Mae'r ffilm eiconig Star Wars yn cael ei dybio'n Gymraeg am y tro cyntaf i ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed. Mae'r fersiwn Gymraeg newydd o'r ffilm gyntaf yn y gyfres, sef Star Wars: A New Hope, yn cael ei alw'n Star Wars: Gobaith Newydd.
Daeth y cyhoeddiad ar faes yr Eisteddfod, gyda'r Stormtroopers yn crwydro'r maes. Mae'r gwaith dybio'n cael ei wneud mewn cydweithrediad rhwng Lucasfilm, Disney, S4C a Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol.

Mae rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn arwain y cast yn y fersiwn Gymraeg newydd, gan gynnwys Matthew Rhys fel Han Solo a Rhys Ifans fel Obi-Wan Kenobi. Bydd yn cael ei darlledu ar S4C ac ar draws ei llwyfannau digidol o ddydd Nadolig ymlaen.
Mae'r cast hefyd yn cynnwys Aimee-Ffion Edwards fel y Dywysoges Leia, Mark Lewis Jones, fu'n chwarae cymeriad yn Star Wars: The Last Jedi, fel Darth Vader, ac Osian Morgan fel Luke Skywalker yn ogystal â Llyr Ifans (C-3PO), Nia Roberts (Modryb Beru), Richard Harrington (Grand Moff Tarkin), Owain Arthur (Arweinydd Coch), a Rhodri Meilir (Arweinydd Aur).
Mae'r dyb Cymraeg yn cael ei gyfarwyddo gan Ellyn Stern a'i gynhyrchu gan Michael Kohn, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Dosbarthu Lucasfilm.
"Rydyn ni'n gyffrous iawn am y prosiect hwn am sawl rheswm.
"Rydw i wedi bod yn rhan o ychydig o dubs ieithoedd brodorol o Star Wars dros y blynyddoedd sy'n anelu at gadw ac adfywio diddordeb mewn dysgu'r ieithoedd.
"Maen nhw wedi bod yn hynod lwyddiannus nid yn unig yn eu cymunedau ond yn rhyngwladol hefyd. Mae'r cyfle i ddathlu'r Gymraeg trwy Star Wars yn un na allwn ei golli."
Mae Cymru wedi chwarae rhan ers amser maith ym mhrosiectau Star Wars ac yng nghynyrchiadau Lucasfilm eraill yn y gorffennol, gyda'r llong ofod y Millennium Falcon maint llawn wedi'i adeiladu yn Noc Penfro ym 1979 ar gyfer Star Wars: The Empire Strikes Back, yn ogystal â golygfeydd o'r ffilm a'r gyfres Willow a'r gyfres Star Wars: The Acolyte.
Sut ymatebodd S4C i'r cyhoeddiad?
Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans bod y "sêr yn bendant yn disgleirio ar y prosiect hwn" a bod y sianel "wrth ein bodd" i gydweithio ar "ffilm mor eiconig i gymaint o genedlaethau o gefnogwyr ledled y byd".
"Mae'n gyfle gwych i hyrwyddo'r Gymraeg a'n hactorion talentog ar lwyfan rhyngwladol. Mae hefyd yn ategu ein strategaeth i ehangu ein gwylio drwy gynnwys anhygoel a'n dymuniad i helpu i gynhyrchu ffilmiau sinematig yn Gymraeg."
Dywedodd Cyd-lywydd Lucasfilm, Lynwen Brennan, a gafodd ei geni a'i magu yng Nghymru: "Mae gan Gymru hanes mor gyfoethog o adrodd straeon ac iaith delynegol hardd.
"Nid ydym erioed wedi cael cyfieithiad o Star Wars i'r Gymraeg o'r blaen ac rwy mor ddiolchgar, ein bod wedi gallu gweithio gyda thalent anhygoel o Gymru i wireddu hynny, er mwyn dathlu ein pen-blwydd yn 50 oed.
"O'r diwedd bydd siaradwyr Cymraeg yn gallu mwynhau'r ffilm yn ein hiaith frodorol a fy ngobaith yw y bydd yn cael yr un effaith emosiynol â phe baech chi'n gwylio'r ffilm eto am y tro cyntaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







