Buodd Glen Johnson yn sôn wrth Cymru Fyw am rai o'r lleoliadau mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol yn ardal yr Eisteddfod eleni. Gyda miloedd o bobl yn setlo yn y de orllewin yn barod am wythnos o eisteddfota, bydd rhai o'r ardaloedd o amgylch Llantwd yn gobeithio elwa wrth i eisteddfodwyr grwydro.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi'i lleoli yng ngogledd Sir Benfro eleni, ond mae o fewn cyrraedd hawdd i drigolion Sir Gaerfyrddin a Cheredigion hefyd. Buodd Cymru Fyw yn holi'r hanesydd lleol Glen Johnson am ei gyngor ef ar rai o'r lleoliadau mwyaf arwyddocaol yn hanesyddol o amgylch Eisteddfod y Garreg Las.
Mae Glen yn gyfrifol am yr ystafell ymchwil a chasgliadau yng Nghastell Aberteifi, ac mae wedi crybwyll cefndir chwe lle o fewn cyrraedd i faes yr Eisteddfod.
Castell Cilgerran
!
Cafodd Castell Cilgerran ei gipio gan Llywelyn Fawr yn 1215
Ar gyrion y plwyf y mae Castell Cilgerran. Esboniodd Glen mai castell Normanaidd oedd hwn yn wreiddiol, yn dyddio cyn belled yn ôl ag 1108.
Cipiodd yr Arglwydd Rhys y castell yn 1165 ac yna William Marshal yn 1204, cyn i Llywelyn Fawr wneud yr un peth yn 1215.
"Mae dau dŵr anferth yno heddiw, gyda grisiau a phontydd yn rhoi mynediad i waliau'r castell ac i fynd mewn at loriau uchaf y tyrau," meddai Glen.
"Mae 'na dri ffigwr gwiail mawr wedi'u creu gan artist lleol yno hefyd a golygfeydd gwych o Afon Teifi a Cheunant Cilgerran o ben y muriau."
Mae'r castell sydd wedi'i adeiladu o gerrig yn dyddio'n bennaf rhwng 1223 - pan gafodd ei ailgipio gan fab William Marshal (William arall) - a thua 1300.
Abaty Llandudoch
!
Cymuned grefyddol o fynaich oedd yn Abaty Llandudoch tan 1536, cyn cael ei gau gan Harri VIII yn 1536
Cafodd y lleoliad yma ei ffurfio'n wreiddiol fel priordy yn 1113, cyn cael ei ddyrchafu i statws abaty ym 1121.
Bu Abaty Llandudoch yn gartref i "gymuned grefyddol o fynaich" tan 1536, pan gafodd ei gau gan Harri VIII a'i werthu i ffwrdd.
Ar ôl hynny cafodd plasty preifat ei adeiladu ar y safle, ond ei adael gan fod dau aelod olaf y teulu oedd yno wedi'u dienyddio yn ystod y Rhyfel Cartref yn y 1640au.
"Adfail sydd wedi bod yno ers hynny," meddai Glen, gan ychwanegu bod digon ar ôl yno i weithio allan sut y byddai wedi bod yno yn y Canol Oesoedd.
"Mae 'na nifer o waliau a grisiau wedi goroesi ac hefyd yr unig gladdgell (crypt) i'w chanfod mewn abaty Cymreig."
Yng nghanolfan ymwelwyr y Cartws yno, mae'n bosib gweld cerrig gyda gwaith naddu Cristnogol arnyn nhw sy'n dyddio rhwng y seithfed a'r 11eg ganrif.
Castell Aberteifi
!
Cafodd Castell Aberteifi ei ailadeiladu ym 1244
Wedi'i feddiannu bron heb doriad ers 1110, un Normanaidd oedd castell Aberteifi yn wreiddiol hefyd.
Cipiodd yr Arglwydd Rhys y castell yn 1165 a dyma lle y codwyd y castell cyntaf erioed o garreg gan Gymro.
I ddathlu ei gwblhau, cafodd digwyddiad - sydd bellach yn cael ei gydnabod fel yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf erioed - ei chynnal yno adeg Nadolig 1176.
Cafodd y castell ei ailadeiladu ym 1244 a bu llawer o frwydrau yno.
"Yn ddiweddarach, aeth yn dŷ preifat ac mae Castle Green House wedi'i gysylltu hefo'r tŵr gogleddol canoloesol."
Mae'r tŷ a'r adeiladau allanol yn dyddio'n bennaf o ddechrau'r 19eg ganrif.
"Gyda cherflun anferth o'r Arglwydd Rhys a Chadair Eisteddfodol enfawr, mae ymweliad â Chastell Aberteifi yn hanfodol i unrhyw Gymro Cymraeg!" meddai Glen.
Beddrod Siambr Pentre Ifan
!
Esboniodd Glen ei bod hi'n bosib bod Beddrod Siambr Pentre Ifan wedi cael ei orchuddio gan domen yn wreiddiol
"Mae Pentre Ifan yn un o'r henebion Oes y Cerrig gorau ym Mhrydain," yn ôl Glen.
"Wedi'i adeiladu tua 3500CC (5,500 o flynyddoedd yn ôl!), safle claddu oedd hwn ac mae'r garreg orchudd enfawr yn gorffwys ar bennau cul y meini sydd ar eu traed."
Esboniodd ei bod hi'n bosib ei fod wedi cael ei orchuddio gan domen yn wreiddiol, "er ei bod hi'n anodd credu nad oedd bwriad iddo gael ei weld a'i edmygu".
"Daeth y cerrig glas yng Nghôr y Cewri o'r Preseli ac mae rhywbeth hudolus am y cerrig a'r henebion yn yr ardal," ychwanegodd.
Pentref Oes Haearn Castell Henllys
!
Mae'r gaer wedi'i hamgylchynu gan lwybrau cerdded
Cafodd Castell Henllys ei adeiladu tua 600CC (2,600 o flynyddoedd yn ôl), fel fferm neu bentref ac mae'r cloddiau a'r ffosydd ar y safle yn rhai gwreiddiol.
"Yn y man lle daeth yr archeolegwyr o hyd i dyllau pyst, cafodd tri thŷ crwn a strwythurau eraill eu hadeiladu yma o 1980 ymlaen a'u dodrefnu i edrych fel y bydden nhw wedi edrych pan roedd y gaer yn cael ei defnyddio.
Mae'r gaer wedi'i hamgylchynu gan lwybrau cerdded a theithiau cerdded trwy goetir.
Mae canolfan ymwelwyr sy'n cynnig gwybodaeth a gweithgareddau ac mae digwyddiadau, teithiau a gweithdai rheolaidd yn cael eu cynnal ar y safle.
"Mae'r pethau yma i gyd yn helpu i ddod â Chymru Oes yr Haearn yn fyw!" Meddai Glen.
Croes Nanhyfer ac Eglwys Sant Brynach
!
Mae Croes Nanhyfer wedi'i gorchuddio â phatrymau Celtaidd
"Yn Eglwys Sant Brynach Nanhyfer, mae yno gasgliad o bethau difyr i'w gweld, gan gynnwys yr 'ywen sy'n gwaedu' chwedlonol.
"Maen nhw'n dweud ei bod hi'n gollwng ei gwaed, neu ei sudd, nes i Gymro feddiannu Castell Nanhyfer gerllaw unwaith eto.
"Dywedir bod cwcw gyntaf y flwyddyn yn canu ym mynwent yr eglwys ar Ddydd Sant Brynach bob gwanwyn."
Mae nifer o gerrig wedi'u naddu wrth yr eglwys, gan gynnwys un ag arysgrif Ogham Wyddelig.
"Ond y gorau o'r rhain yw Croes Nanhyfer - un o'r henebion Canoloesol cynnar gorau yng Nghymru, sydd wedi'i gorchuddio â phatrymau Celtaidd hardd ac wedi'i chodi tua'r flwyddyn 1035.
"Mae hi werth ymweld â'r eglwys ei hun hefyd, gyda chroesau, ffynhonnau bedydd a nodweddion diddorol eraill," ychwanegodd Glen.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Sut mae cyrraedd Maes Eisteddfod y Garreg Las?
'A wes whant dod i Lantwd?': Cyflwyniad i ardal y 'Steddfod
Pwysigrwydd carreg las Sir Benfro yn ddim byd ond stori, medd daearegwr







