Skip to main content
Advertisement

Serenar Douch: 'Bod ar y llwyfan yn freuddwyd i fi'

Mae Serenar Douch o Gaerfyrddin yn perfformio yn The Karate Kid – The Musical wrth ddychwelyd i Ganolfan y Mileniwm, gan sôn am ei thaith, ei theulu a chynrychiolaeth.

·5 min read
Serenar Douch

Ar ôl cyfnod o berfformio ar lwyfan y West End, mae Serenar Douch o Gaerfyrddin yn gwireddu breuddwyd drwy ddychwelyd i Gaerdydd i berfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Mae’r perfformiwr, sydd bellach yn teithio ledled y DU gyda The Karate Kid – The Musical, wedi bod yn sôn am ei chefndir yng Nghaerfyrddin a rôl allweddol ei mam-gu yn ei llwyddiant.

Yn syth ar ôl graddio, ymunodd Serenar â chast Moulin Rouge! The Musical yn theatr y Piccadilly yn Llundain. Ei rôl nesaf yw fel swing yn rhan o gast The Karate Kid – The Musical, sy’n seiliedig ar ffilm o’r 80au.

Mae swing yn gyfrifol am ddysgu a pherfformio nifer o rolau gwahanol yn yr ensemble, gan gamu i mewn i unrhyw un ohonynt ar fyr-rybudd.

Meddai:

“Dwi mor gyffrous i fynd i Ganolfan y Mileniwm – rhywbeth dw i wedi breuddwydio amdano ers amser maith.
“Dw i wedi gweld cymaint o sioeau yno gyda fy mam-gu; dwi'n methu aros i fod ar y llwyfan tra bydd hi yn y gynulleidfa. Bydd yn teimlo'n arbennig iawn ac yn uchafbwynt i 'ngyrfa i.
“Dwi'n onstage swing sy'n covero y merched a'r bechgyn i gyd yn yr ensemble. Felly dwi'n neud pob track yn yr ensemble a phan mae un yn sâl mae'r swing yn covero nhw.”

Disgrifir Serenar fel swing yn sioe The Karate Kid.

Serenar Douch
Disgrifiad o’r llun, Serenar fel swing yn sioe The Karate Kid

Mae Serenar yn diolch i'w thad-cu a'i mam-gu am eu cefnogaeth ac am fynd â hi i Gymdeithas Operatig Amatur Caerfyrddin (CAOS) a Forge Drama fel plentyn.

“Pan oeddwn i'n ifanc, aeth fy mam-gu â fi i nifer o glybiau drama gwahanol – cheerleading, bale, dawns tap – o'n i'n gwneud popeth, gan gynnwys gwersi canu.
“Roedd e'n help mawr – yn enwedig y bale a'r dawnsio tap, gan 'mod i'n sefyll arholiadau, yn ogystal â chwarae'r piano. Y cam mawr i fi oedd mynd i'r coleg yn Bedford yn 16 oed i Goleg Celfyddydau Perfformio Stella Mann, oedd yn gwrs tair blynedd.
“Roedd mam-gu a tad-cu fi yn help mawr, yn enwedig fy mam-gu achos mae'n caru theatr a phopeth i 'neud gyda miwsig glasurol. Ac yn lwcus o'n i'n caru fe i gyd hefyd.”

Dywed Serenar ei bod hi heb weithio llawer drwy gyfrwng y Gymraeg ond fod cymuned o Gymry yn y West End.

Advertisement
“Dwi ddim yn edrych fel person sy'n siarad Cymraeg ond byddwn i'n caru gweithio mwy yn y Gymraeg.
“Roedd sawl person o Gymru yn Moulin Rouge gan gynnwys Craig Ryder [sy'n portreu Harold Zidler yn y sioe gerdd]. Ni yn siarad yn Gymraeg ac mae'n temlo fel cymuned, mae wastad yn rili neis pan mae rhywun arall o Gymru.”

Serenar gyda'i mam-gu a thad-cu, Enfys a Des

Mam-gu a thad-cu Serenar, Enfys a Des
Disgrifiad o’r llun, Serenar gyda'i mam-gu a thad-cu, Enfys a Des

Cynrychiolaeth

Mae Serenar yn angerddol am gynyddu cynrychiolaeth Cymry o gefndir ethnig Asiaidd.

“Yn yr ysgol do'n i byth yn cael fy newis i wneud pethau ac i gystadlu yn yr eisteddfod.
“Dwi'n gobeithio fod pethau wedi gwella, bydden i'n gobeithio gweld mwy o bobl sy'n edrych yn wahanol ar lwyfan ac mewn eisteddfodau nawr. Ond digwyddodd e ddim i fi – fi oedd yr unig berson Asiaidd yn fy mlwyddyn yn yr ysgol.
“Dyna beth dwi'n trio gwthio am, i bobl eraill Asiaidd o Gymru sy'n siarad Cymraeg ac sy'n mynd i ysgol Gymraeg i deimlo mwy cyfforddus ac i wybod fod pobl eraill fel nhw yn gallu bod yn lwyddiant.
“Dyna pam wnes i gymaint tu allan i'r ysgol achos dwi'n bersonol yn teimlo mod i ddim wedi cael rhyw lawer o help gan yr ysgolion wnes i fynychu.
“Do'n i ddim yn caru ysgol ac o'n i eisiau mynd i rywle oedd yn gwneud canu, actio a dawnsio – yr holl bethau oedd fy mam-gu i wedi cael fi i wneud.”

Rheoli nerfau

Er gwaethaf canu, dawnsio ac actio o flaen cynulleidfa bob nos, mae Serenar yn disgrifio ei hun fel person swil sydd wedi gorfod dysgu sut i reoli ei nerfau.

“Dwi wedi gorfod ymarfer ac ymarfer.
“Flynyddoedd yn ôl, roedd gen i arholiad piano ac o'n i yn y car gyda fy mam-gu a'n meddwl mod i methu 'neud e. O'n i'n ofnus iawn ac yn crio.
“Weithiau dwi'n meddwl yn ôl i'r teimlad hwnnw a'r ffordd dwi'n teimlo nawr – mae'n wahanol iawn a dwi ddim yn teimlo'r nerfusrwydd yna nawr. Dwi'n gallu delio gyda fe.”

Serenar gyda phoster Moulin Rouge

Serenar gyda poster Moulin Rouge
Disgrifiad o’r llun, Serenar gyda phoster Moulin Rouge

I lwyddo mewn maes mor gystadleuol mae angen gweithio'n galed.

“Mae angen yr angerdd hwnnw arnat. Dwi'n credu, heb hynny, y byddai'n rhy anodd.
“Mae bod ar y llwyfan yn freuddwyd i fi, a fydd hynny byth yn newid.
“Yr angerdd sy'n cael ti yno, ynghyd â gwaith caled fel mynd i glybiau drama bob nos ar ôl ysgol. Dyna'r allwedd i'r cyfan.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News