf, a'i fod e fel arbrawf i weld sut mae'r cyffuriau'n ymateb i dy gorff di."
Doedd Shosh na Carwyn chwaith ddim wir yn deall sut broses y byddai hi.
"Roedd e'n horrible. Doedd e ddim yn broses neis o gwbl; yn invasive iawn, ac er fod y doctoriaid a'r nyrsys yn trio eu gorau, dydy e ddim yn dignified.
"O'n i wedi cael fy mhwmpio yn llawn hormons felly do'n i ddim yn gwybod os o'n i'n mynd neu dod.
"Ti'n cael y pigiadau, wedyn ti'n gorfod aros i weld os oes rhywbeth wedi digwydd sy'n werth cario 'mlaen gydag e, wedyn maen nhw'n rhoi'r ŵy sydd wedi ei ffrwythloni nôl mewn, ac aros eto, yn gobeithio fod popeth am fod yn iawn...
"Roedd hi'n broses mor anodd yn emosiynol ac yn gorfforol. Roedd e'n traumatising, a'r peth anoddaf rydyn ni erioed wedi gorfod ei wneud."
Oherwydd ei bod hi ddim yn adnabod unrhyw un oedd wedi mynd drwy'r broses IVF, er cefnogaeth teulu a ffrindiau, roedd y ddau'n teimlo'n eithaf unig yn mynd drwy hyn i gyd. Felly penderfynodd Shosh droi ar-lein.
Roedd hi'n rhannu am ei bywyd ar ei chyfrif Instagram, dolen allanol beth bynnag, felly roedd o'n gwneud synnwyr iddi i fod yn agored am ei siwrne IVF, meddai. Ac fe dderbyniodd gefnogaeth eraill yn syth.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn. Yn sydyn, roedd gen i'r fyddin fawr yma yn bod yn gefn i mi ac yn cynnig cyngor neu law i'w dal. Ro'n i'n holi cwestiynau ac yn cael atebion. Nawr roedd gen i gefnogaeth gan bobl oedd wedi mynd drwyddo.
"Wedyn wrth i'r broses fynd ymlaen, o'n i hefyd eisiau rhannu achos doedd e ddim o gwbl beth o'n i wedi disgwyl iddo fod, er mwyn helpu eraill."

Rhoi'r gorau iddi
Â'u cyngor lleol ddim ond yn cynnig un cylch o IVF am ddim ar y GIG, roedd rhaid i Shosh a Carwyn ariannu unrhyw driniaethau eraill. Ond nid arian oedd yr unig ffactor dros beidio cario 'mlaen yn y diwedd, eglura Shosh - roedd yr holl broses wedi dechrau pwyso'n drwm ar y ddau.
"Dwi'n cofio, ar ôl yr ail, eistedd yn y car a Carwyn a fi yn edrych ar ein gilydd, a'r ddau ohonon ni'n dweud 'dwi ddim wir eisiau gwneud hyn eto'. Roedd meddwl am roi ein hunain drwyddo yn anodd; erbyn hynny, roedd fy iechyd meddwl yn y toilet.
"Ond bydden ni wedi difarru peidio trio.
"Roedd e'n gyfnod rili tywyll. 'Nes i ddatblygu ffobia am y nodwyddau, ac o'n i wir yn cael trafferth gyda'r pigiadau.
"'Sen i yn feddyliol, yn gorfforol, ddim wedi gallu gwneud rownd arall."
Felly ar ôl i'r trydydd ymgais fethu, penderfynodd Shosh a Carwyn roi'r gorau iddi.
Rhannodd Shosh eu penderfyniad ar ei chyfrif Instagram, a derbyn ton arall o gefnogaeth.
"Roedd pobl yn deall. Roedden nhw'n dweud 'mae bywyd am edrych wahanol ond mae e am fod yr un mor anhygoel'. Roedden nhw gymaint o help i mi.
"Dwi mewn lle llawer gwell. Ges i gwnsela, oedd yn beth da iawn, achos ar un adeg, do'n i methu siarad am y peth i gyd heb grio. Rydyn ni'n lwcus iawn, achos mae hyn yn gallu dinistrio rhai cyplau – ond dy'n ni wedi dod mas o hyn yn gryfach.
"Byddai hi'n hawdd iawn i eistedd nôl a bod yn drist amdano am byth. Ond dwi ddim eisiau. Mae'n swnio'n cheesy, ond mae 'na ormod i fyw ar ei gyfer. Mae 'na ormod o bethau hyfryd a chyffrous i'w gwneud."
Cael byw bywyd eto
Mae hi wedi bod yn ddwy flynedd lawn iawn i Shosh a Carwyn ers gwneud y penderfyniad i beidio cael mwy o driniaeth IVF, gyda'r cwpl yn cael y cyfle i wneud y pethau roedden nhw wedi bod yn eu trafod ers blynyddoedd, ond heb fod mewn lle i'w gwneud.
"Roedd ein bywyd on hold am gymaint o flynyddoedd – trio am fabi, triniaeth IVF, gwella, yna triniaeth arall... Ro'n i a Carwyn wedi cael mwy nag un sgwrs 'allwn ni ddim gwneud hynny, achos ella fyddi di'n feichiog erbyn hynny...'.
"Felly mae'n wych gallu mynd amdani.
"Mae gennyn ni lot o bethau da yn mynd ymlaen, ac mae peidio cael plant wedi agor llawer o ddrysau i ni; mae bywyd wedi mynd i gyfeiriadau doedden ni ddim wedi meddwl amdanyn nhw.
"Prynon ni fan i'w newid yn gamperfan; rhywbeth oedden ni wedi bod eisiau ei wneud ers oesoedd, ond o'dden ni wastad wedi bod angen yr arian.
"Dechreuon ni gerdded mynyddoedd, achos o'n i angen rhywbeth ar gyfer fy iechyd meddwl. Aethon ni am road trip ar yr NC500 yn yr Alban."

Ailadeiladu dyfodol gwahanol
Gyda gobeithion am fynd i deithio a chynlluniau i faethu rhyw ddydd, mae'r dyfodol i Shosh a Carwyn wedi newid, ond mae nawr yn agored ac yn gyffrous ar ôl cyfnod mor anodd.
"Dwi'n meddwl fod pawb yn cymryd yn ganiataol, os wyt ti eisiau plant, y bydd yn digwydd. Ac wedyn pan mae angen ailysgrifennu dy fywyd, mae'n cymryd lot i ollwng gafael ar rywbeth ac ailadeiladu dyfodol sy'n edrych yn wahanol.
"Weithiau pan dwi'n edrych ar ein nithod neu blant ffrindiau yn tyfu, dwi'n cael eiliad o feddwl 'fydd hyn byth yn fi'.
"Ond eto ar yr un pryd, mae 'na lawer o bethau fydden ni heb wneud os fasen ni wedi cael plant. Rydyn ni wedi cael dwy flynedd anhygoel yn ailadeiladu pethau a gweithio mas sut mae'r dyfodol am edrych.
"Ydw, dwi'n drist ddigwyddodd e ddim, ond edrychwch ar yr holl bethau gwych sy'n digwydd!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
Methiant IVF: 'Digon oedd digon, allwn i ddim cymryd mwy'
IVF: 'Anodd ond 'nelen i fe i gyd eto er mwyn cael plant'







