Skip to main content
Advertisement

Merch 18 oed yn cytuno i roi ei holl organau cyn marw

Menna Owen, 18, agreed to donate all her organs before dying in March 2025. Her parents say her decision helped save two lives and eased their choice.

·4 min read
Menna Owen yn gwenu tua'r camera - merch yn ei harddegau gyda gwallt brown  wedi ei dorri mewn steil lle mae'r gwallt yn fyrrach un ochr y pen na'r llall

Bu farw Menna Owen, 18, y llynedd yn yr ysbyty ble mae ei mam yn nyrs. Mae rhieni o ardal Pontypridd wedi disgrifio'u balchder ynghylch "gwaddol" eu merch a gytunodd i'w holl organau gael eu rhoi cyn ei marwolaeth yn 18 oed y llynedd.

Fe rannodd Beth a Malcolm Owen hanes eu merch Menna wrth i'r gwasanaeth iechyd fynegi pryder bod llai o deuluoedd yn fodlon caniatáu i organau anwyliaid gael eu defnyddio - gostyngiad o bron 20% dros y pum mlynedd diwethaf ar draws y DU. Mae dau glaf yn eu 20au bellach "yn gwneud yn eithriadol o dda" yn dilyn trawsblaniadau calon ac ysgyfaint yn sgil penderfyniad Menna.

Mae'r corff sy'n gyfrifol am y cynllun rhoi organau ar draws y DU yn gobeithio perswadio miliwn o bobl i gofnodi penderfyniad ar Gofrestr Rhoi Organau'r GIG cyn diwedd 2026. Yn ôl NHSBT mae teuluoedd yn caniatáu defnydd organau anwyliaid mewn 90% o achosion ble mae'r unigolyn eisoes wedi cofnodi eu dymuniad - ffigwr sy'n gostwng i lai na 50% os nad oes cofnod. Yng Nghymru, mae 1.4m o bobl wedi cofnodi eu dymuniad ar y gofrestr.

Cyfraith optio allan o roi organau heb gael 'llawer o effaith'

'Lle o hyd i annog sgyrsiau am bwysigrwydd cofrestru i roi organau'

Bu farw Menna, o Don-teg, fis Mawrth 2025 yn dilyn ataliad ar y galon yn sgil trawiad epileptig. Roedd yn byw gydag epilepsi, yn llwyddo i'w reoli ac ond wedi cael tri thrawiad. On roedd hi'n anarferol o flinedig ar ôl mynd adref o'i gwaith cyn i'w mam ei chanfod yng nghanol ataliad yn yr ystafell ymolchi ddiwrnod ei thrawiad olaf.

Cafodd ei chludo mewn ambiwlans i'r ysbyty lle mae ei mam yn gweithio fel nyrs niwroleg. Daeth i'r amlwg bod y trawiad wedi achosi niwed catastroffig i'w hymennydd, a bod Menna yn annhebygol o oroesi.

## 'Byswn i'n ddiolchgar pe taswn i angen trawsblaniad'

Dywedodd Beth Owen wrth BBC Cymru bod sgwrs wedi codi ynghylch rhoi organau wrth i Menna baratoi i fynd i'r brifysgol.

Dywedodd Menna yn syth, ie, byddai hi'n cynnig unrhyw beth

"Pan ddywedais i 'nid dy cornbilennau (corneas) - they are the windows to your soul'... dywedodd 'Fydda i mo'u hangen! Geith nhw beth bynnag maen nhw mo'yn. Byswn i'n ddiolchgar pe taswn i angen trawsblaniad.' A dyna fe.

"Go brin wnaethon ni feddwl mai o fewn cwta wythnosau y byddwn ni'n gwneud penderfyniad yn yr uned gofal critigol."

Advertisement

Dywed Malcolm a Beth Owen bod gwybod yn union beth oedd dymuniad Menna wedi gwneud gwahaniaeth pan ddaeth yr amser i wneud penderfyniad eithriadol o anodd.

Malcolm a Beth Owen ar soffa yn cael eu holi ar gamera am eu merch Menna
Disgrifiad o’r llun, Dywed Malcolm a Beth Owen bod gwybod yn union beth oedd dymuniad Menna wedi gwneud gwahaniaeth pan ddaeth yr amser i wneud penderfyniad eithriadol o anodd

Dywed y ddau eu bod yn cael "cysur mawr" o wybod bod rhodd Menna wedi achub dau fywyd, ac wedi cael llythyrau o ddiolch yn y ddau achos.

Gawson ni lythyr hyfryd gan fam y ferch a gafodd ysgyfaint Menna... yn dweud pa mor dda mae hi'n gwneud

"Roedd yn cydnabod ein galar - bod ein galar ni [wedi arwain at] orfoledd iddyn nhw ac y bydden nhw'n gwneud eu gorau i anrhydeddu Menna a meddwl amdani bob diwrnod," meddai Beth.

Yna yn fwy diweddar glywson ni gan y dyn ifanc a gafodd calon Menna, unwaith eto yn cydnabod ein galar ac yn dweud y bydd yn anrhydeddu Menna bob diwrnod ac mae e'n gwneud yn arbennig o dda, felly rydym yn falch o hynny.

Ychwanegodd Malcolm: "Mae pob dim yn benderfyniad anodd ac fe wnaeth wahaniaeth i ni.

Pe tasen ni heb gael y sgwrs gyda Menna, fe fyddai wedi bod yn llawer anoddach nag oedd i gytuno i'r rhodd - y sgwrs honno oedd y gwahaniaeth.
Mae'r hyn a ddigwyddodd yn dorcalonnus - ni allai feddwl am ddim byd gwaeth. Ond o ran rhoi organau, roedden ni'n gwybod yn union beth oedd dymuniad Menna.
Cawsom drafodaeth yn ei gylch ac mae angen i bobl gael y sgwrs yna.

Ple emosiynol teulu am driniaeth ar frys i 'achub ein mab tri mis oed'

Athrawes a gafodd ei golwg yn ôl mewn un llygad yn annog trafod rhoi organau

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

## Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News