Skip to main content
Advertisement

O’r Furries i Hogia’r Wyddfa: comebacks bandiau Cymraeg

O Super Furry Animals i Bandana, mae bandiau Cymraeg wedi dychwelyd i’r llwyfan dros y blynyddoedd, gyda sawl comeback mawr yn Eisteddfod 2026.

·7 min read
Super Furry Animals yn Glastonbury, 2015

Super Furry Animals yn Glastonbury, 2015 - flwyddyn cyn eu perfformiad olaf am ddegawd. Yn ôl i’r sîn mae sawl band Cymraeg wedi ailffurfio neu ddychwelyd i’r llwyfan ar ôl blynyddoedd o seibiant, ac mae 2026 yn edrych yn debyg i flwyddyn o “gambcs” Steddfod.

Yn gynta' daeth cyhoeddiad y Super Furry Animals ac wedyn Y Bandana - mae'n ymddangos bod 2026 yn flwyddyn y cymbacs 'Steddfod...

Ond mae 'na flynyddoedd eraill wedi bod yn hanes pop Cymraeg pan mae cynnwrf wrth i grwpiau gyhoeddi eu bod yn perfformio am y tro cyntaf ers blynyddoedd. Mae’r erthygl hon yn edrych ar rai o’r enghreifftiau mwyaf cofiadwy, o’r 1960au hyd at y comebacks diweddaraf.

Pa grwpiau sydd wedi dychwelyd i berfformio dros y blynyddoedd?

Roedden nhw'n un o'r grwpiau Cymraeg mwyaf poblogaidd ar ddiwedd y 1990au, ond wnaethon nhw ddim perfformio efo'i gilydd am bron i 15 mlynedd tan Tafwyl yn 2016.

Ers hynny maen nhw wedi gwneud sawl gig cofiadwy, gan gynnwys cloi Llwyfan y Maes yn Eisteddfod Pontypridd yn 2024.

“Weithia' ti'n meddwl falle bod ni 'chydig yn rhy hen, falle bod o'n well gadael pethe fel roedden nhw. Ond doedden ni ddim yn disgwyl yr ymateb gawson ni o gwbl - oedd o mor briliant.”

Yn 2017 fe ddywedodd Non Parry am eu gig gyntaf ers 15 mlynedd.

Ac fe fydd y tair yn gobeithio am ymateb tebyg ar nos Sadwrn ola'r Steddfod eleni gan mai nhw sy'n cloi Maes B.

Hogia'r Wyddfa

Ar ôl dod yn un o grwpiau prysuraf Cymru ers ffurfio yn 1963, fe wnaeth Hogia'r Wyddfa roi'r gorau iddi yn 1973 a pherfformio mewn cyngherddau ffarwél, gan gynnwys un ar Ddydd Gŵyl Dewi, yn y Royal Albert Hall.

Flwyddyn yn ddiweddarach yn 1974 roedden nhw yn ôl yn recordio - ac erbyn diwedd y ddegawd roedden nhw wedi ail-ddechrau perfformio'n fyw.

Hogia'r Wyddfa

Crumblowers

Y Crumblowers - a Mark Roberts - yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, fe wnaeth un o grwpiau fwyaf poblogaidd y ddinas ddod nôl at ei gilydd.

Dyma oedd grŵp cyntaf Owen Powell - ar ddiwedd yr 1980au a dechrau'r 90au - cyn iddo gael llwyddiant ar draws y byd gyda Catatonia.

A phwy ymunodd efo fo a gweddill y Crumblowers ar y llwyfan fel gwestai arbennig? Mark Roberts, hefyd o Catatonia, i chwarae un o glasuron ei fand cyntaf Y Cyrff - sef Cymru, Lloegr a Llanrwst.

Ar ôl chwarae ym Miri Madog yn 2005, wnaeth y band o Benygroes roi'r gorau iddi am 11 mlynedd.

Gyda chaneuon fel Gwefus Melys Glwyfus, Hapus a Dim roedd y band wedi dod yn boblogaidd iawn erbyn diwedd yr 1990au.

Yna daeth y grŵp, gyda'r diweddar Dyfrig Evans yn brif leisiydd, yn eu holau ar ôl gwahoddiad i chwarae yng Ngŵyl Rhif 6, Portmeirion yn 2016.

Y Crumblowers ar y llwyfan
Disgrifiad o’r llun, Y Crumblowers - a Mark Roberts - yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Dafydd Iwan

Dafydd Iwan yn perfformio yn Qatar, cyn gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022

Mae'n rhywbeth mae Dafydd Iwan yn tynnu coes amdano ei hun bellach... sef ei fod wedi cyhoeddi ei ymddeoliad fwy nag unwaith cyn penderfynu ail-afael yn y gitâr.

“Mae'r cyfnod y mae fy nghaneuon i'n perthyn iddo fe'n dod i ben. Fe fydda i wedi bod yn canu ers 37 mlynedd erbyn diwedd y flwyddyn nesa, ac mae hynny'n ddigon i unrhywun call faswn i'n meddwl.”

Meddai ar ddiwedd yr 1990au.

Aeth yn ei flaen o fewn dim i ryddhau dau albym Yn Fyw Cyfrol 1 a 2 (2001 a 2002).

Erbyn hyn wrth gwrs mae o wedi dod mor boblogaidd ag erioed gydag Yma o Hyd wedi dod yn anthem answyddogol tîm pêl-droed Cymru i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg - ac wedi cael bron i bum miliwn o ffrydiadau ar blatfform Spotify.

Fe gyhoeddodd yn haf 2025 ei fod yn ymddeol o ganu gyda'i fand - ond am barhau i wneud rhai digwyddiadau llai gyda dim ond fo a'i gitâr.

Dafydd Iwan yn perfformio yn Qatar, cyn gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022
Disgrifiad o’r llun, Dafydd Iwan yn perfformio yn Qatar, cyn gêm Cymru yng Nghwpan y Byd 2022

Edward H. Dafis

Grŵp arall sydd wedi ymddeol fwy nag unwaith...

Chwaraeodd Edward H eu gig olaf mewn neuadd orlawn ym Mhafiliwn Corwen ar 11 Medi 1976.

Advertisement

Yna ar 11 Mawrth 1978 daeth y band nôl at ei gilydd a chwarae gig yn Neuadd Tal-y-bont Aberystwyth. Aeth y band ymlaen i ryddhau dau albwm arall - Yn Erbyn y Ffactore yn 1979 a Plant y Fflam yn 1980.

Yna yn Eisteddfod Genedlaethol 2013 fe wnaeth tua 5,000 o bobl fynd i weld gig olaf olaf Edward H. Dafis.

Murlun yn nodi cysylltiad Edward H gydag ardal Eisteddfod yr Urdd 2025

Hergest

Band arall poblogaidd o'r 1970au sydd wedi dod yn ôl at ei gilydd - a hynny i berfformio yn yr Eisteddfod eleni.

Fe fydd y pedwar aelod gwreiddiol - Delwyn Siôn, Derec Brown, Elgan Ffylip a Geraint Davies - yn perfformio yn y Brifwyl hanner can mlynedd ers iddyn nhw ymddangos yn Eisteddfod Aberteifi 1976.

Dyma fydd perfformiad cyhoeddus cyntaf Hergest ers 2004.

Fe fydd y pedwarawd yn y Tŷ Gwerin ar nos Fawrth Eisteddfod y Garreg Las, pan fydd nifer o bobl lleol yn y gynulleidfa yn siŵr o obeithio clywed un o ffefrynnau'r grŵp - Harbwr Aberteifi.

Hergest

Pa atgofion sydd gan Eisteddfod Wrecsam 2025?

Un o'r golygfeydd sy'n aros yn y cof yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 ydi'r holl sombreros lliwgar yn y dorf ar y nos Wener olaf.

Ar ôl cyfnod hir o absenoldeb, roedd Anweledig yn chwarae yn y Brifwyl am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd wrth gloi Llwyfan y Maes.

Er eu bod wedi dod at ei gilydd yn 2018 ar gyfer Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog, doedd y band, oedd ar eu hanterth ar ddiwedd yr 1990au a dechrau'r 2000s, heb chwarae yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf - a'r sombreros a hwyl y dorf yn braf o'u poblogrwydd parhaol.

Meic Stevens

Yn 2011, cynhaliwyd sawl cyngerdd ffarwél i Meic Stevens wedi iddo gyhoeddi ei fod am adael Cymru a mynd at hen gariad doedd o heb ei gweld ers 47 mlynedd.

Er iddo awgrymu y byddai'n rhoi'r gorau i ganu a chanolbwyntio ar ei gelf, roedd yn ei ôl rai blynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae Llwyfan y Maes ar nos Wener y Steddfod wedi dechrau troi'n debyg i'r legends slot yn Glastonbury.

Ynweledig y llynedd, ac eleni ar ôl 10 mlynedd o seibiant, mae'r Bandana yn ôl wedi iddyn nhw ailffurfio ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las 2026.

Fe fydd y criw yn cloi'r nos Wener ar Lwyfan y Maes, sef eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Y Fenni yn 2016.

Meic Stevens

Super Furry Animals

Super Furry Animals yn Glastonbury 2015 flwyddyn cyn eu perfformiad olaf am ddegawd

Er na wnaeth nhw erioed chwalu, doedd y Furries heb berfformio'n fyw ers degawd cyn cyhoeddi eu bod yn gwneud taith fer eleni... sydd wedi tyfu'n daith hirach oherwydd yr ymateb.

Mae'r aelodau wedi bod yn gweithio ar wahân ar amryw o brosiectau cerddorol ond dyma'r tro cyntaf i'r grŵp ddod at ei gilydd ers Rhagfyr 2016.

Ac ar ôl gwerthu'r holl docynnau ar gyfer eu gigs ar eu taith - mewn lleoliadau fel Dulyn, Llundain, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Caerdydd a Llandudno - mae'n nhw'n perfformio yn yr Eisteddfod Genedaethol - 30 mlynedd yn union ers y tro diwethaf.

Super Furry Animals yn Glastonbury 2015
Disgrifiad o’r llun, Super Furry Animals yn Glastonbury 2015 flwyddyn cyn eu perfformiad olaf am ddegawd

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

1996: y flwyddyn mwyaf arwyddocaol yn hanes pop Cymraeg?

Eisteddfod 2026: Cyhoeddi artistiaid Maes B

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News