Strategaeth Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer y pum mlynedd nesaf
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn y broses o lunio strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Yn ystod mis Mehefin, cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru i drafod dyfodol y Brifwyl.
Nos Fawrth, cynhelir y cyfarfod cyntaf yn Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, dan arweiniad y darlledwr Betsan Powys.
Llywydd newydd a gweledigaeth ar gyfer yr Eisteddfod
Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd, Sir Benfro fydd prifwyl gyntaf Nic Parry fel Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod.
Yn ystod y cyfarfodydd yn ystod mis Mehefin, bydd Nic Parry yn rhannu ei weledigaeth, gan drafod ei waith, ei flaenoriaethau a'i uchelgais ar gyfer yr Eisteddfod dros y blynyddoedd nesaf.
Cafodd Nic Parry ei benodi yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod yn 2025.

Cyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau
Bydd cyfle i'r cyhoedd ofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfodydd.
"Yn gam neu'n gymwys mae 'na deimlad efallai fod lleisiau rhai eisteddfodwyr ddim yn cael eu clywed - felly dyma gyfle i'r bedair cornel gael dweud eu dweud," meddai Nic Parry.
"Mae'n gyfle hefyd i ni gael syniadau ar sut i barhau i gael noddwyr i'r Eisteddfod gan ei bod yn gyfnod ariannol heriol."
Ystyriaethau am leoliadau parhaol
Wrth gael ei holi os byddai'r Eisteddfod yn elwa o fynd i ddau neu dri o leoliadau parhaol, dywedodd Nic Parry:
"Mae cwynion yn codi bob blwyddyn am ardaloedd lleol ddim yn elwa, ond ar ddiwedd yr Eisteddfod yr adborth sy'n dod nôl ydy fod ymweliad yr Eisteddfod wedi bod werth o.
"Cymerwch Wrecsam neu Bontypridd - mae'r ddwy ardal yn dweud bod yr ymweliadau wedi bod yn arbennig yn lleol."

Cyfarfodydd ledled Cymru
Ar ôl y cyfarfod yng Nghaerdydd, bydd cyfle i drigolion Abertawe, Bethesda a Rhuthun glywed am y weledigaeth a holi cwestiynau.
Ar ddydd Sadwrn olaf y Brifwyl, bydd cyfle pellach i gymryd rhan yn yr Eisteddfod yn Llantwd.
Gwrando ar bobl Cymru
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Nic Parry, Llywydd y Llys, mai'r bwriad yw gwrando ar bobl Cymru.
"A'r ffordd orau i wneud hynny [gwrando ar y bobl] ydy i fynd allan atyn nhw fel ymddiriedolwyr i glywed, rhannu a gwrando."
Er ei fod yn cydnabod ei fod yn "disgwyl clywed yr un themâu," dywedodd ei fod yn awyddus i "glywed rhywbeth newydd neu syniad newydd."
Dywedodd nad oes "newidiadau dramtig ar y gweill" gan yr Eisteddfod, ond bod hwn yn gyfle i helpu'r Eisteddfod i lunio ei strategaeth am y pum mlynedd nesaf.
Cystadlu yn y Brifwyl
Wrth sôn am y cystadlu yn yr Eisteddfod eleni, dywedodd fod dros 70 o gorau a mwy na 1,200 o unigolion yn cystadlu.
"Ma' rhaid i ni sicrhau mai cystadlu ydi craidd yr eisteddfod, dyna fuodd o erioed," meddai.
Etholiad Nic Parry i rôl Llywydd y Llys
Cafodd Nic Parry, sy'n gyn-farnwr, ei benodi yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod yn 2025 ar ôl proses recriwtio agored.
Yn syth wedi ei benodiad, dywedodd Mr Parry y byddai'n brwydro yn erbyn unrhyw awgrym o lacio'r rheol Gymraeg.
Mae hefyd wedi addo sicrhau tryloywder ym mhenderfyniadau'r Llys a'r Bwrdd Rheoli.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







