Mae Gwïon Morris Jones yn actor a chanwr o Ynys Môn
Mae Gwïon Morris Jones yn actor a chanwr o Ynys Môn, ond bellach yn byw yn Llundain. Ar hyn o bryd, mae'n ymddangos yn y rhaglenni Dal Y Mellt ar S4C ac Under Salt Marsh ar Sky Atlantic a NowTV.
Er ei fod yn brysur yn saethu ffilm newydd ar hyn o bryd, fe gymrodd saib o'r gwaith i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Mynd i Ysbyty Gwynedd i gael tegan til yn anrheg. Digwydd bod, fe gafodd fy chwaer, Siwan, ei geni'r un diwrnod. Wrth gwrs, anrheg oedd y til gan fy chwaer fach newydd. Yn ddwy a hanner oed, doeddwn i ddim yn cwestiynu ei gallu i fynd i siopa.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Mynydd Parys. Mae gen i gysylltiad teuluol cryf efo Rhosybol. Roedd teulu fy nain yn cadw'r siop yno, mam wedi ei magu yno, a fi a'm chwaer ydi'r drydedd genhedlaeth i fynychu Clwb y Ffermwyr Ifanc yno.
Mae cerdded tirwedd arallfydol y mynydd, yn gwybod bod fy nghyndeidiau wedi bod yn rhan o'r diwydiant copr yna, yn brofiad cyfriniol. Sgwennodd fy mam sioe gerdd am yr hanes, Llwch yn ein Llygaid, a chwaraeais ran John Elias yng nghynhyrchiad Ysgol Syr Thomas Jones. Rhan o gychwyn fy siwrnai fel actor.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Nos Fercher Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Wedi diwrnod prysur, es i weld fy chwaer yn headline-io Llwyfan y Maes efo fy hoff artist, Meinir Gwilym. Ei dilyn hi wedyn i Faes B i'w gweld yn chwarae efo Buddug.
Ar draws hyn i gyd, roedd un pianydd wedi dal fy llygad ers canol p'nawn. Daeth o, yn ei grys streips, i Lwyfan y Maes, ac yna i Faes B lle buon ni'n sgwrsio am oriau. Dydi'r sgwrs honno dal heb ddod i ben oherwydd mae'r pianydd yn y crys streips, Gruff, bellach yn gariad i mi.
Roedd nos Fercher Eisteddfod Wrecsam yn noson gofiadwy i Gwïon.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Clywed fy nghyd-fyfyrwyr yn Central (fy ysgol ddrama) yn canu darn wnes i ei gyfansoddi. Roeddwn i wedi gosod geiriau Shakespeare i wyth llais ac ukelele i gloi ein cynhyrchiad o Nos Ystwyll. Roedd hi'r tro cyntaf i mi glywed fy ngwaith cyfansoddi yn cael ei berfformio.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
'Mond yn ddiweddar iawn dw i wedi sylweddoli bod misdimanars yn dod o'r gair misdemeanours, nid misty manners. Dw i'n siŵr mod i wedi deud misty manners mewn ambell glyweliad yn Llundain.'
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Dw i'n crïo'n aml. Wrth wrando ar Unlikely Lovers o'r sioe gerdd Falsettos yn y car, wrth wylio Lost Boys And Fairies ar y soffa, wrth wylio Hamnet yn y sinema neithiwr... dw i jest yn gradur bach emosiynol!
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Dwi'n dueddol o ddibynnu ar adrenalin funud olaf i orffen unrhyw dasg dydw i ddim isio'i gneud. Stydio sgriptiau, dysgu leins, unrhyw beth efo sbarc creadigol, dw i awê. Ond ffurflen dreth incwm? Dim diolch.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Llyfr Glas Nebo. Mae Manon Steffan Ros mor driw i'w chymeriadau. Eu lleisiau mor glir a didwyll. Mae hi'n ysgrifennu fel actor sydd wedi astudio rôl yn drylwyr. Ges i'r fraint o leisio'r nofel ar gyfer addasiad BBC Radio 4, efo Rhian Blythe. O bob dim dwi 'di neud, dyma un o'r darnau o waith dw i fwyaf balch ohono. 'Sgwn i oes rhywun wedi ystyried gneud ffilm? Dwi ar gael ;)


Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Fy nhaid, Trefor. Fuodd o farw pan o'n i'n chwech oed. Mae pawb yn deud mod i'n debyg iawn iddo, o ran f'ymddygiad, a phryd a gwedd. Roedd o'n ddyn doeth iawn a 'swn i wir yn gwerthfawrogi'r doethineb hwnnw yn oedolyn.
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Yn fy arddegau, roeddwn i, a fy ffrind pennaf Carwyn (sy'n llais ac wyneb cyfarwydd i'r rhai ohonoch sy'n dilyn y newyddion), eisiau bod yn rheolwyr fferm. Doedd gen i ddim profiad amaethyddol ond roeddwn i wrth fy modd yn y Ffermwyr Ifanc, yn barnu buchod, ac roeddwn i'n ysu i fod yn rhan o'r gymuned.
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Cael pryd o fwyd cynhesol hefo Mam, Siwan, a Gruff. Adra.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Fi, fy chwaer, Mam a Nain yn ei gardd gefn, tua 2005. Y tair dynes gref yma, eu cefnogaeth, caredigrwydd, a'u cariad, sydd wedi fy ngwneud i'r hyn ydw i heddiw. Fyddwn i'n ddim heb y tair yma tu ôl i mi ac mae fy niolch a'm parch tuag atynt yn enfawr.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Heb os, cydymaith i'r Doctor o Doctor Who. Dwi'n ffan enfawr o'r gyfres ers yn hogyn bach ac wedi bod yn ddigon ffodus cael bod yn rhan ohoni. Hyd heddiw, dwi'n dal i aros i'r bocs heddlu eiconig gyrraedd Ynys Môn!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







