Cyflwr plannu coed yng Nghymru a'r heriau sy'n wynebu'r dyfodol
Mae'r Athro Bid Webb o Brifysgol Bangor yn ddarlithydd amaethgoedwigaeth ac yn ffermio yn Llandegfan.
Mae "biwrocratiaeth" yng Nghymru yn gallu golygu bod hi'n "llawer haws" torri coetir na chreu un o'r newydd - dyna rybudd gan elusen gadwraeth Coed Cadw.
Mae ystadegau'n dangos bod nifer y coed sy'n cael eu plannu yn cynyddu ar draws gwledydd datganoledig y DU, ond mae pryderon nad yw hyn yn digwydd yn ddigon cyflym i gyrraedd targedau'r dyfodol.
Yn ôl grŵp dadansoddi The Energy and Climate Intelligence Unit, bydd Cymru ond yn cyrraedd 10% o'i tharged plannu coed erbyn 2030 - ffigwr llawer is na'r hyn sy'n cael ei ragweld ar gyfer gwledydd datganoledig eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb i'r sefyllfa hon.
'Mor bwysig plannu coed'
Mae'r Athro Bid Webb o Brifysgol Bangor yn ddarlithydd amaethgoedwigaeth ac yn ffermio yn ardal Llandegfan ar Ynys Môn.
Mae'n pwysleisio bod plannu digon o goed ar ei dir wedi bod yn fuddiol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.
'Da ni wedi plannu coed dros y blynyddoedd, lot dros y gaeaf diwethaf.'
'Da ni'n ffermio cnau Ffrengig (Walnuts) a hefyd yn cadw defaid.'
"Mae hi mor bwysig plannu coed... mae'n boeth iawn heddiw ac mae newid hinsawdd yma.
Mae'n bwysig gwneud pethau i gynnig resilience i ni yn y dyfodol."
"Yn y dyfodol mi fydd y coed yma'n darparu cysgod i'r anifeiliaid ac ar yr un pryd yn cynhyrchu cnau i ni.
Ond 'da ni angen mwy o goed yn y dinasoedd a'r trefi hefyd... yng Nghymru 'da ni mor araf.
'Da ni'n gorfod trio mwy caled, 'da ni ddim isho coed ymhob man. Rhaid dewis y coed cywir am y rheswm cywir hefyd."
Mae defnyddio coed i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi'i sefydlu fel dull naturiol sy'n gweithio ochr yn ochr â mesurau dynol.
Mae coed yn helpu i amsugno carbon deuocsid ac yn cynnig cysgodfan naturiol i bobl ac anifeiliaid yn yr haul.
Gall coed hefyd helpu i amddiffyn cymunedau rhag llifogydd.
Mae ystadegau ar gyfer 2026 yn dangos bod nifer y coed sy'n cael eu plannu yn cynyddu yn gyffredinol yn y gwledydd datganoledig.
Fodd bynnag, mae grwpiau hinsawdd a natur yn pryderu nad yw'r cynnydd hwn yn ddigon cyflym i ymdopi â'r heriau sy'n codi wrth i'r hinsawdd barhau i newid.

Ffigyrau plannu coed Cymru yn 'hynod siomedig'
Dywedodd Kylie Jones Mattock, Cyfarwyddwr Coed Cadw:
"Mae dwy ran o dair o'r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi plannu mwy o goed ond mae'r ffigyrau plannu ar hyn o bryd yn hynod siomedig.
Fel cenedl 'da ni methu cyflawni'r cyflymder sydd ei angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur."
"Ar ddiwrnod fel heddiw mae anifeiliaid a phobl yn chwilio am gysgod a byddai mwy o orchudd coed yn cynnig llawer o fanteision.
Os 'da ni ddim yn ehangu'r gorchudd coed bydd natur mewn perygl a bydd effeithiau drwg i bobl... maen rhaid i ni wyrddio'r strydoedd.
Mae 'na risg hefyd i'r byd amaeth, mae 90% o dir Cymru yn dir amaethyddol, felly mae angen cefnogaeth ddigonol ar ffermwyr i addasu i'r hinsawdd sy'n newid oherwydd mae hynny'n effeithio ar eu busnesau fferm."
Mae dadansoddiad The Energy and Climate Intelligence Unit yn dangos y bydd gan y DU fwlch plannu coed o dros 4,000 hectar erbyn 2030 - ardal sy'n cyfateb o ran maint i ddinas Portsmouth.
Dywedodd Tom Cantillon, uwch-ddadansoddwr y grŵp, bod eu hymchwil yn awgrymu bod y canlyniadau ledled y DU yn gymysg, gyda'r Alban yn cyflawni ei chyfraddau plannu i raddau helaeth ond y gwledydd eraill ar ei hôl hi - yn enwedig Cymru.
Mae eu dadansoddiad o'r data yn dangos mai ond tua 10% o darged Cyllideb Carbon 2 Llywodraeth Cymru a 27% o darged y Climate Change Committee (CCC) - corff sy'n cynghori gweinidogion - fydd Cymru yn ei gyflawni erbyn 2030.
Mewn Llywodraeth Cymru wedi cael cais i ymateb.

Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Pentref yn plannu miloedd o goed i geisio lleihau effaith llifogydd
- Cymru 'mewn sefyllfa fregus' yn sgil diffyg plannu coed
- Diffyg coed 'yn peri risgau iechyd ac amgylcheddol' i bobl trefi fel Caergybi







