Skip to main content
Advertisement

Canfod Breichled Aur Hynafol Posib Ger Llanuwchllyn

Mae dyn wedi canfod breichled aur hynafol bosibl o'r Oes Efydd ger Llanuwchllyn wrth ddefnyddio synhwyrydd metel. Mae'r darganfyddiad yn cael ei ystyried yn un 'unwaith mewn oes'.

·5 min read
Y freichled mewn llaw

Canfod Breichled Aur Hynafol Ger Llanuwchllyn

Mae dyn wedi rhannu ei brofiad o ganfod breichled y mae'n credu y gallai fod o'r Oes Efydd, tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl, ger Llanuwchllyn, wrth ddefnyddio synhwyrydd metel.

Ei farn yw y gallai'r breichled fod yn aur go pur, yn ôl Geraint Edwards, y ffermwr lle cafodd y darganfyddiad ei wneud.

Idris Thomas wnaeth y canfyddiad wrth sganio ar dir Geraint Edwards yn ardal Llanuwchllyn.

"O'n i'n hollol shocked, over the moon a ma'n anodd disgrifio'r teimlad," meddai Idris wrth Cymru Fyw.

Yn ôl Geraint Edwards, roedd y canfyddiad ar ei dir yn "deimlad reit unigryw" ac mae'n edrych ymlaen at gael atebion o ran hanfod y breichled.

Cafodd y freichled aur ei chanfod ar dir Geraint yn ardal Llanuwchllyn, wrth i Idris yn sganio am fetel.

Geraint ac Idris
Disgrifiad o’r llun, Cafodd y freichled aur ei chanfod ar dir Geraint yn ardal Llanuwchllyn, wrth i Idris yn sganio am fetel

Dywedodd Geraint fod y freichled yn edrych yn arbennig ac mai'r gred ar hyn o bryd yw y gallai hi fod "tua 3,000 o flynyddoedd oed ac yn cael ei gwisgo gan rywun oedd reit uchel i fyny yn y gymuned".

"Wrach bod cymunedau yn trafeilio o gwmpas adeg hynny, dwi'm yn gwbo' llawer mwy na' hynny ar y funud, ond mae o'n edrych yn aur go bur.
"Does 'ne ddim stamp na' dim byd arni hi, ond wrach bo' nhw'm 'di dechre stampio adeg yne."

Mae Geraint Edwards yn edrych ymlaen at weld o le ddaeth yr aur.

Geraint Edwards
Disgrifiad o’r llun, Mae Geraint Edwards yn edrych ymlaen at weld o le ddaeth yr aur
"O'dd o'n deimlad reit unigryw. De' ni 'di ffeindio trysor yn dyden. Ma' 'ne rei bobl sy' byth yn cael y cyfle i ffeindio ffasiwn beth ar eu tir.
"Felly o'dd o'n dipyn o deimlad," meddai, gan ddweud y bydd y freichled yn mynd i ffwrdd i gael ei dadansoddi.
"Fydda i'n teimlo fel 'mod i'n colli rhan ohona' i pan fydd hi'n mynd - dwi 'di mynd yn attached iddi!" meddai Geraint.

Wrth holi tybed a oes cysylltiad gyda Thref Eurych - anheddiad hynafol ym Mheniel ger Llanuwchllyn - roedd Geraint yn ansicr o ran yr ateb.

"Does wybod o le ma' hi 'di dod. Ma' Tref Eurych yn golygu gofaint aur - 'eur' am aur - dwi'n meddwl mai dyne ydy'r ystyr."

Esboniodd nad ydy Carndochan yn bell chwaith - craig lle'r oedd aur yn cael ei gloddio amdano ym Mhenantlliw.

Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at weld o le ddaeth yr aur: "'Se fo'n gallu dod yn lleol, neu o Awstralia! Does wybod."

"Ma' siŵr bo' rhei pobl wedi bod wrthi ers 10 mlynedd a heb ffeindio dim byd fel hyn," medd Idris Thomas.
Idris Thomas
Disgrifiad o’r llun, "Ma' siŵr bo' rhei pobl wedi bod wrthi ers 10 mlynedd a heb ffeindio dim byd fel hyn," medd Idris Thomas

Y Darganfyddiad a'r Profiad

Dywedodd Idris Thomas, a wnaeth y canfyddiad: "O'n i just yn mynd allan am y diwrnod ac 'nath y seiren fynd off ar ôl ryw 20 munud."

Disgrifiodd y darganfyddiad fel un "unwaith mewn oes".

Ad (425x293)
"O'n i'n meddwl mai darn arall o tin foil oedd o i ddechre, a 'nes i just gweld fflach o aur a tyllu mwy o'i gwmpas o.
"O'n i'n hollol shocked, over the moon a ma'n anodd disgrifio'r teimlad.
"Yr unig beth dwi 'di ffeindio o' blaen ydy silver coin - o'n i byth yn disgwyl ffeindio wbeth fel 'ma - o'n i'n crynu."

Eglurodd Idris ei fod wedi bod yn sganio gyda synhwyrydd metel ers dwy flynedd bellach, a bod ei ddiddordeb wedi dechrau ar ôl gweld pobl yn gwneud ar y teledu.

Ychwanegodd Idris, o ran y camau nesaf, bod y freichled am fynd i ffwrdd i gael ei dadansoddi, i recordio'r darganfyddiad.

Aros i glywed fyddan nhw wedyn, gyda Geraint yn dweud: "Wrach na welwn ni hi fyth eto!"

Idris yn sganio
Idris yn tyrchu

Cyngor i'r Cyhoedd a Gwybodaeth Ddeddfwriaethol

Dylai aelodau o'r cyhoedd sy'n darganfod trysor posib gysylltu gyda Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau rhanbarthol i gael cymorth i adrodd am drysor ac am gyngor pellach.

Arbenigwyr archeolegol ydy'r swyddogion, sy'n gweithio gyda'r Cynllun Hynafiaethau Cludadwy - sy'n cael ei redeg gan yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Cymru.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid adrodd darganfyddiadau o drysor posibl i'r crwner yn yr ardal y cafon nhw eu darganfod - o fewn pythefnos.

Mae unrhyw wrthrychau hynafol sy'n cael eu darganfod, ac wedi'u gwneud o fetel gwerthfawr, metelau eraill neu glai, yn eiddo i'r Goron.

Yn yr achos hwnnw mae'n rhaid adrodd y darganfyddiad. Os nad yw person yn siŵr am eitem, mae modd cysylltu gyda Swyddogion Cyswllt Darganfyddiadau am gyngor.

Mae pwyllgor yn cael ei gynnal i benderfynu os oes angen cadw trysor yn ddiogel neu ei roi yn ôl i'r canfyddwr.

Mae BBC Cymru wedi cysylltu gyda'r Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau am sylw.

Breichled

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig

  • Canfod trysor prin ar dir fferm yng Ngheredigion
  • Cyrraedd targed i brynu trysor Oes Efydd Llangeitho
  • Ffermwr yn canfod 'eryr prin' yn ardal Llanuwchllyn

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News