Y bardd a'r academydd Christine James oedd y ddynes gyntaf i fod yn archdderwydd, a hynny yn Eisteddfodau 2013-15. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 a gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2014.
Hi bellach yw Cofiadur yr Orsedd.
Dyma ddod i'w hadnabod ychydig yn well.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Anodd bod yn siŵr, gan nad oeddwn yn cadw dyddiadur ar y pryd!
Rwy'n cofio'n glir i mi gael tedi yn anrheg gan fy mam-gu pan oeddwn tua thair oed. Bu Teddy (ie – enw cwbl wreiddiol!) yn cadw cwmni i mi ar hyd y blynyddoedd wedyn, gan gynnwys dod i'r coleg gyda mi.
Ysywaeth, mae Teddy – fel fi – yn dangos ei oedran erbyn hyn...
Atgof clir arall o'r un cyfnod fwy neu lai yw dechrau yn yr ysgol. Y drefn yr adeg honno oedd mynd yno drwy'r dydd yn dair oed.
Byddai plant bach y dosbarth meithrin yn cael eu rhoi i lawr i gysgu bob prynhawn ar wlâu bach plygu. Rwy'n ofni nad oedd hynny'n apelio ataf i o gwbl.
Roedd ein tŷ ni y drws nesaf i'r ysgol, ac yn ôl Mam gallai glywed fy mhrotestiadau o'r gegin yn gyson!
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Fel merch o Donypandy, mae i Gwm Rhondda le arbennig iawn yn fy nghalon; rwy'n eithriadol o hoff o'r olygfa o Ben-rhys, lle y gallwch weld y cwm yn nadreddu ei ffordd islaw.
Ond yn anaml iawn y byddaf yn mynd acw bellach, yn bennaf am nad oes gen i deulu ar ôl yn y cwm.
Christine yn mwynhau hufen iâ ar y prom yn Aberystwyth

Mewn gwirionedd, rwy'n credu taw ardal Aberystwyth sy' orau gen i erbyn hyn.
Treuliais flynyddoedd hapus a chwbl ffurfiannol yno yn y coleg, ac mae carafán gyda ni yn y cyffiniau ers blynyddoedd lawer, sy'n cynnig dihangfa braf o brysurdeb y brifddinas, yn arbennig os ydw i am gael llonydd i ysgrifennu.
Mae gwylio'r haul yn suddo'n fflamgoch i Fae Ceredigion ar noson braf yn falm i'r ysbryd.
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Na, nid parti gwyllt, na phryd bwyd arbennig... ond cyrraedd adre'n ddiogel o'r diwedd wedi imi gael fy nharo'n sâl yn America ym mis Hydref 2002.
Roedd bod mor wael, mor bell oddi cartref, yn brofiad trawmatig iawn sydd wedi effeithio arna' i mewn pob math o ffyrdd hyd heddiw.
Rwy'n prysuro i ddweud imi dderbyn y driniaeth a'r gofal gorau posibl yn yr ysbyty yn Cambridge, Mass, ond roedd y rhyddhad mawr o gyrraedd 'nôl i'm cartref fy hunan, a'm gwely fy hunan, yn deimlad rwy'n ei gofio o hyd.
Un peth cysylltiedig wrth fynd heibio. Roedd yr ysbyty, nid nepell o Brifysgol Harvard, yn gyfarwydd iawn â delio â chleifion o bob math o gefndiroedd diwylliannol, ac yn medru cynnig gwasanaeth mewn sawl iaith wahanol.
Pan glywson nhw fi yn siarad Cymraeg, dechreuon nhw fynd ati i drefnu cyfieithydd i mi – nes iddyn nhw sylweddoli fy mod i'n medru'r Saesneg hefyd.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Rwy'n barod i weld yr ochr ddoniol i'r rhan fwyaf o bethau – yn enwedig os yw'r jôc arnaf i, fel petai; rwy'n ceisio peidio â chymryd fy hunan ormod o ddifri.
Digwyddodd rhywbeth wnaeth i mi chwerthin mas yn uchel pan oeddwn ar fy ngwyliau'r haf diwethaf.
Dyma ddychwelyd i'm stafell yn y gwesty wedi mwynhau prynhawn hir a diog dan gysgod ymbarél yn ymyl y pwll nofio – a darganfod crocodeil mawr gwyrdd, chwe throedfedd o hyd, yn 'cysgu' yn fy ngwely. (Un plastig, mae'n dda gen i ddweud!)
Syniad fy mab-yng-nghyfraith drygionus oedd hwn, gyda chymorth ei fab hynaf. Rwy'n disgwyl fy nghyfle i dalu'n ôl i'r ddau.
Edrychwch mas, fechgyn – mae dial ar y ffordd!
Cafodd Christine sioc wrth ddarganfod y croc!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Ydych chi o ddifri'n meddwl fy mod i'n mynd i ddatgelu hynny i'r genedl?!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Ddoe, echdoe... Rydym wedi mynd trwy brofiad anodd iawn fel teulu eleni, ac mae meddwl am yr amgylchiadau, neu sôn am yr hanes wrth eraill, yn golygu nad yw'r dagrau byth yn bell i ffwrdd.
Archdderwydd Christine - yr archdderwydd benywaidd cyntaf. Archdderwydd Mererid sydd yn y swydd ar hyn o bryd

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Oes, digon. Gofynnwch i'm gŵr: bydd ef wrth ei fodd yn rhoi rhestr gynhwysfawr ichi, rwy'n siŵr!
Gallwn feddwl mai'r un sy'n mynd ar ei nerfau fwyaf yw'r ffordd rwy'n gadael cwpanau brwnt ar hyd y tŷ yn hytrach na mynd â nhw'n ôl i'r gegin i'w golchi – yn arbennig gan nad yw ef ei hun yn yfed te na choffi.
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
O diar! – dyma'r cwestiwn anoddaf hyd yma. Sut mae dewis un allan o'r cannoedd o lyfrau rwyf wedi eu darllen – a'u mwynhau (gan mwyaf) – dros y blynyddoedd?
Mae llun ohonof i yn dair neu bedair oed yn darllen llyfr Andy Pandy... dewis da i ferch o Donypandy! Ond rwy'n cofio dim am y llyfr – er fy mod i'n cofio'r rhaglenni teledu yn iawn, wrth gwrs. A dyma fi'n dangos f'oed unwaith eto.
Y Christine ifanc yn darllen Andy Pandy

Ystyriais ddewis Great Expectations... neu The Lion, the Witch and the Wardrobe ... neu Yn Ôl i Leifior (y nofel Gymraeg gyntaf i mi ei darllen), a sawl un arall, cyn taro ar yr ateb.
Penderfynais ers blynyddoedd lawer, petawn i byth yn cael gwahoddiad i fynd ar Desert Island Discs (annhebygol, rwy'n gwybod, ond mae meddwl am yr ynys drofannol honno a sŵn y tonnau'n llepian ymyl y traeth yn apelio'n fawr), taw'r llyfr a ddewiswn i gyd-fynd â gweithiau Shakespeare a'r Beibl (cyfieithiad William Morgan, os gwelwch yn dda) fyddai Geiriadur Prifysgol Cymru.
Rwyf wrth fy modd â geiriau, eu sŵn a'u tarddiad, eu cyd-destun a'u cynodiadau, a'r modd mae ystyr yn gallu newid a datblygu gydag amser. Mae'r Geiriadur yn gofnod cyfoethog – amhrisiadwy – o'n hanes a'n diwylliant fel cenedl; yn wir, dyma un o'n prif drysorau fel Cymry.
Er bod yr app ar fy ffôn yn hynod ddefnyddiol, ac rwy'n troi ato'n aml, mae'n llawer gwell gen i'r fersiwn print mewn gwirionedd. Gallaf ymgolli ynddo am oriau, gan hela sgwarnogod geirfäol sydd ddim yn bwysig i neb arall, efallai, ond yn ddifyr iawn i mi.
A-Z Geiriadur Prifysgol Cymru: 100 mlynedd mewn 30 gair
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Rwy'n gallu twitsio fy ffroenau. (Am ddawn dra defnyddiol!) Roeddwn i'n arfer gallu twitsio llabedi fy nghlustiau hefyd, ond wrth drio heddiw gwelais nad ydw i'n gallu gwneud hynny bellach.
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Byddwn wrth fy modd yn cael paned o de gyda'r emynydd Ann Griffiths.
Mae Wyn, fy ngŵr, wedi arbenigo ar hanes ei bywyd a'i gwaith ers blynyddoedd lawer – yn wir, rwy'n dweud weithiau (ys dywedodd rhywun arall rywdro!) fod tri ohonom yn y briodas yma...
Rwy'n rhannu'r un argyhoeddiadau Cristnogol ag Ann, yr un ffydd yn Iesu Grist fel Gwaredwr personol, a byddwn wrth fy modd yn cael gwrando arni'n sôn am ei phrofiadau ysbrydol dwys.
Efallai y gallwn ei pherswadio i adrodd un neu ddau o'i phenillion i mi, yn union fel y gwnâi wrth ei morwyn a'i chyfeilles Ruth Evans, a chwaraeodd ran mor allweddol o safbwynt diogelu gwaith Ann ar ein cyfer ni heddiw.
Erbyn meddwl, efallai y carai Ruth hithau ymuno â ni dros baned. (A byddwn i'n gofalu am glirio cwpanau brwnt pawb ar y diwedd.)
'Ann, fy ffrind': Cofio 250 mlynedd ers geni'r emynydd, Ann Griffiths
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Gofalu dweud wrth fy nheulu gymaint rwy'n eu caru nhw i gyd, ac mor ddiolchgar ydw i am eu cariad hwythau dros y blynyddoedd. Wedyn rwy'n gobeithio y medrwn fynd ymlaen, mewn ffydd, i gyflawni beth bynnag oedd yn fy nyddiadur ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Christine a'i gŵr, Wyn, gyda'u plant a'u hwyrion

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Rwyf wrth fy modd â lluniau, a rhai o ddau gyfnod yn arbennig, sef y Dadeni yn yr Eidal ac wedyn cyfnod yr Argraffiadwyr yn Ffrainc. Ac felly rwy'n mynd i ddewis dau lun sy'n bwysig i mi, am resymau gwahanol iawn – dau rwyf wedi llunio cerddi ecffrastig iddyn nhw, fel mae'n digwydd.
Rwyf wedi cario'r cyntaf yn oriel fy meddwl ers tipyn dros hanner canrif, yn sgil dilyn cwrs Hanes Celf ar gyfer Lefel O, er na welais y llun â'm llygaid fy hun erioed – hyd yma, beth bynnag – sef ffresgo Giotto, Addoliad y Doethion, yng Nghapel Scrovegni yn Padua, yn yr Eidal.
Ynddo, darlunnir y seren a arweiniodd y Doethion at yr Iesu fel Comed Halley; mae'n debygol iawn bod Giotto ei hun wedi gweld Comed Halley yn 1301, ychydig cyn iddo baentio'i lun.
Roedd Giotto yn nodedig am arloesi gyda phaentio mewn arddull mwy naturiolaidd nag a nodweddai'r cyfnod o'i flaen, ac un peth naturiol iawn yn y llun a gydiodd yn fy nychymyg 16-oed, ac ar hyd y blynyddoedd ers hynny, yw'r crwt ym mlaendir y cyfansoddiad, sy'n amlwg yn ymddiddori lawer mwy yng nghamelod gwyn y Doethion nag yn yr anrhegion drudfawr maen nhw'n eu cyflwyno i'r Iesu.
Mae'r llun arall yn fwy diweddar, sef Glaw: Auvers o waith Vincent van Gogh, sydd ynghadw yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae'n llun affwysol o drist, yn perthyn i ddiwedd oes yr artist.
Dioddefai van Gogh o iselder, ac fe'i saethodd ei hun – a marw – ym mis Gorffennaf 1890, ryw dair wythnos wedi iddo baentio'r llun hwn gyda'i goed a'i fryniau a'i gaeau ŷd, a rhyw hanner dwsin o frain yn hedfan yn isel yn y blaendir.
Mae'r hunananafu sy mor aml yn cyd-fynd ag iselder fel petai'n bresenoldeb corfforol yn y llun hwn, yn llinellau lletraws y glaw a grafwyd i mewn i arwyneb y paent. Rwy'n methu edrych arno heb deimlo i'r byw boen meddwl yr arlunydd.
Rwy'n ceisio gwneud pwynt o weld y llun hwn bob tro y byddaf yn ymweld â'r Amgueddfa, ac mae'n tynnu dagrau'n ddi-ffael.
L'Adorazione dei Magi - y ffresgo gan Giotto sydd wedi cyfareddu Christine

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Michelangelo, un o artistiaid mwyaf y Dadeni, sy'n enwog am y fath gampweithiau â cherflun mawreddog Dafydd a nenfwd Capel Sistina yn y Fatican.
Yn ôl traddodiad, wrth sefyll o flaen blocyn mawr, amrwd o farmor un tro, meddai Michaelangelo,
'Gwelais yr angel yn y marmor, ac es ati i naddu nes i mi ei ollwng yn rhydd.'
Cymerai fwy na diwrnod, wrth gwrs, i greu gwaith o'r fath, ond carwn i gael – os am ddiwrnod yn unig – y ddawn oedd gan Michelangelo i weld y potensial mawr sy'n bodoli eisoes yn hanfod pethau o bob math.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
Lle Oeddwn i: Christine James a'i henwebiad Archdderwydd







