Skip to main content
Advertisement

Ateb y Galw: Jac Larner, Arbenigwr Polau Piniwn yng Nghymru

Dr Jac Larner, arbenigwr polau piniwn yng Nghymru, yn rhannu atgofion, hoff leoedd, digwyddiadau personol a diddordebau mewn cyfweliad manwl.

·4 min read
Jac Larner

Ateb y Galw: Jac Larner

Gan fod eleni'n flwyddyn etholiadol bwysig yng Nghymru, mae'r cyhoedd wedi bod yn cadw llygad barcud ar y polau piniwn dros y misoedd diwethaf.

Felly, mae'n amserol bod un o'r prif arbenigwyr ar bolau piniwn yng Nghymru, Dr Jac Larner, yn ateb y galw.

Mae Jac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae'n dysgu Ymddygiad Gwleidyddol a Dulliau Ymchwil.

Daw Jac o ardal Caerffili yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw gyda'i deulu ifanc yng Nghaerdydd.

Ad (425x293)
jac larner

Beth yw eich atgof cyntaf?

Fy mrawd yn cael ei eni ychydig cyn i mi droi'n dair. Cafodd ei eni adref felly dwi'n cofio nifer o fydwragedd yn dod i'r tŷ.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Porth Stinan yn Sir Benfro. Mae gen i lot o atgofion o fynd yno efo fy rhieni pan o'n i'n iau, a nawr rwy'n mynd yno fy hun efo fy nheulu bach i.
Jac Larner
Disgrifiad o’r llun, Mab Jac yn mwynhau golygfeydd Sir Benfro

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

O'n i mewn parti mewn tŷ pan o'n i yn yr Unol Daleithiau a 'naeth y dancefloor golapsio, ac aeth rywun drwodd i'r seler. Roedd hynny'n dipyn o hwyl (a doedd y person ddim wedi ei anafu!)

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Trip ar gwch ar Môr y Canoldir ar stag night fy ffrind – llawn digwyddiadau.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

'Nes i wneud llanast llwyr o ganu ar lwyfan mewn Eisteddfod pan o'n i'n 10 oed a mae o dal yn gwneud i mi crinjio!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Drwy'r amser ers i mi gael plant. Dwi'n meddwl y mwyaf diweddar oedd pan oedden ni'n edrych ar bennod Sleepytime Blŵi.
Jac Larner
Disgrifiad o’r llun, Buodd Jac yn astudio ym Mhrifysgol Michigan am gyfnod

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi heb gael ewinedd call ar fy nwylo ers o'n i tua saith oed.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr yw Lord of the Rings, a 'nes i dreulio oriau di-ddiwedd yn obsesiynu drosto pan o'n i'n iau, a dwi dal yn dychwelyd ato hyd heddiw. O ran ffilm rwy'n meddwl 20th Century Women. Rwy'n caru'r cyfuniad o'r gerddoriaeth, y montages, a'r ffordd mae'n dal y teimlad o foment yn pasia mewn amser. Mae'n hoff albwm yn newid dipyn, ond y fwya' sentimental fydde All Things Must Pass gan George Harrison. Mae'n albwm rhamantus iawn, a 'nes i gael e fel anrheg gan fy mhartner.
llenor a cherddor
Disgrifiad o’r llun, Awdur a cherddor sy'n agos at galon Jac; J.R.R. Tolkein a George Harrison

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Mae'n debyg un o'r gwyddonwyr gwleidyddol sylfaenol o'r 1960 (nerdy iawn, dwi'n gwybod) fel Philip Converse yn Michigan. Roedd academyddion o'r cyfnod yna'n fwy rounded ac yn cael ysbrydoliaeth o bobman. Mae'r dealltwriaeth oedd ganddyn nhw o ran beth sy'n gyrru ymddygiadau ac agweddau yn hynod bwysig i mi yn fy mywyd bob dydd, ac mi fyswn i'n caru gwybod beth fydden nhw'n feddwl o sut mae pethau heddiw.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i datŵ, sy'n silwét o rhinoseros, ar fy nghoes.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Treulio'r dydd efo fy nheulu a bwyta mynydd o chips.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Mae gen i un o fy rhieni a fy mhartner, Rachel, tu fewn i Lyfrgell Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Michigan. Roedd fy nghyfnod yn Michigan yn allweddol i mi, ond roedd rhannu fe gyda nhw yn ei wneud e'n hyd yn oed fwy arbennig.
Jac Larner
Disgrifiad o’r llun, Jac gyda'i bartner, Rachel

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Basydd y Manic Street Preachers Nicky Wire o'r Coed-duon, un o arwyr Jac
Nicky Wire
Disgrifiad o’r llun, Basydd y Manic Street Preachers Nicky Wire o'r Coed-duon, un o arwyr Jac

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb:

Ateb y Galw: Megan Elenid Davies

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News