Skip to main content
Advertisement

Heledd Gwynn Answers Key Questions in Ateb y Galw Interview

Heledd Gwynn, actores Anfamol, ateb cwestiynau am atgofion, hoff lefydd, digwyddiadau bywyd a cherddoriaeth yng Nghymru Fyw.

·6 min read
Heledd Gwynn

Ateb y Galw: Heledd Gwynn

Yr actores Heledd Gwynn sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Heledd sy'n chwarae cymeriad Alex yn ail gyfres y ddrama boblogaidd Anfamol sydd ar gael i'w gwylio ar BBC ar hyn o bryd.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Darllenais i rhywbeth mor ddifyr diwrnod o'r blaen: bob tro chi'n cofio rhywbeth, mewn gwirionedd cofio y tro dwetha i chi feddwl amdano ydych chi - nid yr atgof gwreiddiol.

Felly, mae'r atgof yn cael ei ddyfrhau mewn ffordd neu ei fireinio y mwya' chi'n ei gofio.

Arhosodd hwna gyda fi achos dyna dwi'n teimlo am atgofion plentyndod.

I fi, dwi'n cofio llais hyfryd Mam yn darllen straeon i fi cyn gwely. Gwrach y Rhibyn, Cerddi o'r Caribî, a chanu Mae Gen i Long Fach Arian.

'Fi a Mam'
Disgrifiad o’r llun, 'Fi a Mam'

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Mae'n fan dwi wedi bod yn mynd iddo fel merch fach; trwy fy arddegau gyda fy ffrindiau; oedd e'n hafan rhwng swyddi actio yn fy ugeiniau; a nawr mae'n draeth dwi'n ymweld gyda fy mhlant fy hun.

Mae rhywbeth pwerus am fod mor gyfarwydd ag un lle - ti'n teimlo fod e'n dy nabod di yr un fath.

'Fi fel Mam'
Disgrifiad o’r llun, 'Fi fel Mam'

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Empathetig. Perffeithydd. Breuddwydiwr.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Dwi wedi ffeindio dewis un digwyddiad yn rhy anodd - sori!

Ond dwi'n gwenu wrth feddwl 'nôl am y gwaith creadigol dwi wedi gwneud.

Comisiynau celf amrywiol a phob un cynhyrchiad dwi wedi bod yn rhan ohono.

Mae pob sioe theatr neu raglen deledu yn rhyw boced o amser sbesial na chei di fyth ei brofi eto. Ond mae'r ffrindiau'n aros.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Ma' 'na ormod o rhein - dwi'n fagned i bethe embarrassing.

Ond eto, dwi'n lwcus, dwi ddim yn teimlo llawer o gywilydd am bethe yn gyffredinol. Felly, doedd hwn ddim yn erchyll, ond mae'n neud i fi chwerthin...

Ar fy ngwyliau cyntaf gyda fy mhartner Aled, aethon ni i Baris a tretio'n hunen i ymweld â'r Moulin Rouge.

Mae yna risiau lawr i'r ardal cynulleidfa, ac ar dop y grisiau oedd 'na ddyn golygus Ffrengig nath estyn llaw allan i fi.

Dyma fi'n estyn fy llaw allan yn osgeiddig i ddal ei law yntau a chael fy nhywys lawr y grisiau - felsen i yn Nicole Kidman. 'Non Madame. Can I have your ticket please?'.

O'dd Aled yn meddwl odd y peth yn hilariws. Ond chware teg odd y dyn yn hefyd - a nath e dywys fi lawr y grisiau 'ta beth.

Heledd yn chwarae rhan Hedda Gabler yn Y Sherman
Disgrifiad o’r llun, 'Chwarae rhan Hedda Gabler yn Theatr y Sherman'

'Chwarae rhan Hedda Gabler yn Theatr y Sherman'

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

O wrando ar y gofodwyr wnaeth hedfan o amgylch y lleuad yn ddiweddar yn siarad mor athronyddol am y profiad.

Ma' pethe fel'ny yn fy atgoffa pa mor wyrthiol yw hi bod ni yma o gwbl.

Advertisement

Y foment 'nath gael i fi grio oedd pan wnaeth un ohonyn nhw enwi crater disglair ar ôl gwraig un o'i gyd-ofodwyr a buodd farw tra o'n nhw yn hyfforddi am y daith, ac yna wnaethon nhw ddal ei gilydd yn y gofod.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Heb os - gorfeddwl. Mae'n felltith. A pheidio rhoi caeadon 'nôl ar jarie marmalêd.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Dwi'n dwlu ar bob math o gerddoriaeth - Cat Empire, Luhnasa, Chicago (y band nid y sioe gerdd), Georgia Ruth, Billy Joel.

Ond un albwm dwi wir yn dwlu arni yw Norah Jones - Come Away With Me. Ma' hi 'di bod yn y car gen i ers gadael gartre felly mae hi di bod yn ffrind cyson.

'Cefn llwyfan yn yr RSC yn 'neud The Tempest
Disgrifiad o’r llun, 'Cefn llwyfan yn yr RSC yn 'neud The Tempest'

'Cefn llwyfan yn yr RSC yn 'neud The Tempest'

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Fy nhad, jest i gal sgwrs arferol dros baned yn yr ardd.

'Llun o Dad'
Disgrifiad o’r llun, 'Llun o Dad'

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Does dim llawer o bobl yn gweld y bwystfil 'neith godi ei ben os dwi'n colli gêm.

Roedd amser Covid yn llawn nosweithiau pwdlyd ar ôl i fi ddechrau chwarae gwyddbwyll.

Fe gyrhaeddodd e bwynt lle o'n i'n gwrthod siarad gyda unrhywun a gwrthod mynd i gysgu tan i fi ennill gêm. Dwi 'di cael gair da'n hunan ers 'ny.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Priodi yng nghwmni ein plant a phob un o'n teulu a ffrindiau.

Picnic a pharti enfawr i ddilyn - a nofiad porcyn yn y môr wrth i'r haul fachlud.

'Llun teulu ar draeth Aberystwyth'
Disgrifiad o’r llun, 'Llun teulu ar draeth Aberystwyth'

'Llun teulu ar draeth Aberystwyth'

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Unrhyw lun o fy mhlant ar lan y môr.

Dwi'n teimlo fel fi fy hun ar draeth, ac mae gweld nhw yn dywod i gyd ac yn teimlo yr un rhyddid yn dod â hapusrwydd mawr.

Dyma un o fy ffefrynnau - Myfyr ar draeth Horton ar y Gŵyr sef un o hoff draethau ei fam-gu.

'Fy hoff lun o Myfyr ar draeth Horton'
Disgrifiad o’r llun, 'Fy hoff lun o Myfyr ar draeth Horton'

'Fy hoff lun o Myfyr ar draeth Horton'

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy ffrind o ddyddie ysgol, Matilda.

Mae hi'n seicotherapydd dawns ac yn meddwl am y byd mewn ffordd mor eang, dwys, chwilfrydig a charedig.

Bydden i'n mwynhau gweld y byd o'i safbwynt hi am ddiwrnod.

'Fi a fy ffrind Matilda'
Disgrifiad o’r llun, 'Fi a fy ffrind, Matilda'

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Ateb y Galw: Iwan Tomos Kellett

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News