Skip to main content
Advertisement

Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Jonathan Davies

Jonathan Davies, o Lwchwr ger Abertawe, yw un o bedwar yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2026 ar ôl dechrau dysgu Cymraeg yn Llundain i ailgysylltu â’i wreiddiau.

·3 min read
Jonathan Davies

Mae Jonathan Davies yn un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tra'n byw yn Llundain er mwyn “ail-gysylltu â'i wreiddiau”, ac mae Cymru Fyw yn cwrdd â'r ymgeiswyr yr wythnos hon.

Yn wreiddiol o Lwchwr ger Abertawe, mae Jonathan ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg. Dyma'r eildro iddo gael ei enwebu am wobr Dysgwr y Flwyddyn, a dywedodd bod cyrraedd y rownd derfynol eleni yn 'boncyrs'.

Pam dechreuodd Jonathan ddysgu Cymraeg?

Ar ddechrau 2020 roedd Jonathan yn fyfyriwr yn Llundain yn astudio cerddoriaeth, pan benderfynodd bod yn rhaid iddo ddechrau dysgu Cymraeg. Roedd yn teimlo nad oedd yn cysylltu'n llawn â'i wreiddiau, ac roedd rhai pobl yn ei gylch eisoes yn siarad yr iaith.

"O'n i jest yn teimlo fel o'n i ddim yn really cysylltu â fy ngwreiddiau efallai.
"Odd cyn-gariad fi a fy ffrind gorau ar y pryd, o'n nhw'n gallu siarad Cymraeg.
"So, weithiau o'n i'n mynd mas, o'n nhw'n dechrau sgwrsio am bobl eraill, a wedyn o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.
"So ie, nes i penderfynu bod rhaid dechrau dysgu."

Roedd ei deulu ar ochr ei dad yn siarad Cymraeg ddegawdau yn ôl, ond yn y 1960au penderfynwyd peidio â throsglwyddo'r iaith ymlaen i'w dad.

Sut mae ei waith ymchwil yn cysylltu â'i Gymraeg?

Mae Jonathan bellach yn cael ei gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, gan gyfweld â nifer o athrawon a phlant, ac arsylwi dosbarthiadau yng Nghaerdydd ac Abertawe. Mae hefyd wedi cynhyrchu podlediad ymchwil Cymraeg, podlediad i ddysgwyr, a chyda'i grŵp ysgrifennu fe sefydlodd wefan Daliwch Ati, dolen allanol i ddysgwyr.

Jonathan Davies
Disgrifiad o’r llun, Mae Jonathan Davies yn astudio ar gyfer doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ymchwilio i addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg

Beth mae ei diwtor yn ei ddweud amdano?

Yn ôl ei diwtor Rhiannon Britton, gall nifer ddysgu o hyder Jonathan wrth fynd allan i ddefnyddio'i Gymraeg o ddydd i ddydd. Dywedodd ei diwtor, Rhiannon Britton ei bod wedi synnu pa mor dda oedd Cymraeg Jonathan pan ymunodd â'r dosbarth uwch ar ôl dim ond dwy flynedd o ddysgu.

Advertisement
"Roedd e'n gallu siarad yn hollol rhugl, yn hollol naturiol," meddai.

Gallai llawer ddysgu o hyder Jonathan yn ôl Rhiannon.

"Mae hynny yn rhywbeth 'se lot o ddysgwyr yn gallu cymryd o Jonathan - i fod yn hyderus, cerwch mas a defnyddio'r iaith sydd gyda chi, a dyna pam bod John wedi gwneud cymaint o gynnydd achos o'dd e'n barod i fynd mas a defnyddio'r iaith oedd gyda fe a gwella bob dydd a dweud y gwir."
Rhiannon Britton
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl ei diwtor Rhiannon Britton, gall nifer ddysgu o hyder Jonathan wrth fynd allan i ddefnyddio'i Gymraeg o ddydd i ddydd

Sut mae Jonathan yn disgrifio ei gynnydd?

Yn ôl Jonathan roedd y '"darnau yn disgyn i'w lle" wrth iddo ddysgu Cymraeg, gan ei fod yn gyfarwydd â llawer o bethau o'i ddyddiau yn yr ysgol, ac yn gallu rhoi'r rheiny mewn trefn. Roedd hyn yn helpu iddo weld cynnydd yn gyflym, ac fe roddodd hynny gymhelliant iddo barhau.

"Achos ei fod yn digwydd yn gyflym, o'n i'n gallu gweld y cynnydd, ac roedd hwnna'n rhoi cymhelliant i fi hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon Perthnasol

'Mae dysgu Cymraeg yn agor drysau' - Dysgwr y Flwyddyn

Lucy Cowley yn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News