Skip to main content
Ad (425x293)

Cyfrif banc Melin Llynon yn wag ar unwaith ar ôl twyll ffôn

Richard Holt, perchennog Melin Llynon, colli holl arian ei gwmni mewn eiliadau ar ôl twyll ffôn. Ar ôl rhannu cod un-amser, diflannodd y pres o'i gyfrif banc. Mae wedi derbyn yr arian yn ôl tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

·3 min read
Richard Holt

Daeth Richard Holt yn gyfrifol am Felin Llynon yn 2019

Mae dyn busnes llwyddiannus o Ynys Môn wedi colli holl arian ei gwmni mewn mater o eiliadau yn dilyn twyll.

Cafodd Richard Holt - perchennog Melin Llynon ar Ynys Môn, a'r cwmni melysion o'r un enw - alwad ffôn yr wythnos hon gan "bobl oedd yn dweud mai banc fi oedden nhw i wneud fraud check".

Ond ar ôl iddo ateb ambell gwestiwn ar y ffôn, fe sylwodd fod yr holl arian yn ei gyfrif wedi diflannu.

Yn dilyn y digwyddiad ddydd Mercher, dywedodd fod ymateb ei gwsmeriaid wedi bod yn "anhygoel", a'u bod wedi "cael un o'r diwrnodau prysuraf erioed yn y felin heddiw [dydd Iau]."

Mae bellach wedi derbyn yr arian yn ôl tra bod ei fanc yn cynnal ymchwiliad.

'Eiliad yna aeth y pres i gyd allan'

Yn siarad â Cymru Fyw, dywedodd Richard Holt fod y bobl ar y ffôn wedi "enwi transactions ro'n i wir wedi gwneud y diwrnod yna, so oedd gynno' nhw wybodaeth am account fi, ac wedyn 'naeth nhw ofyn am un o'n i definitely heb wneud... cyn dweud eu bod yn gallu helpu".

Dywedodd iddo rannu "one time code" a ddaeth i'w ffôn drwy rif ei fanc, a dyna oedd "y camgymeriad", meddai.

"Nes i dd'eud y cod iddyn nhw, a'r eiliad yna aeth y pres i gyd allan o'r banc, a be' oedd o, ond three way conversation.
"So oeddan nhw rhywsut 'di cael mewn i account fi, so oeddan nhw yn siarad â'r banc yn smalio na fi oedd o, a phob cwestiwn o'ddan nhw'n gofyn, 'sa nhw'n gofyn i fi."

Dywedodd fod ei fanc yn "siŵr mai gyda fi oedden nhw'n siarad".

Ar ôl i'w amheuaeth gynyddu, "nes i gychwyn cwestiynu nhw a aethon nhw'n flin efo fi, a nes i feddwl, this is not right".

Ad (425x293)

"So wedyn nes i hangio fyny a ffonio [ei fanc] ac o'n i ar y ffôn efo nhw am bedair awr a finnau 'di bod fyny ers hanner nos yn 'neud donuts!"

Ar ôl treulio oriau ar y ffon gyda'i fanc, mae wedi derbyn y swm cyfan yn ôl tra bod ymchwiliad yn cael ei wneud, ac felly nid yw wedi mynd at yr heddlu.

"Mae o mor hawdd i gael eich twyllo," meddai.
"Mi oedd gen i suspicion o'r cychwyn, a'r cyngor sgen i, os mae o'n swnio'n od am eiliad, jyst hang up."

Cymorth wedi bod yn 'unbelievable'

Dywedodd ei fod yn teimlo "bach yn wirion" ac yn "hollol exhausted" wedi'r profiad.

"Ma' busnes fi'n dymhorol, so o'n i'n gweithio mor galed i gael y bank balance 'na nôl fyny i rywle cyfforddus.

"Mi oeddan ni wedi gwneud ymdrech huge ac wedi gwneud llwyddiant mawr dros y gwylia' Pasg yn barod.

"A rŵan ma' jyst yn nightmare achos dwi'n gorfod newid pob dim, gorfod newid cerdyn fi, newid online banking fi."

Ond dywedodd fod ymateb y gymuned yn golygu cymaint iddo.

"'Da ni 'di cael un o'r diwrnodau prysuraf erioed yn y felin heddiw. Ma' pobl jyst 'di dod i wario pres.
"Mae'r cymorth a'r gefnogaeth gan gwsmeriaid ar Facebook wedi bod mor unbelievable.
"A'r tecsts dwi wedi cael gan cyfeillion fi, pobl eraill sydd efo busnesau lleol, i gynnig helpu allan efo payroll a ballu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

This article was sourced from bbc

Ad (425x293)

Related News