Mae gan sianel Eiddon, lle mae'n siarad am ei gasgliad o ffilmiau, ddilynwyr ledled y byd
Mae Eiddon James yn caru ffilmiau. Wir yn caru ffilmiau.
Ac o 'stafell yng Nghricieth sy'n dal rhyw 3,000 o DVDs a disgiau Blu-ray, mae'n siarad am ei gasgliad a'i hoff ffilmiau ar sianel ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi ennill ffans o Gricieth i Groeg.
Felly, ers pryd ddechreuodd ei gariad at y sgrin fawr?
"Rhyw wyth neu naw oed, dwi'n cofio gweld y ffilm Predator, a obviously do'n i'm fod i wylio fo," eglurodd. "O'dd o'n grêt – action a sci-fi 'de. Ac ers hynny o'n i'n hooked a dwi'm 'di stopio.
"Ti'n gallu colli dy hun mewn ffilm. Ti'n gallu dychmygu bod yn y ffilm a mae o'n g'neud i mi deimlo'n dda tu fewn, fel bo' ti'n blentyn eto. Mae ffilms i mi'n sbesial – 'sna'm byd gwell 'na gwylio ffilm."
'Mae 'na lot dwi dal angen'
Y dyddiau yma, ffrydio ffilmiau dros y we mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud, felly mae'n siŵr fod Eiddon yn anarferol yn y ffaith ei fod yn hoffi dal ffilm yn ei law.
Mae wrth ei fodd yn casglu fersiynau arbennig o ffilmiau sy'n dod gyda chynnwys unigryw, ac mae bellach ganddo tua 3,000 ffilm yn ei gasgliad... a dydy o heb stopio eto:
"Dwi 'di bod yn casglu ffilms rŵan ers ryw bum mlynedd," eglurai. "Be' dwi'n licio mwya' ydy cofio pan o'n i'n ifanc, cerdded mewn i'r siop, a gweld y bocsus a'r cloriau.
"Dwi'n hel i gael y pethau sbesial efo nhw – yr extras, behind the scenes... dwi wrth fy modd efo gweld sut gafodd y ffilm ei wneud.
Mae gan Eiddon fersiwn o The Exorcist a ddaeth mewn bocs sy'n edrych fel beibl...
"Weithiau ti'n cael posteri sbesial efo lluniau gwahanol ti erioed 'di weld o'r blaen ar y cefn; fersiwn sy' 'di bod mewn gwlad arall, efo iaith wahanol 'di 'sgwennu drosto. Mae hynna reit cŵl 'de.
"Neu luniau sydd wedi eu llofnodi. Maen nhw'n costio mwy ond weithiau dydyn nhw mond wedi g'neud rhyw 2,000 ohonyn nhw dros y byd, so mae rheina reit collectable.
"Dwi dal yn hel – mae 'na dal lot dwi dal angen. Mae'n farathon, dim sprint...!"
Ffans ledled y byd
Nid gwneud arian drwy werthu ei gasgliad un dydd ydy'r bwriad i Eiddon; mae'n ei wneud oherwydd ei gariad tuag at y cyfrwng.
A'i gariad at ffilmiau a'i arweiniodd i ddechrau sianel ar YouTube ychydig dros flwyddyn yn ôl lle mae'n siarad am ei hoff ffilmiau ac yn trafod ei gasgliad helaeth.
Mae Eiddon wrth ei fodd yn hel yr 'extras' sy'n dod gyda rhai fersiynau o ffilmiau

Drwy'r sianel, mae wedi gwneud ffrindiau ledled y byd sydd i gyd yn rhannu'r un angerdd, meddai.
"I gychwyn, laff oedd o, ond mae o 'di take off braidd. Dwi wrth fy modd yn ei 'neud o; dwi'n licia dangos i bobl be' 'sgen i, a dwi'n gweld be' sy' gan bobl eraill. Dwi 'di g'neud dipyn o ffrindiau.
"Gen i ddipyn o bobl rŵan yn dilyn fi yn lleol, ac mae pawb yn gefnogol. Mae gen i ddilynwyr yng Nghricieth, Bangor, Llandudno. A dramor - America, Philippines, Yr Almaen, Mecsico, Indonesia, Gwlad Pwyl, Ffrainc...
"Es i i Groeg a fel o'n i'n checio fewn i'r gwesty oedd y ddynes yn stario arna fi lot. A 'nath hi ddangos ei ffôn a dweud 'this is you!', a blydi hel, sianel fi oedd ar y ffôn, ac o'dd hi 'di bod yn dilyn fi ers dipyn o amser!"
AI yn lladd ffilmiau?
Mae Eiddon yn gwylio'r rhan fwyaf o fathau gwahanol o ffilmiau – er efallai ddim yn rhy hoff o sioeau cerdd, meddai – ond ei hoff rai ydy ffilmiau o'r 1980au ac 1990au, yn enwedig y rhai gydag eiconau fel Jean-Claude Van Damme ac Arnold Schwarzenegger.
Ac er ei fod yn gwylio ffilmiau modern, mae'n teimlo fod y defnydd cynyddol o dechnoleg yn cael effaith negyddol ar y diwydiant ffilmiau.
"Ffilmiau 80s a 90s – hwnna o'dd y golden era – dydyn nhw ddim yn g'neud ffilmiau fel yna ddim mwy.
"Mae 'na ormod o CGI ac AI y dyddiau yma; dwi'n licia animatronics. Mae o'n costio llai rŵan, siŵr mai dyna pam bod nhw'n defnydio CGI, ond back in the day, o'dd yr actorion yn g'neud eu stynts eu hunain, ac o'dda ti'n gweld sut oedd pethau'n gweithio efo animatronics.
"Maen nhw'n sôn fod AI am gymryd drosodd o'r actorion yn y diwedd. Mae o am gymryd jobs pobl...
"Ella mai hen fash dwi, dwi'n licia pethau old school."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







