Enwebiadau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2024
Mae Mari Grug, Gareth yr Orangutan a Chris 'Flamebaster' Roberts wedi cael eu henwebu eleni yn ŵyl sy'n dathlu talent o'r gwledydd a rhanbarthau Celtaidd o fewn y diwydiannau ffilm, teledu, radio a chyfryngau digidol.
Mae'r cyflwynydd Chris 'Flamebaster' Roberts, rhaglen ddogfen am brofiad Mari Grug gyda chanser a chyfres deledu blant Gareth yr Orangutan ymhlith enwebiadau eraill o Gymru sydd ar restr fer yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.
Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol ers ei sefydlu yn Harlech yn 1981, pan oedd chwe chategori yn unig ar gael. Heddiw, mae 26 o wobrau yn cael eu cyflwyno am ragoriaeth mewn cynnwys yn yr ieithoedd Celtaidd, ynghyd â Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Galiseg.
Eleni, mae'r ŵyl yn cael ei chynnal yn Belfast rhwng 2 a 4 Mehefin.
GWAGLE ar y Rhestr Fer yn y Categori Comedi (Sgrin)
Dau unigolyn sydd ar y rhestr fer y categori comedi ar sgrin yw Gwion Ifan a Jac Northfield am eu rhaglen, GWAGLE.
Mae'r ddau yn falch o'r ffaith bod syniad dau ffrind sy'n "licio pethau gwirion" wedi profi llwyddiant mawr. Mae cyfres lawn o GWAGLE ar y gweill yn hwyrach eleni, gan roi cyfleoedd i'r ddau ddatblygu eu crefft ar y gwasanaeth Hansh.
Yn ôl Gwion, mae angen mwy o gomedi ar S4C:
"Mae Jac a fi yn teimlo'n gryf am hynny," eglurodd ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru. "Mae'n bwysig fod comedi yn cael ei greu ac mae Hansh yn profi ei fod yn blatfform sy'n gallu cynnig hynny a magu talent newydd a gadael i bobl gael rhwydd hynt yn greadigol i wneud beth maen nhw eisiau."

Enwebiadau Eraill o Gymru
Ymhlith rhai o'r enwebiadau eraill mae cyfres deledu adloniant Amour a Mynydd, y comedi radio Unig, Bôrd a Horni, cyfres Y Talwrn, a GISDA – Drws i'r digartre, sydd yn y categori Ysbryd yr Ŵyl.

Mae yna hefyd nifer o enwebiadau iaith Saesneg o Gymru, gan gynnwys y rhaglen ddogfen radio Hidden Merthyr, y gyfres ddrama deledu boblogaidd The Guest, a'r cyflwynydd Kiri Pritchard-McLean.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok i gael y newyddion diweddaraf. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
Hefyd o Ddiddordeb
- Mari Grug: 'Fi jyst eisiau byw mor hir â phosib'
- Ble mae lleoliadau cyfres The Guest?







