Alan Llwyd yn hel atgofion am helynt Cadair Eisteddfod 1976. Hanner can mlynedd yn ôl yn Eisteddfod Aberteifi, sy'n cael ei chofio fel Eisteddfod y Llwch, neu efallai'n fwy cofiadwy fel Eisteddfod y Ddwy Awdl, bu dau o'n prifeirdd ym mhenawdau'r papurau oherwydd bod un ohonynt wedi torri'r rheol uchod.
"Ni chaniateir i aelod neu gyn-aelod o unrhyw bwyllgor gystadlu mewn unrhyw gystadleuaeth a berthyn i'r pwyllgor y mae neu y bu yn rhan ohono."
Dyna'r rheol cafodd ei thorri ym 1976 ac a fu'n ganolog i un o'r helyntion mwyaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol. A'r ddau fardd ynghlwm â'r cwbl oedd Dic Jones ac Alan Llwyd a'u hawdlau 'Y Gwanwyn'.
Mewn pennod arbennig o Llwyfan i BBC Radio Cymru, bu Twm Morys yn ailymweld â'r digwyddiad gan holi Alan Llwyd a theulu Dic Jones am yr hyn maen nhw'n cofio.
Beth oedd yr 'helynt'?
Roedd Dic Jones yn aelod o bwyllgor llên Eisteddfod Genedlaethol 1976, ac fe nodai yn glir yn rheolau'r Eisteddfod nad oedd modd i aelod o'r pwyllgorau gystadlu yn y cystadleuthau a wnelo â'r pwyllgor hwnnw.
Ond, pan gydiodd yr awen yn Dic yr Hendre fe adawodd y pwyllgor a phenderfynu cystadlu. Aeth rhai misoedd heibio a phan dderbyniodd yr Eisteddfod ymgais gan RL Jones o'r Hwlffordd, doedd neb yn gwybod pwy oedd o.
Roedd Dic wedi rhoi cyfeiriad perthynas iddo ar ei ymgais fel na fyddai'r beirniaid yn gwybod pwy oedd o. Dywedodd mewn cyfweliadau flynyddoedd wedyn,
"ysbryd y ddeddf yw nad o'n i'n cael mantais ar neb"ac felly, fel hyn, ni chawsai fantais dros eraill. Ni wyddai neb pwy oedd o.
Ymhen hir a hwyr, darganfuwyd mai Dic oedd RL Jones gan amlygu fod y rheol wedi'i thorri a bu'n rhaid diarddel Dic o'r gystadleuaeth. Ond doedd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod ddim am gael cadair wag yn 800fed blwyddyn y Brifwyl!
Yn lwcus iawn, roedd y beirniaid oll yn gytûn bod dwy awdl gwbl deilwng o'r gadair ac fe'i cynigiwyd hi i un Mr Alan Lloyd Roberts, fwy adnabyddus heddiw fel Alan Llwyd.
Twm Morys yn ail-ymweld â hanes Cadeirio 'Steddfod '76

Dim drwgdeimlad – Alan Llwyd gyda theulu Dic Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







