Yn ôl Caroline Jones fe wnaeth hi deimlo ei bod hi'n "hanfodol" dysgu Cymraeg er mwyn "dangos parch" wrth symud i fyw yng Nghymru. Wrth gyfarfod â'i gŵr mewn prifysgol yn Llundain y daeth Caroline Jones yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg, gan gael ei "swyno" meddai gan arwyddion dwyieithog a'r Gymraeg roedd yn ei chlywed o'i chwmpas wrth ymweld â Chymru.
Yn wreiddiol o Lundain, ond bellach yn byw yng Ngwynedd, mae'n dweud iddi deimlo ei bod hi'n "hanfodol" iddi ddysgu'r Gymraeg "er mwyn dangos parch" wrth iddi symud i fyw i Gymru.
Mae hi'n un o bedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cymru Fyw yn cael cyfle yr wythnos yma i gwrdd â'r ymgeiswyr.
Dywedodd Caroline ei bod yn "fraint enfawr" bod ar y rhestr fer, a bod hynny'n "gyfle gwych i ddathlu a hyrwyddo dysgu a chyfathrebu yn y Gymraeg".
Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Kierion Lloyd
Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Jonathan Davies
Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Paige Morgan
Yn 2004 symudodd Caroline i ogledd Cymru, lle dechreuodd ddysgu'r iaith wrth astudio ar gyfer gradd meistr a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
Pan oedd yn disgwyl ei phlentyn cyntaf, aeth Caroline a'i gŵr ar gyrsiau Cymraeg babanod gyda'i gilydd gan ymuno â chwrs lefel canolradd, ac mewn cyfweliad ar Dros Frecwast dywedodd ei bod yn "benderfynol o fagu fy mhlentyn yn ddwyieithog".
Bellach mae'n Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ac yn Bennaeth Adran ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae hi wedi ymuno â chyrsiau er mwyn "gwella fy ngallu siarad Cymraeg gyda fy nghydweithwyr a phlant a theuluoedd sydd yn defnyddio ein gwasanaethau".
Mae'n dweud ei bod yn ffodus i gael llawer o gyfleoedd bob dydd i siarad Cymraeg yn ei bywyd personol a phroffesiynol.
'Awydd i siarad yn berffaith yn fy rhwystro'
Dywedodd Caroline bod ei hawydd i fod yn "berffaith" yn ieithyddol wedi ei rhwystro am gyfnod.
"Cam pwysig ar gyfer fy nysgu oedd gollwng fy mherffeithrwydd a defnyddio'r Gymraeg oedd gen i yn barhaus, heb boeni am wneud camgymeriadau."
"Roedd rhaid i mi ollwng gafael ar boeni am swnio'n dwp neu gymryd gormod o amser i bobl eraill wrth i mi brosesu'r hyn a ddywedon nhw a meddwl am sut y gallaf ymateb.
"Yn hollbwysig roedd rhaid i mi ollwng gafael ar ddeimlo'n euog am ddiffyg rhuglder ar hyd y ffordd, neu am orfod gofyn i rywun ddweud rhywbeth eto."
Mae'n dweud hefyd bod parodrwydd eraill i gynnal sgyrsiau gyda hi yn Gymraeg wedi ei helpu.

Mae Caroline Jones yn dweud bod dysgu Cymraeg wedi "trawsnewid" pob agwedd o'i bywyd. Yn ôl Caroline mae dysgu Cymraeg wedi bod o "fudd aruthrol" iddi, gan drawsnewid pob agwedd o'i bywyd.
"Mae wedi newid sut ydw i'n meddwl ac yn rhyngweithio.
"Y budd mwyaf i mi ydy'r cysylltiadau dwfn a pharhaol y mae hyn wedi eu meithrin.
"Mae fy mywyd teuluol, fy mywyd cymdeithasol, fy mherthnasoedd â chydweithwyr, a'm hymarfer clinigol wedi newid am byth er gwell."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon Perthnasol
Penri Williams i dderbyn Medal R. Alun yn Eisteddfod y Garreg Las
Sut mae cyrraedd Maes Eisteddfod y Garreg Las?
Lucy Cowley yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn







