Mae cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards, wedi cystadlu yng nghystadleuaeth y goron, mae'r BBC ar deall. Dan y ffugenw "Gelyn", dywedodd y cyn-ddarlledwr fod y cerddi'n trafod ei berthynas gyda'i dad, y diweddar Hywel Teifi Edwards.
Yn 2024, fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, oedd yn cynnwys 41 o ddelweddau o blant - saith yn y categori mwyaf difrifol.
Mewn ymateb dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol:
"Ar ôl pob Eisteddfod rydym yn cael cyfnod o arfarnu i sicrhau fod prosesau yn briodol - a fydd eleni yn ddim gwahanol."
Barddoni 'am y tro cyntaf'
Nos Sul ar ei gyfrif Substack dywedodd Huw Edwards:
"Am y tro cyntaf yn fy mywyd, rwyf wedi ceisio ysgrifennu cerdd. Cefais ysbrydoliaeth o un o brif themâu'r gystadleuaeth ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2026: y thema yw 'Adnabod'."
"Un o'r digwyddiadau mwyaf gofidus yn 2024 oedd gweld natur fy mherthynas â fy nhad yn cael ei gam-gynrychioli'n fwriadol gan y cyfryngau, ac yn enwedig gan newyddiadurwyr Cymraeg eu hiaith."
Mae 41 wedi cystadlu am Goron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las. Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adnabod'. Damian Walford Davies, Gwynfor Dafydd a Nia Powell oedd y beirniaid.
Yn ôl y bardd a'r newyddiadurwr Karen Owen:
"Mae'n bwysig ein bod ni ddim yn mynd i banig am hyn. Dydy o ddim wedi torri rheol drwy gystadlu.
"Mae gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r awen i wella a d'eud eu d'eud."
Ychwanegodd ei bod hi'n bwysig nad yw'r ffaith bod Mr Edwards wedi cystadlu yn
"tynnu o fri'r gystadleuaeth".
"Dydy hi ddim yn ddymunol ond dylai'r enillydd ddim plygu ei ben neu ei phen."
Mae cystadleuwyr yn cyflwyno'u gwaith o dan ffugenw ac mae yna reol cyfrinachedd gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Er gwaethaf hyn, mae Mr Edwards wedi cyhoeddi ei waith ar-lein.
Dywedodd Karen Owen:
"Dydy hi ddim yn beth doeth i 'neud. Mae o'n amlwg yn gryf am sylw ac eisiau cael ei ochr o."
Mewn ymateb dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol:
"Mae gennym broses yn ei le sy'n sicrhau nad oes neb, gan gynnwys y beirniad, yn gwybod ymlaen llaw pwy sydd wedi cystadlu.
"Ar ôl bob Eisteddfod rydym yn cael cyfnod o arfarnu i sicrhau fod prosesau yn briodol - a fydd eleni yn ddim gwahanol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Y diweddaraf ar ddiwrnod y Coroni yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Blog Huw Edwards yn 'amhriodol ac amharchus' - ymgyrchwyr







