Skip to main content
Advertisement

Cyffuriau anifeiliaid yn cael eu gwerthu fel triniaeth canser

BBC investigation finds animal and scabies medicines are being sold as unproven cancer treatments, prompting warnings from doctors and cancer charities.

·8 min read
Ivermectin a Fenebdazole

Dydy Ivermectin a Fenbendazole ddim wedi eu cymeradwyo ar gyfer pobl. Mae ymchwiliad gan y BBC wedi canfod bod meddyginiaethau i ladd llyngyr mewn anifeiliaid a chyffur i drin y clefyd crafu (scabies) yn cael eu gwerthu fel triniaeth canser heb eu profi.

Llwyddodd newyddiadurwr cudd i brynu Fenbendazole ac Ivermectin gan ddyn oedd yn gwerthu lifftiau grisiau yn ne Cymru, a hefyd ar wefan Amazon. Dywedodd elusen canser Macmillan bod

"nifer cynyddol o bobl"
yn holi am y meddyginiaethau yma, er nad oes
"unrhyw dystiolaeth glinigol"
eu bod yn gweithio.

Fe wnaeth Amazon dynnu'r cynnyrch o'r wefan ar ôl i ni gysylltu â nhw, gan ddweud bod ganddynt

"fesurau rhagweithiol ar waith i atal gwerthwyr trydydd parti rhag rhestru cynhyrchion wedi eu gwahardd"
. Mae meddygon yn poeni y gallai cleifion bregus gael eu rhoi mewn perygl drwy eu prynu oherwydd y risg o achosi niwed neu ohirio triniaeth gonfensiynol.

Dywedodd Rebecca Holder nad oedd hi'n gallu credu yr hyn glywodd y gwerthwr lifftiau yn ei ddweud wrth ei thad, Bob.

Rebecca a Bob
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Rebecca Holder nad oedd hi'n gallu credu yr hyn glywodd y gwerthwr lifftiau yn ei ddweud wrth ei thad, Bob

Mae Ivermectin yn gyffur gwrth-barasitig sy'n cael ei ddefnyddio i drin cyflyrau fel y cyflwr crafu tra bod Fenbendazole yn feddyginiaeth i gael gwared ar barasitiaid mewn anifeiliaid.

Mae'r BBC wedi gweld fideos a negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sy'n cynnwys honiadau heb eu profi y gallai'r meddyginiaethau helpu i drin canser. Mae'r negeseuon wedi cael miloedd – ac weithiau miliynau – o wylwyr ar-lein.

Ym mhodlediad y dylanwadwr, Joe Rogan, fe ddywedodd yr actor Mel Gibson bod y cyffuriau wedi llwyddo i drin tri o'i ffrindiau gyda chanser.

Chwe mis yn ôl, cysylltodd Rebecca Holder â'r BBC yn dilyn ymweliad gan werthwr lifftiau grisiau o'r enw Jason Sarver.

Dywedodd fod Sarver a'i thad Bob – oedd â thiwmor ar yr ymennydd a chanser yr ysgyfaint – wedi bod yn trafod lifftiau grisiau pan ddechreuodd y gwerthwr siarad am driniaethau gwahanol i'w salwch.

"Dechreuodd Jason ddweud y gallai gael gafael ar driniaeth nad oedd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd sydd yn gallu trin tiwmorau ar yr ymennydd,"

meddai Rebecca.

"Felly ysgrifennais bopeth i lawr, ac fe wnaeth o sôn am y meddyginiaethau hyn... Fenbendazole, Ivermectin. Doeddwn i ddim yn gallu credu'r hyn yr oedd yn ei ddweud."

Dywedodd Rebecca fod Sarver wedi cynnig gwerthu'r meddyginiaethau i'w thad, sy'n dod o Sir Fynwy, am tua £100.

Gwerthodd Jason Sarver y tabledi i ohebydd y BBC am £100.

Jason Sarver
Disgrifiad o’r llun, Gwerthodd Jason Sarver y tabledi i ohebydd y BBC am £100

Fe wnaeth gohebydd o'r BBC gysylltu â Sarver gan ddweud bod ganddyn nhw berthynas oedd â chanser. Fe wnaeth ailadrodd yr un honiadau am y feddyginiaeth, ac anfon dolen i fideo oedd yn gwneud honiadau heb eu profi bod y cyffuriau'n effeithiol yn erbyn canser.

"Rwy'n gwneud llawer o ymchwil – papurau meddygol, papurau gwyn, unrhyw beth newydd sy'n dod allan, rwy'n cadw llygad arno,"

meddai Sarver.

"Dydw i ddim yn feddyg - dim ond trosglwyddo'r hyn rwy'n ei glywed dwi'n gwneud."

Fe wnaeth Sarver roi'r tabledi Fenbendazole ac Ivermectin i'r BBC am £100 gyda digon ar gyfer

"dau i dri mis"
. Honnodd bod y cynnyrch yn trin canser yr ysgyfaint a
"chanser eraill hefyd"
, er na allai roi cyngor ar y dos priodol.

Dywedodd fod ei waith yn gwerthu lifftiau grisiau yn golygu ei fod yn gweld

"llawer o bobl sâl"
.

"Alla i ddim helpu fy hun - mae'n rhaid i mi ddweud wrthyn nhw amdano,"

meddai.

Beth yw Ivermectin a Fenbendazole?

Mae Ivermectin yn feddyginiaeth sydd ar gael trwy bresgripsiwn yn unig yn y DU, sy'n golygu mai dim ond person â thrwydded, fel meddyg neu fferyllydd, all ei roi. Dywedodd y corff rheoleiddio, yr MHRA, nad oedd wedi'i drwyddedu ar gyfer trin canser.

Mae Fenbendazole yn gyffur gwrth-barasitig sydd heb ei drwyddedu i'w ddefnyddio gan bobl yn y DU. Gellir ei brynu mewn symiau bach ar gyfer anifeiliaid heb bresgripsiwn, yn ôl y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (Veterinary Medicines Directorate).

Ivermectin a Fenbendazole

Er bod rhai treialon yn bodoli ynghylch ei ddefnydd fel meddyginiaeth gwrth-ganser, dywedodd yr elusen Macmillan bod

"dim tystiolaeth glinigol"
i gefnogi'r honiadau am Ivermectin.

Gwefan AI 'wedi dwyn cannoedd o bunnoedd o'n harian ni'

Nifer o gyfrifon sy'n gwerthu profion gyrru ar-lein yn 'ffug' - hyfforddwr

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol yr elusen, yr Athro Richard Simcock, ei fod yn bryderus bod y BBC wedi gallu prynu'r meddyginiaethau'n hawdd heb bresgripsiwn.

"Rydym yn gweld nifer cynyddol o bobl yn holi am y ddau gynnyrch yma.

Rydym yn poeni nad ydynt yn cael gwybodaeth effeithiol a chywir am yr hyn y gall y cyffuriau ei wneud.

Os oes rhywun yn ystyried cymryd y cyffuriau hyn, rydym yn eu hannog yn gryf i siarad â'u tîm clinigol neu gysylltu â chymorth clinigol Macmillan, er mwyn i ni ddarparu gwybodaeth ar ofal diogel ac effeithiol."

Ychwanegodd bod straeon pobl, yn enwedig os ydyn nhw'n dod gan berson sy'n adnabod rhywun, yn bwydo y math yma o gamwybodaeth.

Mae Cancer Research UK hefyd wedi rhybuddio nad oes tystiolaeth wyddonol i brofi ei fod yn gweithio i bobl, er bod rhywfaint o ddata o brofion ar lygod yn defnyddio Fenbendazole.

Advertisement

Mae Jared yn credu y byddai ei fam, Kelly, dal yn fyw petai hi wedi ymweld ag oncolegydd.

Jared Wright a'i fam
Disgrifiad o’r llun, Mae Jared yn credu y byddai ei fam, Kelly, dal yn fyw petai hi wedi ymweld ag oncolegydd

Dywedodd Jared Wright, o Wisconsin yn yr UDA, bod ei fam Kelly wedi dechrau cymryd Ivermectin a Fenbendazole ar ôl cael diagnosis o ganser yn 2025.

Yn ôl Jared, fe wnaeth ei fam wrthod cyngor meddygol i dderbyn triniaeth canser arferol a chael ei heffeithio gan

"gamwybodaeth am ganser"
wrth roi ei ffydd yn y cyffuriau i'w gwella.

"Roedd y poteli a'r tabledi hyn yn cael eu danfon i'n tŷ ni ac fe wnaeth hi ddechrau cymryd yr Ivermectin a'r Fenbendazole dair gwaith y dydd.

Roedd hi wedi darllen ar-lein bod nhw'n gwella canser."

Dywedodd Jared bod marwolaeth ei fam yn

"un erchyll"
.

Mam Jared
Disgrifiad o’r llun, Dywedodd Jared bod marwolaeth ei fam yn "un erchyll"

Dywedodd Jared fod ei fam wedi marw ym mis Ionawr, ddyddiau ar ôl cael ei phen-blwydd yn 63 oed.

"Roedd y farwolaeth yn un erchyll. Roedd hi'n crynu, doedd hi ddim yn gallu gweld, doedd hi ddim yn gallu siarad mwyach,"

meddai.

"Roedd ganddi 20 mlynedd arall neu fwy o'i bywyd – byddai hi'n fyw nawr pe bai hi wedi cael y wybodaeth gywir, pe bai hi wedi gwrando arna i ac wedi mynd at yr oncolegydd."

Mae gohebydd y BBC wedi gallu prynu'r cyffuriau drwy Amazon.

Amazon
Disgrifiad o’r llun, Mae gohebydd y BBC wedi gallu prynu'r cyffuriau drwy Amazon

Mae'r BBC wedi canfod ei bod hi'n hawdd cael gafael ar y cyffuriau ar-lein. Daethom o hyd i nifer o wefannau oedd yn cynnig anfon y cyffuriau i'r DU, a gwnaethom nifer o archebion llwyddiannus gyda gwefan Amazon.

Mae cyflenwi meddyginiaethau sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig yn drosedd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012, oni bai eich bod â thrwydded, fel meddyg neu fferyllydd.

Dywedodd yr MHRA, lle ceir tystiolaeth bod meddyginiaeth filfeddygol yn cael ei gyflenwi i bobl, neu fod meddyginiaeth sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig yn cael ei werthu gan rywun sydd ddim yn weithiwr iechyd proffesiynol cymwys, y gall gymryd camau gorfodi, gan gynnwys ymchwiliad troseddol ac erlyniad.

Ers 2024, mae'r MHRA wedi ymafael yn 27,500 o ddosau o Fenbendazole a 124,000 o ddosau o Ivermectin, oedd wedi eu bwriadu ar gyfer eu defnyddio gan bobl, gan gydweithio â Llu'r Ffiniau.

'Poeni bod y broblem yn gwaethygu'

Mae Martin Rolles, ymgynghorydd oncoleg sydd â 25 mlynedd o brofiad yng Nghanolfan Ganser de-orllewin Cymru, yn rhybuddio gallai'r cyffuriau ryngweithio â meddyginiaethau canser profedig a gwneud y driniaeth yn fwy gwenwynig neu'n llai effeithiol.

"Mae perygl hefyd y gallai'r cyffuriau eu hunain achosi sgil-effeithiau a gwneud y claf yn sâl, rhywbeth a allai eu hatal rhag cael triniaeth gonfensiynol ar gyfer canser,"

meddai.

"Y rheswm nad yw Ivermectin yn rhan o driniaeth gonfensiynol yw nad oes treialon da ar gyfer pobl... rhai y gellir eu defnyddio i ymladd canser.

Mae 'na yn bendant ddata labordy diddorol ond dyw hynna ddim yr un peth â thystiolaeth glinigol."

Ychwanegodd nad oes

"gennym ni ddigon o data"
ar Fenbendazole fel triniaeth canser
"felly mae'n anniogel"
.

Mae Liz O'Riordan yn gwybod am bobl sydd wedi marw ar ôl credu straeon am allu'r meddyginiaethau i drin canser.

Liz O'Riordan
Disgrifiad o’r llun, Mae Liz O'Riordan yn gwybod am bobl sydd wedi marw ar ôl credu straeon am allu'r meddyginiaethau i drin canser

Mae Liz O'Riordan, sydd wedi goroesi canser dair gwaith ac yn gyn-lawfeddyg, bellach yn defnyddio YouTube i ateb cwestiynau am ganser.

Dywedodd ei bod yn gwybod am bobl sydd wedi marw ar ôl credu straeon personol am bobl yn defnyddio'r feddyginiaeth fel triniaeth canser.

"Straeon personol a thystiolaethau unigolion yw'r mathau cryfaf o dystiolaeth bellach – 'wnaeth fy modryb ar Facebook hyn, felly mae'n rhaid ei fod yn wir',"

meddai.

"Dydych chi ddim yn gwybod am eu cofnodion meddygol - gallent fod yn cael triniaeth arall hefyd.

Rwy'n gweld yr ochr arall. Rwy'n gweld y bobl lle nad yw'n gweithio, lle maen nhw'n mynd yn sâl, a lle maen nhw'n marw.

Rwy'n poeni bod y broblem yn gwaethygu, ac os na fyddwn ni i gyd yn talu sylw ac yn dechrau gwneud rhywbeth, byddwn ni mewn sefyllfa dywyll iawn ymhen ychydig flynyddoedd."

Cysylltodd y BBC â Jason Sarver i holi pam ei fod wedi gwerthu'r cyffuriau, ond fe wnaeth o wrthod ateb.

Undercover: Cancer Cure or Con?

Gwyliwch ar BBC1 am 22:40 ar 5 Awst, ac ar BBC

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

## Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News