Skip to main content
Advertisement

Cost of living makes it harder to recruit and keep volunteers

Grwpiau gwirfoddol bach yng Nghymru yn torri gwasanaethau wrth i’r argyfwng costau byw ei gwneud hi’n anodd denu a chadw gwirfoddolwyr.

·6 min read
Anne Callow yn hwb bwyd ysgol Tonysguboriau

Mae grwpiau gwirfoddol bach ledled Cymru yn torri’n ôl ar wasanaethau neu’n cau’n llwyr wrth i’r argyfwng costau byw barhau i wasgu ar adnoddau ac ar amser pobl. Er bod mwy o bobl yn troi at gymorth gwirfoddol oherwydd y wasgfa ariannol, mae sefydliadau’n dweud bod y straen ar wirfoddolwyr yn ei gwneud hi’n anoddach recriwtio a’u cadw.

Yn ôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), mae gofynion gwaith ac arferion bywyd yn golygu nad oes gan bobl gymaint o amser i’w roi bellach. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn “cydnabod yr heriau” o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr, ac eu bod yn darparu grantiau i gefnogi mudiadau.

Dim digon o waed ifanc

Ers chwe blynedd mae Anne Callow, 71, wedi bod yn rhedeg hwb bwyd yn Beddau, Rhondda Cynon Taf gyda gwirfoddolwyr eraill.

Ond bu’n rhaid iddyn nhw gau yn ddiweddar, yn rhannol oherwydd diffyg arian a diffyg gwirfoddolwyr oedd yn gallu llenwi ceisiadau grant.

“O’n i’n codi bwyd lan [o’r archfarchnad] i ddod â fe... ond ma’ fe’n lot i ofyn i bobl wneud hwnna bob wythnos,” meddai.
“Ac wedyn yn ystod y gwyliau chi’n disgwyl ’mlaen i rywun arall ’neud e, ond chi ddim yn gallu heb ddigon o wirfoddolwyr.”
“Heb i bobl ddod ymlaen a gwirfoddoli, dydyn ni ddim yn gallu neud pethau fel hyn,” meddai Anne Callow

Aeth pethau’n anoddach fyth ar y tîm wedi iddyn nhw golli aelod profiadol oedd yn deall sut i wneud ceisiadau grant, meddai Anne.

Ychwanegodd bod llawer o’r rheiny oedd yn rhoi eu hamser yn hŷn neu wedi ymddeol, ac nad oedd digon o waed ifanc.

“Rydyn ni wedi cael pobl ifanc mewn i helpu ni drwy’r Fagloriaeth Gymreig, ond heb i bobl ddod ymlaen a gwirfoddoli, dydyn ni ddim yn gallu neud pethau fel hyn,” meddai.
“Pan o’n i yn yr ysgol oedd rhaid i ni fynd i wirfoddoli yn y gymuned. Bydden i’n falch i weld hwnna yn digwydd eto.”

Mae Anne yn dal i helpu gyda chyflenwi hybiau bwyd mewn tair ysgol gyfagos – Tonysguboriau, Gwaunmeisgyn a Llwyncrwn – sy’n cael eu defnyddio gan rieni mewn angen.

Yn ôl y pennaeth yn Nhonysguboriau, Tracey Harries, mae’r disgyblion a’u teuluoedd wedi gweld budd mawr o’r fenter honno.

“Mae’r berthynas gyda’r rhieni a’r gymuned wedi cryfhau, ac o ganlyniad i hwnna ni wedi gweld gwelliant ym mhresenoldeb y plant,” meddai.
“Mae’r bartneriaeth gyda phobl fel Anne, y banc bwyd, a’r gymuned yn gyfan gwbl, yn gweithio gyda’i gilydd ac yn bwysig iawn.
“Dyw model fel y bwyd pantri methu gweithio heb y gwirfoddolwyr sy’n gallu helpu ni, a ni’n gwerthfawrogi hynny – ’dyn ni’n gweithio fel tîm.”

Yn ôl Tracey Harries mae hwb bwyd yr ysgol yn adnodd gwerthfawr i rieni sy’n gallu galw mewn yn ddiffwdan i gasglu pethau.

Ond mae Anne yn dweud y bydd yn rhaid iddi roi’r gorau i’r gwasanaeth hwnnw hefyd ar ôl y Nadolig, gyda digon o arian wedi ei adael i’r ysgolion er mwyn iddyn nhw allu parhau am ryw flwyddyn fel mae’n sefyll.

“Ma’ fe wedi ’neud ni’n drist iawn,” meddai. “Roedd wyth o’ ni yn yr hwb, nage dim ond fi.
“Ond mae’n rhaid i ni edrych ar ôl y gwirfoddolwyr hefyd - dydyn nhw ddim yn gallu bod yna eu hunain.”

Anne Callow
Disgrifiad o’r llun, "Heb i bobl ddod ymlaen a gwirfoddoli, dydyn ni ddim yn gallu neud pethau fel hyn," meddai Anne Callow

Gwirfoddoli ar-lein?

Yn ôl arolwg diweddar o 71 grŵp gwirfoddol bychan, mae 45% ohonyn nhw’n cael trafferth denu gwirfoddolwyr newydd, tra bod 30% yn ei chael hi’n anodd cadw’r rhai sydd ganddyn nhw.

Oherwydd hynny, roedd 50% o’r sefydliadau gwirfoddol yn dweud eu bod wedi gorfod torri yn ôl neu roi’r gorau i rai gwasanaethau.

Mae Canolfan Gymunedol y Fan yng Nghaerffili’n cael ei rhedeg yn llwyr gan wirfoddolwyr, gan gynnig gweithgareddau am ddim fel dosbarthiadau drama i bobl ifanc a phrydau bwyd i drigolion lleol.

Advertisement

Mae Gemma, 43, wedi bod yn gwirfoddoli yno ers tair blynedd, ond oherwydd costau byw cynyddol ni fydd hi’n gallu rhoi cymaint o’i hamser i’r ganolfan yn y dyfodol.

Dechreuodd Gemma wirfoddoli ar ôl mynychu cwrs coginio am ddim yn ganolfan gymunedol.

Gemma
Disgrifiad o’r llun, Dechreuodd Gemma wirfoddoli ar ôl mynychu cwrs coginio am ddim yn ganolfan gymunedol

“Fydda i methu rhoi cymaint o oriau ag o’r blaen achos fi nawr angen gweithio fy hunan,” meddai.
“Mae costau byw mor uchel, pethau fel fy nghyfradd morgais a phrisiau bwyd.
“Does gan bobl ddim amser i wirfoddoli achos mae angen iddyn nhw weithio, felly mae’n anodd.”

Os nad oes rhywun yn camu i’r adwy a chymryd cyfrifoldeb dros y ceisiadau grant unwaith mae Gemma yn gadael, gallai hynny olygu mwy fyth o straen ar y gwirfoddolwyr.

“Effaith hynny yw y byddwn ni’n gallu cynnig llai o weithgareddau i’r gymuned... felly nhw fydd ar eu colled,” meddai.

Gyda sefydliadau gwirfoddol hefyd yn wynebu costau uwch, mae’r esgid yn gwasgu arnyn nhw o bob cyfeiriad ar adeg pan mae pobl yn troi atyn nhw fwyaf, yn ôl CGGC.

Mae’n bosib felly bod angen iddyn nhw ailfeddwl y ffordd maen nhw’n gweithredu os am barhau yn y dyfodol.

“Mae’r byd wedi newid ers y pandemig, ac ni’n gweld bod mwy o wirfoddolwyr eisiau mwy o opsiynau gwahanol ar gyfer gwirfoddoli [megis] ar-lein neu microwirfoddoli, fel bod mwy o bobl yn gallu cymryd rhan,” meddai Elen Notley, pennaeth ymgysylltu CGGC.
“Ni hefyd wedi bod yn galw ar y llywodraeth i feddwl am gyllid hir dymor.
“Ni wedi gweld bod y sector gwirfoddol yn ffeindio fe’n heriol iawn i gadw staff a phrosiectau i fynd pan mae cyllid ond yn para rhyw flwyddyn neu ddwy.”

Elen Notley
Disgrifiad o’r llun, Mae Elen Notley o CGGC yn annog y llywodraeth i feddwl yn fwy hirdymor o ran cyllid

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn “cydnabod yr heriau mae rhai sefydliadau’n eu hwynebu o ran recriwtio a chadw gwirfoddolwyr”.

“Dyna pam rydyn ni’n hyrwyddo Dull Cymreig o Wirfoddoli wedi’i gyd-ddylunio, gan gefnogi mudiadau gwirfoddol drwy Gynghorau Gwirfoddol Sirol, CGGC a phorth Gwirfoddoli Cymru.

“Rydym hefyd yn darparu cyllid grant a mentrau cefnogaeth fel Credydau Amser Tempo a’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol er mwyn cryfhau gwasanaethau gwirfoddol a chymunedol ar draws Cymru.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

'Argyfwng gwirfoddolwyr i helpu pobl â'u costau byw'

'Gwirfoddoli mor bwysig ac yn rhoi teimlad cynnes'

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News