Skip to main content
Advertisement

Anrhydeddu Prif Lenor Rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol

Bryn Jones oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Wrecsam yn 2025, wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol baratoi i anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith ddydd Mercher.

·2 min read
Medal Ryddiaith

Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mercher. Bryn Jones oedd enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn 2025.

Am beth mae'r fedal eleni?

Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Mur' neu 'Muriau'. Mae'r fedal eleni a £750 yn rhoddedig gan John a Bethan Cwmbetws.

Y beirniaid eleni yw Meleri Wyn James, Iwan Rhys ac Angharad Price. Mae'r fedal a £750 yn rhoddedig gan John a Bethan Davies, Cwmbetws - John Davies yw cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Sut bydd y seremoni'n wahanol?

Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i'r seremoni yn cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.

Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw ac wedi'i chyfieithu i sawl iaith

Blue Book

Disgrifiad o’r llun, Mae Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw ac wedi'i chyfieithu i sawl iaith
" alt="Disgrifiad o’r llun, Mae Llyfr Glas Nebo, enillydd y gystadleuaeth hon yn 2018, wedi ennyn cryn sylw ac wedi'i chyfieithu i sawl iaith" />

Advertisement

Beth yw hanes y wobr?

Cafodd y fedal hon ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 1937 - a hynny i J O Williams am ei gyfrol 'Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill'. Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.

Mae nifer o gyfrolau'r gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw - yn 2023 fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News