Skip to main content
Advertisement

Tymor newydd â newidiadau mawr i Uwch Gynghrair Cymru

Mae Uwch Gynghrair Cymru yn newid yn sylweddol y tymor hwn, gyda 16 tîm, enw newydd, VAR ym mhob gêm a mwy o gemau nos Wener.

·4 min read
Cymru Prem

Ar drothwy tymor newydd o bêl-droed yng Nghymru, bydd newidiadau mawr i'w gweld yn Uwch Gynghrair Cymru y tymor hwn. Mae'r model 12 disglair wedi dod i ben, gyda mwy o glybiau yn cystadlu i geisio disodli Y Seintiau Newydd fel pencampwyr Cymru.

Ers dros ddwy flynedd mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn gweithio ar fodel newydd i'r gynghrair, a dyma rai o'r newidiadau mwyaf y bydd cefnogwyr yn eu gweld y tymor hwn.

Mwy o dimau

Bydd 16 o dimau yn cystadlu yn y gynghrair y tymor hwn, wyth yn y gogledd ac wyth yn y de.

Eleni bydd 16 clwb yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru. Ers dros 15 mlynedd, 12 clwb sydd wedi bod yn rhan o'r gynghrair.

Ond, yn dilyn ymgynghoriad gyda'r clybiau a'r cefnogwyr, bydd pedwar clwb ychwanegol y tymor hwn.

Ymysg y chwe chlwb gafodd ddyrchafiad ar ôl i'r Bala a Llanelli gael eu disodli'r tymor diwethaf, bydd tri ohonyn nhw yn chwarae yn y gynghrair am y tro cyntaf ers ei sefydlu yn 1992. Rhydaman, Trefelin a Cambrian United yw'r rheiny fydd yn ymuno â Threffynnon, Llandudno ac Airbus, sydd eisoes wedi cael cyfnodau yn yr haen uchaf.

Clybiau Cymru premier
Disgrifiad o’r llun, Bydd 16 o dimau yn cystadlu yn y gynghrair y tymor hwn, wyth yn y gogledd ac wyth yn y de

Enw newydd a strwythur newydd

Tlws Cymru Premier ac enw newydd y gynghrair

Enw swyddogol y gynghrair ar gyfer y tymor newydd fydd Novira Cymru Premier. Mae hynny oherwydd ymrwymiad y gynghrair gyda noddwyr newydd.

Mae'r logo yn newydd hefyd ac fe fydd strwythur y gynghrair hefyd yn newid.

Fe fydd pob tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi cartref. Ar ôl cwblhau'r gemau hynny, fe fydd y gynghrair yn cael ei rhannu'n dair haen.

Y brif haen - Bydd y timau sy'n gorffen yn y chwe safle uchaf yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Fe fydd y tîm sy'n gorffen ar y brig yn bencampwyr, a'r clybiau yn safleoedd 2-6 yn chwarae mewn gemau ail gyfle i sicrhau eu lle yn un o'r cystadlaethau Ewropeaidd.

Yr ail haen - Bydd y clybiau sy'n gorffen yn safleoedd 7-10 yn chwarae ei gilydd unwaith eto, gyda'r tîm sy'n gorffen yn seithfed yn hawlio'r lle olaf yn y gemau ail gyfle.

Y drydedd haen - Bydd gweddill y clybiau - sy'n gorffen yn safleoedd 11-16 - hefyd yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Fe fydd y ddau glwb sy'n gorffen ar waelod y tabl wedi'r gemau hynny yn disgyn o'r gynghrair. Fe fydd y clwb sy'n gorffen yn y 14eg safle yn chwarae mewn gêm ail-gyfle yn erbyn enillydd gêm ail-gyfle arall rhwng y timau a orffennodd yn ail yn y Novira Cymru North a'r Novira Cymru South.

Fe fydd 'na dechnoleg VAR ym mhob gêm gynghrair

Advertisement

Am y tro cyntaf erioed bydd technoleg fideo VAR yn cael ei defnyddio i gynorthwyo'r tîm dyfarnu yn Uwch Gynghrair Cymru.

Mae hyn yn newid enfawr i'r gêm yng Nghymru ac yn moderneiddio'r gêm i gydfynd â phrif gynghreiriau eraill yn Ewrop a'r byd sydd eisoes yn defnyddio VAR.

Felly, ar ôl pob gôl ac unrhyw benderfyniad dadleuol mawr, bydd ychydig o oedi wrth i'r VAR wirio os yw'r dyfarnwyr ar y cae wedi gwneud y penderfyniad cywir neu beidio.

Dyma o bosib yw'r newid mwyaf yn hanes y gynghrair, a'r un fydd yn hollti barn fwyaf gan fod VAR hyd heddiw yn bwnc dadleuol iawn ymysg cefnogwyr pêl-droed.

VAR
Disgrifiad o’r llun, Fe fydd 'na dechnoleg VAR ym mhob gêm gynghrair

Gemau nos Wener

Fe fydd y rhan fwyaf o gemau y tymor hwn yn cael eu chwarae dan y llifoleuadau ar nosweithiau Gwener.

Newid mawr arall yw bod y rhan fwyaf o'r gemau am gael eu chwarae ar nosweithiau Gwener drwy'r tymor.

Mae hyn yn cael gwared â'r slot 14:30 traddodiadol ar brynhawniau Sadwrn sydd wedi bod mewn grym ers blynyddoedd.

Mae ambell i gêm wedi cael eu cynnal ar nosweithiau Gwener, ond mae hynny yn cynnwys gemau ble nad yw'r clybiau yn teithio'n bell yn ddaearyddol.

Ond, mae'r rheol yna bellach wedi diflannu felly fe allwch weld gemau rhwng clybiau yn y gogledd fel Caernarfon a Hwlffordd yn y de orllewin yn cael eu chwarae ar nosweithiau Gwener o hyn allan.

Hwlffordd
Disgrifiad o’r llun, Fe fydd y rhan fwyaf o gemau y tymor hwn yn cael eu chwarae dan y llifoleuadau ar nosweithiau Gwener

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb:

Cynghrair y Cymru Premier i ehangu o 12 i 16 tîm

Newidiadau mawr ar y gweill i'r Cymru Premier

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News