Bydd y dylunydd gemwaith a'r gof aur ac arian Rhiannon Evans yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl dros hanner canrif o werthu nwyddau ar draws y byd. Agorodd Rhiannon, 79, siop ar sgwâr Tregaron ym mis Mai 1971 i werthu gwaith crefft mewn carreg, pren a chlai.
Heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol mewn gweithio gyda metalau, fe ddysgodd ei hun i wneud gemwaith, a thros amser daeth ei dyluniadau a'i gemwaith aur ac arian yn adnabyddus yn rhyngwladol. Mae hi wedi gwneud gemwaith ar gyfer teuluoedd brenhinol ac archesgobion, a gwobrau cenedlaethol gan gynnwys coronau a medalau Eisteddfodol.
Bu Rhiannon yn gweithio wrth y fainc yn y gweithdy am ddegawdau ar ôl agor y siop yn sgwâr Tregaron yn 1971

Wrth edrych yn ôl dros ei gyrfa dywedodd Rhiannon ei bod yn
"teimlo 'mod i wedi cyflawni rhywbeth".
"Dwi yn gobeithio y bydd y gwaith, a'r pethau dwi wedi creu, yn parhau yn hirach na fi fy hunan."
Cafodd Rhiannon ei haddysgu yn y gwyddorau, a byddai dilyn gyrfa yn y maes hwnnw wedi golygu gweithio mewn labordy tu fas i Gymru. Ond dywedodd:
"O'n i ddim isie gwneud hwnna, felly chwilio am rywbeth arall er mwyn osgoi hynny o'n i."
Agoriad llygaid
Newidiodd trywydd ei bywyd ar ôl iddi ymweld ag arddangosfa o gelfyddyd hynafol y Celtiaid. Penderfynodd ar y pryd ei bod hi am weithio yn nhraddodiad artistig y Celtiaid a chreu gwaith newydd wedi'i ysbrydoli gan waith celf Celtaidd.
"Roedd hynny yn sicr wedi newid fy ngyrfa achos o f'yna daeth yr elfen Geltaidd.
"Dwi'n meddwl bod y diddordeb wedi bod yna erioed – ond doedd e ddim wedi crisialu fel petai tan i fi fynd i'r arddangosfa.
"Roedd yn rhyw fath o agoriad llygaid, a penderfynais i 'mod i eisiau cario 'mlaen yn y traddodiad yma, ond nid copïo stwff hen bobl chwaith."
Darn o emwaith cyfyngedig o aur Cymru 'Rhosyn Caron' a wnaed i ddathlu pen-blwydd y cwmni yn 50 oed

Dywedodd Rhiannon fod rhai pobl yn yr arddangosfa yn meddwl bod y delweddau Celtaidd yn arswydus ac yn eu hofni nhw,
"ond o'n i yn meddwl eu bod nhw'n perthyn i fi".
"O'n i'n gweld delweddau o'r chwedlau Cymraeg a Cheltaidd eraill ynddyn nhw, ac o'n i'n teimlo bod iaith yn cael ei cholli dros y canrifoedd, ond dyw'r delweddau gweledol ddim - maen nhw'n llwyddo i gyfleu pethau o hyd."
Daeth ei gwaith yn boblogaidd iawn gydag apêl eang trwy Gymru a thu hwnt. Daeth cwsmeriaid yn rheolaidd o'r Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a gwledydd eraill - gyda rhai pobl yn gyrru'n unswydd o Lundain i Dregaron er mwyn ymweld â'r gweithdy.
Hefyd bu'n gwneud gemwaith ar gyfer enwogion ac aelodau o deuluoedd brenhinol gan gynnwys y Brenin Charles pan oedd yn Dywysog Cymru, tywysogesau o Japan, a'r Archesgob Desmond Tutu ac archesgobion Cymru a Chaergaint.
Rhoi Tregaron ar y map
Er hynny, nid dyna oedd y gwaith pwysicaf i Rhiannon.
"A bod yn onest, roedd cael gwneud gwobrau i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd, y gwobrau personol yn arbennig, roedd hwnna dipyn yn fwy i fi na gwneud rhywbeth i bobl enwog."
Mae Rhiannon wedi gwneud miloedd ar filoedd o ddarnau o emwaith yn ei gweithdy yng nghanol Tregaron, gan adeiladu busnes llwyddiannus o'r dref fach wledig a helpu i
"roi Tregaron ar y map".
Hen lun o Rhiannon gyda'i bytheiad Gwyddelig Cara

O ran ei hoff ddarn, neu'r un sy'n aros yn y cof ac yn agos at ei chalon, mae Rhiannon yn sôn am ddarn y gwnaeth hi ar ôl colli ci – bytheiad Gwyddelig o'r enw Llywela – yn sydyn.
"Roedd rhaid i mi wneud rhywbeth fel ymateb i'r galar – ac mi wnes i'r groes yma gyda chi wedi gwau o gwmpas y groes.
"Ac mae hwnna yn un eitha' personol i fi achos ar ôl edrych arni o'n i'n meddwl 'na dydy honna ddim yn debyg i unrhywbeth arall dwi wedi gweld yn y byd Celtaidd'.
"Ond mi oedd e yn yr un traddodiad a'r un ysbryd fel petai."
Gweithio gyda charreg las 'go iawn'
Yn amserol iawn yn wythnos Eisteddfod y Garreg Las, dywedodd Rhiannon hefyd ei bod hi'n falch o'r gemwaith y mae hi wedi gwneud sy'n cynnwys carreg las
"go iawn".
"Erbyn hyn yn anffodus mae pwy bynnag sy'n penderfynu y pethau yma wedi dweud bod chi'n medru galw rhywbeth yn 'Preseli blue stone' os ydy e wedi gwneud o 'blue dolerite', a does dim ots o ble mae fe'n dod.
"Mae e wedi difetha pethau braidd.
"Hefyd alla i ddim cael mwy na beth sydd gen i mewn stoc ar hyn o bryd, ond mae hwnna eto wedi cael ymateb da iawn gan bobl ar hyd y byd, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.
"Mae rhai pobl yn meddwl bod ganddo bwerau iachau."
Lunula ar gyfer cadwyn am y gwddf sy'n cynnwys darn o'r garreg las o'r Preseli

Wrth iddi ymddeol fe fydd marc gwneuthurwr personol Rhiannon yn ymddeol hefyd – gyda'r cwmni yn symud i ddefnyddio stamp cwmnïol newydd.
Yn ôl Rhiannon, oherwydd costau cynyddol deunyddiau crai, mae'n bosib y bydd rhaid addasu dyluniadau yn y dyfodol ond
"y nod fydd bob amser creu gemwaith sy'n adlewyrchu enaid ac ysbryd ein gwlad".
Er ei bod yn bwriadu ymddeol, dywedodd Rhiannon na fyddai hi'n gorffen creu yn llwyr.
"Fydda i byth yn gorffen creu tra 'mod i'n byw ac iach.
"A dwi'n ffodus iawn dwi'n dal yn medru gwneud y gemwaith – mae'n llygaid a'n nwylo i wedi parhau hyd yma.
"Ond mae'n rhaid cydnabod bod 'na ddiwedd yn dod rhywbryd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







