Murlun Anrhydedd i Ivor Emmanuel yn Pontrhydyfen
Mae murlun newydd wedi cael ei greu ar dafarn The Colliers Arms ym Mhontrhydyfen fel teyrnged i'r actor Ivor Emmanuel.
Cafodd Ivor, seren y ffilm Zulu (1964) a gaiff ei gofio am chwarae rhan Private Owen yn y ffilm, ei fagu yn y pentref. Un arall a fagwyd yno oedd seren Hollywood a chyfaill i Ivor, Richard Burton.
Dwy flynedd yn ôl, aeth yr artist Dave 'Gnasher' Nash i Bontrhydyfen i beintio murlun i Richard Burton yn y pentref fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant ei eni.
Fe benderfynodd pwyllgor cymunedol y pentref bod angen murlun i Ivor hefyd, ac ar gais y pwyllgor, mae Dave newydd orffen y gwaith.
Mae un o'r trefnwyr, Andrea Edwards, sy'n dod o Bontrhydyfen ac yn cofio Ivor wrth ei bodd gyda'r murlun iddo.
"Rydyn ni gyd yma wedi dotio gyda'r gwaith. Mae'n arbennig."
Ychwanegodd Dave, yr artist sy'n byw ger Caergrawnt:
"Do'n i ddim yn gwybod dim byd am Bontrhydyfen nes dod yma ddwy flynedd yn ôl. Mae'r croeso mor gynnes a phawb mor gyfeillgar, a gymaint o dalent wedi dod o'r pentref. Mae'n unigryw iawn."
Fe beintiodd Dave y murlun dros ddau ddiwrnod hir.

Bywyd a Gyrfa Ivor Emmanuel
Mae'r murlun yn anfarwoli'r olygfa yn y ffilm Zulu lle mae Private Owen yn dechrau canu Men of Harlech ac yn arwain ei gyd-filwyr ym myddin Prydain i wneud yr un fath, wrth iddynt ddod wyneb yn wyneb â byddin llawer mwy o ryfelwyr Zulu.

Er ei lwyddiant, roedd bywyd cynnar Ivor Emmanuel yn un llawn tristwch.
Cafodd ei rieni a'i chwaer dair blwydd oed eu lladd ar 11 Mai 1941 ar ôl i awyren Almaenig ollwng bomiau ar gartref ei deulu yn y pentref. Roedd Ivor yn 14 oed ar y pryd.
Yn dilyn hynny, bu'n byw gyda'i fodryb, Flossie, chwaer ei fam. Tra'n tyfu i fyny, bu'n aelod o dri chôr, dwy gymdeithas opera, a hefyd y gymdeithas ddrama ym Mhontrhydyfen.
Cafodd gymorth Richard Burton yn ei yrfa fel actor, ac roedd yn ddyledus i Burton am ei ran yn Oklahoma! yn Llundain. Aeth ymlaen i dderbyn y brif ran yn y rhaglen deledu gerddorol Gwlad y Gân, cyn actio yn y ffilm Zulu am hanes brwydr Rorke's Drift yn 1879.

Atgofion o Ivor ym Mhontrhydyfen
Yn ôl Andrea Edwards, roedd calon Ivor ym Mhontrhydyfen a'i hiraeth am gymuned y pentref yn ddwfn.
"Roedd fy nhad yn ffrind agos i'w frawd John ac rwy'n cofio pan oedd Ivor yn serennu mewn pantos Nadolig yn Abertawe bydde'r mamau yn trefnu bwsys i fynd i wylio Ivor yn y Grand Theatre.
Oedd e wastad yn gwybod os oedd criw o Bontrhydyfen yn y gynulleidfa a bydde fe'n arfer gweiddi, 'I know you're there Aunt Flossie', neu 'I know you're there Aunt Val'.
Roedd ganddo fe hiraeth a bydde fe wastad yn dod yn ôl i weld ei deulu.
Mae rhai o'i deulu yma o hyd, ac fe wedon nhw bod grŵp WhatsApp y teulu wedi bod yn brysur iawn wrth i luniau gael eu rhannu o'r murlun.
Gobeithio y bydd ei ferch sy'n byw yn Sbaen yn dod gartref i'w weld yn fuan a fe wnawn ni barti bach iddi."
Atgof melys arall sydd gan Andrea o sêr Pontrhydyfen yw gweld Richard Burton ac Elizabeth Taylor yn y siop gornel pan oedd hi'n blentyn.
"Ro'n i wedi mynd i'r siop gornel ar fy ffordd i'r ysgol ac oedd Elizabeth Taylor yno yn prynu bacwn i frecwast. Doedd dim clem 'da fi pwy oedd hi!"
Gobaith Andrea a'r pwyllgor cymunedol yw y bydd murlun Ivor yn dod â hanes y pentref yn fyw i'r to ifanc, ac yn dwyn atgofion melys i do hŷn y pentref, a'r trigolion sy'n cofio'n annwyl am Ivor o Bontrhydyfen.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Richard Burton: 'Y boi â'r llais Cymraeg'
- 'Ennill ras yn erbyn Gregory Peck yn 17 oed'







