Daniel Barrett: Cymro o Seland Newydd yn Ennill Dau Oscar
Wyddoch chi fod un o enillwyr seremoni'r Oscars nos Sul yn Gymro?
Roedd Daniel Barrett yn un o'r tîm a enillodd Oscar am yr Effeithiau Gweledol Gorau yn y ffilm Avatar: Fire and Ash.
Er ei fod wedi byw yn Seland Newydd ers degawdau, cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac mae'n dal i gadw cysylltiad cryf â'i Gymreictod, meddai wrth BBC Cymru Fyw.
"Ry'n ni'n lwcus iawn i gael bar yn Wellington o'r enw Welsh Dragon. Mae'n sefyll ar ynys yng nghanol ffordd mewn adeilad sy'n hen floc toiled (mae'n well na mae'n swnio!).
"Mae cael cwrw yna yn gwneud i mi deimlo cysylltiad gyda Chymru."

Cafodd Daniel ei eni yn ardal Rhiwbeina yn y brifddinas, i Richard a Jan Barrett; Richard yn wreiddiol o ardal Login yn Sir Gâr a Jan o Gas-gwent.
Yn ddiweddarach, aeth Richard a Jan gyda'u dau fab, Sam a Daniel, i Christchurch, Seland Newydd am bum mlynedd, tua diwedd y 1970au, pan oedd Dan, y mab ieuengaf, yn ddwy oed.
Mae'r teulu wedi aros yno bron i hanner canrif ers hynny.
Dianne Hughes, ffrind i'r teulu ers eu cyfnod yng Nghaerdydd, a fu'n cadw mewn cysylltiad â Jan, eglurodd:
"Roedd mam Richard yn byw yn Aberteifi, a rhieni Jan yng Nghas-gwent, felly oedden nhw'n dod draw eitha aml, a 'dyn ni wedi cadw cysylltiad â'r teulu. Mae Dan wedi sefyll 'da fi sawl gwaith.
"Hales i e-bost yn syth at Jan pan weles i fod e wedi ennill!"

Dyma'r ail Oscar i Dan a'i gydweithwyr Joe Letteri, Richard Baneham ac Eric Saindon. Enillodd y pedwarawd yr un wobr yn 2023 hefyd, am eu gwaith ar Avatar: The Way of Water.
Mae Daniel wedi cael tri enwebiad Oscar dros y blynyddoedd am ei waith ar ffilmiau'r gyfres Planet of the Apes, ac mae wedi gweithio ar ffilmiau fel The Hunger Games: Catching Fire a Man of Steel.

Yn ogystal â'r ddau Oscar, mae'r criw hefyd wedi ennill dwy wobr BAFTA yn 2023 a 2026.
Yn anffodus, ni gafodd Dan y cyfle i ymweld â Chymru pan oedd yn Llundain ar gyfer seremoni'r BAFTAs ym mis Chwefror, meddai.
"Y tro diwetha' o'n i yno oedd yn 2010, yn ymweld â theulu yng Nghaerdydd, Caerfyrddin, Cas-gwent ac Aberteifi."
Gan nad yw'n gallu ymweld â Chymru mor aml yn y dyddiau hyn, dyma beth mae'n hiraethu amdano:
"Brains SA a phice-ar-y-maen! Mae gen i atgofion melys iawn o fwyta pice-ar-y-maen Anti Megan draw yn Login. Doedd hi ddim yn hoffi cael bwyd dros ben felly roedden ni'n bwyta lot!
"Rhaid i mi gyfadde' fod fy atgofion o yfed Brains SA ychydig mwy cymylog, ond dwi'n gwybod mod i wedi cael llawer o hwyl!"

Ynghyd â hynny, dywedodd Dan mai cefnogi Cymru yw ei brif ddiddordeb rygbi:
"Dwi dal yn cefnogi Cymru yn y rygbi! Ac roedd fy nghyfnither, Caryl James, yn arfer chwarae dros Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
- O Bowys i'r Brutalist - y Cymro tu ôl i'r camera yn Hollywood
- Lle oeddwn i: Huw Garmon, Hedd Wyn a'r Oscars
- Cneifiwr o Gymru ar y brig yn Seland Newydd am y tro cyntaf mewn degawd







